Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Miloedd o fyfyrwyr yn cael eu canlyniadau TGAU
- Biliau ynni blynyddol yn codi £149 ym mis Hydref
- Storm Lilian wedi achosi problemau i deithwyr
- Y cerddor ac actor Dewi ‘Pws’ Morris wedi marw yn 76 oed
Miloedd o fyfyrwyr yn cael eu canlyniadau TGAU
Roedd miloedd o fyfyrwyr wedi cael eu canlyniadau TGAU yr wythnos yma.
Yng Nghymru roedd y graddau TGAU wedi disgyn yn agos i lefelau cyn y pandemig.
Mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC/JCQ) yn dweud bod y canlyniadau eleni yn debyg i’r rhai cyn y pandemig yn 2019. Ond maen nhw’n dweud bod angen bod yn ofalus cyn cymharu canlyniadau’r blynyddoedd cyn hyn gan fod y “dulliau asesu a’r amgylchiadau yn wahanol”.
Eleni oedd y tro cyntaf i Gymru fynd yn ôl i lefelau graddio arholiadau cyn pandemig Covid-19.
Mae’r system graddio newydd oedd wedi dechrau yn 2020, yn golygu mai 9 ydy’r radd uchaf ac 1 ydy’r radd isaf.
Mae 18.3% o’r graddau TGAU yng Nghymru yn radd A/7 neu’n uwch. Mae hyn yn cymharu gyda 21.7% y llynedd.
Roedd 62.2% o’r graddau TGAU yng Nghymru yn raddau A*-C – roedd yn 65.6% y llynedd.
O’u cymharu â 2019 mae graddau A*/9 – A/7 i fyny 0.8%, A*/9 – C/4 i lawr o 0.6% a graddau A 8/9 – G/1 i lawr 0.4%.
Lynne Neagle ydy Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae hi wedi llongyfarch disgyblion a dywedodd bod y canlyniadau yn “garreg filltir fawr”.
“Dylai pob un ohonoch chi fod yn falch iawn o’r gwaith caled, yr ymroddiad a’r gallu rydych chi wedi’i ddangos.”
Biliau ynni blynyddol yn codi £149 ym mis Hydref
Fe fydd biliau ynni blynyddol yn codi tua £149 ym mis Hydref.
Ofgem ydy’r corff sy’n goruchwylio’r diwydiant ynni. Roedden nhw wedi cyhoeddi cap newydd ar brisiau ddydd Gwener (23 Awst).
Bydd y cap ar filiau yn codi 10% o 1 Hydref. Mae’n golygu y bydd pobl yn talu £1,717 ar gyfartaledd y flwyddyn am nwy a thrydan.
Mae’n debyg bod cynnydd arall mewn prisiau yn debygol ym mis Ionawr.
Mae Ofgem yn dweud bod y cynnydd yma oherwydd bod prisiau yn y farchnad ynni rhyngwladol yn codi. Mae tensiynau gwleidyddol a thywydd eithafol yn golygu bod prisiau wedi codi.
Mae’r arian oedd ar gael i bobl i helpu efo biliau hefyd wedi cael ei dorri.
Mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dorri o fis Hydref.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddan nhw’n parhau i gefnogi pensiynwyr ac yn dweud y bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Storm Lilian wedi achosi problemau i deithwyr
Roedd Storm Lilian wedi achosi problemau i deithwyr ddydd Gwener (23 Awst).
Roedd coed wedi cwympo ar draws Cymru oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Cafodd gyrwyr rhybudd i fod yn ofalus ac roedd rhai ffyrdd wedi cau.
Roedd problemau ar y trenau hefyd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod coeden wedi syrthio ar y lein ym Mhengam, yn Sir Caerffili. Roedd hyn wedi effeithio teithiau i’r gogledd dros dro rhwng Caerffili a Rhymni.
Roedd coeden ar y lein rhwng Yr Amwythig a Wolverhampton gan achosi problemau i deithwyr.
Cafodd yr M48 Pont Hafren ei chau i’r ddau gyfeiriad.
Roedd Pont Cleddau yn Sir Benfro a Phont Britannia yn Ynys Môn ar gau i gerbydau uchel. Roedd Pont Britannia hefyd ar gau i feiciau modur, beiciau a charafanau.
Y cerddor ac actor Dewi ‘Pws’ Morris wedi marw yn 76 oed
Mae Dewi ‘Pws’ Morris wedi marw yn 76 oed ar ôl salwch byr.
Roedd yn gerddor, actor, awdur, digrifwr, cyflwynydd, a bardd.
Cafodd ei eni yn ardal Treboeth yn Abertawe. Roedd yn athro cyn troi at actio a chanu.
Mae llawer iawn o deyrngedau wedi cael eu rhoi iddo. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel “cymeriad unigryw” a “perfformiwr amryddawn”.
Mae’n cael ei gofio am berfformio ar lwyfannau ar draws Cymru ac am gyflwyno ac actio mewn nifer o raglenni teledu.
Roedd wedi actio yn Pobol y Cwm rhwng 1974 a 1987, y rhaglen i blant Miri Mawr, a’r gyfres Rownd a Rownd.
Roedd hefyd wedi actio yn y ffilm o’r 1970au Grand Slam ac wedi ennill gwobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2003 am y gyfres Byd Pws.
Roedd yn aelod o’r bandiau Tebot Piws ac Edward H Dafis.
Enillodd Dewi Pws gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 am ‘Nwy yn y Nen’.
Roedd hefyd yn awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys Popeth Pws, Hiwmor Pws ac Wps.
Roedd yn Fardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011.
Mae’r actores Sharon Morgan yn dweud “mae’n anodd meddwl am Dewi Pws heb wenu”.
“Ro’n i wedi gweithio lot gyda fe fel actor yn y 1970au, pan o’n i’n gweithio gyda Chwmni Theatr Cymru… Wedyn, wnes i weithio gyda fe yn y ffilm Grand Slam. Roedd e wastad yn gwneud i rywun chwerthin ac yn codi calon. Hyfryd iawn!”
Mae’r cerddor Ryland Teifi yn dweud bod Dewi Pws yn “arloeswr comedi, cyfansoddwr caneuon meistrolgar, diddanwr, actor ond, yn fwy na dim, ffrind i bawb ddaeth i’w gwmni”.
Roedd yn byw yn Nefyn ac mae’n gadael ei wraig, Rhiannon.