Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Sac i Suella a Cameron yn ôl yn y Cabinet
  • Pwyllgor Safonau’r Senedd yn ymchwilio i AS Ynys Môn Virginia Crosbie
  • Dafydd Iwan yn galw ar y Brenin Charles i roi cestyll y gogledd yn ôl i Gymru
  • Enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod yr Urdd yn lansio’r dyddiadur gofidiau cyntaf yn y Gymraeg

Suella Braverman

Sac i Suella a Cameron yn ôl yn y Cabinet

Roedd y Prif Weinidog Rishi Sunak wedi ad-drefnu ei Gabinet ddydd Llun. Roedd un penodiad wedi synnu llawer o Aelodau Seneddol.

Cafodd Suella Braverman ei diswyddo fel Ysgrifennydd Cartref. James Cleverley sydd wedi cymryd ei lle. Roedd hyn wedi gadael bwlch yn y Swyddfa Dramor. Yr Arglwydd David Cameron sydd wedi cael swydd yr Ysgrifennydd Tramor. Mae llawer o Geidwadwyr yn anhapus iawn gyda hyn.

Roedd yr Arglwydd Cameron yn ôl wrth fwrdd y Cabinet ddydd Mawrth. Roedd o wedi ymddiswyddo fel prif weinidog a rhoi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol ar ôl colli refferendwm Brexit yn 2016.

Dywedodd ei fod eisiau cefnogi Rishi Sunak trwy “swydd anodd ar amser caled”.

Ond mae’r penderfyniad wedi achosi rhwyg ymysg ASau yn y Blaid Geidwadol.

Mae’r Fonesig Andrea Jenkyns wedi anfon llythyr o ddiffyg hyder yn Rishi Sunak i Bwyllgor meinciau cefn 1922 y blaid oherwydd y penderfyniad.

Roedd disgwyl i Suella Braverman gael ei diswyddo ar ôl iddi gyhuddo’r heddlu o ragfarn. Mae hi wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog. Mae hi’n cyhuddo Rishi Sunak o’i “bradychu” am ei addewid i “atal y cychod” rhag croesi’r Sianel.


Virginia Crosbie

Pwyllgor Safonau’r Senedd yn ymchwilio i AS Ynys Môn Virginia Crosbie

Mae Pwyllgor Safonau’r Senedd yn ymchwilio i Aelod Seneddol Ynys Môn Virginia Crosbie.

Mae Comisiynydd Safonau Tŷ’r Cyffredin, Daniel Greenberg, yn ymchwilio i ymddygiad Virginia Crosbie.  Mae hyn ar ôl iddi fynd i ddigwyddiad yn ystod cyfnod cyfyngiadau Covid-19.

Mae ymchwiliad hefyd i’r Fonesig Eleanor Laing. Mae honiadau eu bod wedi cynnal digwyddiad i ddathlu eu pen-blwydd ar 8 Rhagfyr 2020.

Dywedodd y Comisiynydd ddydd Iau (Tachwedd 16) bod Virginia Crosbie dan amheuaeth o fod wedi ymddwyn mewn modd a wnaeth achosi “niwed sylweddol i enw da” Tŷ’r Cyffredin.

Mae Virginia Crosbie wedi ymddiheuro am fynd i’r digwyddiad ond dywedodd nad oedd hi wedi anfon y gwahoddiadau ac nad oedd wedi yfed yn ystod y digwyddiad.


Y Tywysog Charles a Dafydd Iwan
Y Tywysog Charles a Dafydd Iwan yn Llwynywermod yn 2019

Dafydd Iwan yn galw ar y Brenin Charles i roi cestyll y gogledd yn ôl i Gymru

Mae Dafydd Iwan wedi galw ar y Brenin Charles i roi cestyll Normanaidd gogledd Cymru yn ôl i’r genedl.

Mae Dafydd Iwan yn ganwr ac ymgyrchydd. Mae’n dweud ei fod wedi cael ei syfrdanu ar ôl darganfod fod cestyll Caernarfon, Biwmares, Harlech, Conwy a’r Fflint yn eiddo i Ystâd y Goron. Mae hyn er eu bod nhw’n cael eu rheoli gan Cadw.

Cafodd un o ganeuon enwocaf Dafydd Iwan, ‘Carlo’, ei hysbrydoli gan Arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969.

Castell Conwy

Mae’r canwr wedi cyhoeddi hunangofiant, Dafydd Iwan: Still Singing Yma o Hyd.

Roedd o wedi trio trefnu cyngerdd yng Nghastell Caernarfon i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed, a 40 mlynedd ers cyfansoddi’r gân Yma o Hyd. Mae’n dweud dyna pryd roedd o wedi darganfod bod y cestyll dal yn eiddo i Ystâd y Goron.

Mae’n dweud bod hyn “yn newyddion rhyfeddol i mi”.

Os ydy Cymru yn ennill annibyniaeth, mae Dafydd Iwan yn credu y dylai fod gan y bobol y grym i gael gwared ar y Teulu Brenhinol a dod yn weriniaeth.

“Ar ôl annibyniaeth, bydd pobol Cymru yn gallu penderfynu pa rôl, os o gwbl, maen nhw am i’r Teulu Brenhinol ei chwarae.

“Yn bersonol, dw i am i Gymru fod yn weriniaeth ddemocrataidd rydd gydag Arlywydd etholedig.

“A cham cyntaf gwych fyddai i’r Goron ddychwelyd at bobol Cymru ei heiddo, gan gynnwys ein rhanbarthau arfordirol cyfoethog a’r cestyll adeiladwyd gan Edward i’n cadw yn ein lle.”


Gwilym Morgan

Enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod yr Urdd yn lansio’r dyddiadur gofidiau cyntaf yn y Gymraeg

Mae enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod yr Urdd eleni yn lansio’r dyddiadur gofidiau cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Mae Gwilym Morgan yn dod o Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf. Mae o wedi bod yn dylunio a gwerthu llyfrau nodiadau dwyieithog am deithio a ‘dyddiaduron gofidiau’ ar Amazon, GM Notebooks, ers 2021.

Y mis yma, bydd yn cyhoeddi’r ‘dyddiadur gofidiau’ cyntaf yn y Gymraeg gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’n gobeithio y bydd mwy o siaradwyr Cymraeg yn teimlo eu bod nhw’n gallu siarad am eu lles meddwl yn yr iaith.

Mae Gwilym Morgan eisiau astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf.

Mae’n dweud ei fod wedi creu ei ‘ddyddiadur gofidiau’ cyntaf ar ôl i’w chwaer fach ddioddef gyda gorbryder.

“Roedd fy mam wedi clywed am fuddion ysgrifennu mewn dyddlyfr ar-lein, ac yn edrych am un i fy chwaer. Ond roedd y dyddiaduron gofidiau welodd hi i gyd yn ddrud iawn, felly wnes i geisio gwneud un fy hun.

“Gan ddefnyddio Canva, wnes i ddylunio dyddiadur gofidiau yn ôl chwaeth fy chwaer fach.

“Fe wnaeth y dyddiadur gofidiau helpu fy chwaer i reoli ei gorbryder. Rhoddodd y syniad i mi ddechrau eu gwerthu ar Amazon.”

Roedd Gwilym Morgan wedi lansio GM Notebooks gyda help gan Syniadau Mawr Cymru. Mae’n wasanaeth sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cefnogi unrhyw un rhwng pump a 25 oed i ddatblygu syniad busnes.

“Wnes i erioed fynd ati i fod yn entrepreneur,” meddai Gwilym.

Mae’n dweud ei fod eisiau “cefnogi pobol sydd eisiau defnyddio neu ymarfer eu Cymraeg ym mhob agwedd ar eu bywyd.”

Mae Gwilym Morgan hefyd yn gwerthu ei lyfrau nodiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan deithio. Mae’n defnyddio ffotograffau gafodd eu tynnu ar ei deithiau.

Mae e hefyd yn trafod gyda siopau annibynnol yng Nghaerdydd i ddechrau gwerthu ei lyfrau nodiadau.