Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Dominic Cummings yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid-19
  • Gwahardd plastig untro yng Nghymru
  • Lansio cynllun i brynu Marina Felinheli
  • Gêm Scrabble ar gael yn iaith Gaeleg yr Alban

Boris Johnson

Dominic Cummings yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid-19

Mae Dominic Cummings wedi bod yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid-19 yr wythnos hon.

Fe oedd cyn-ymgynghorydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn Rhif 10.

Roedd Dominic Cummings wedi dweud bod “anrhefn” yn Downing Street. Mae wedi beirniadu Boris Johnson am beidio gwneud penderfyniadau yn gynt yn ystod y pandemig.

Mae’r ymchwiliad wedi clywed nad oedd Boris Johnson yn credu bod Covid yn mynd i gael llawer o effaith a bod ei ffocws ar bethau eraill. Er bod y sefyllfa mewn gwledydd eraill yn ddifrifol iawn roedd Boris Johnson yn “amharod i ymateb”.

Mae Dominic Cummings hefyd wedi dweud bod cyfarfodydd Covid yn Downing Street gyda llywodraethau Cymru a’r Alban yn “berfformiadau”. Mae’n dweud nad oedd penderfyniadau o ddifri yn cael eu gwneud.

Doedd Llywodraeth y DU “ddim yn gallu penderfynu ar faterion pwysig” am Covid pan oedd llywodraethau Cymru a’r Alban a gweinidogion eraill yn bresennol, meddai.

Roedd Dominic Cummings eisiau cael cyfarfodydd Covid heb gynnwys llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae wedi dweud ei fod yn gwneud “mwy o synnwyr” bod y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar beth oedd yn digwydd ar y diwrnod.

“Doedd gofyn iddo siarad efo’r llywodraethau datganoledig ddim yn helpu’r achos,” meddai.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.


Gwahardd plastig untro yng Nghymru

Mae llawer o gynhyrchion plastig untro wedi eu gwahardd yng Nghymru o ddydd Llun, Hydref 30.

Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng hinsawdd.

Bydd y ddeddf newydd yn lleihau’r llygredd plastig yn yr amgylchedd, trwy wahardd rhai cynhyrchion plastig untro.

Bydd yn anghyfreithlon i fusnesau gynnig llawer o gynhyrchion plastig tafladwy fel cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc i’w cwsmeriaid yng Nghymru.

Bydd cwpanau a bocsys bwyd tecawe sydd wedi’u gwneud o bolystyren hefyd yn cael eu gwahardd, a gwellt yfed plastig untro.

Bydd busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus fel ysgolion a chynghorau yn torri’r gyfraith os ydyn nhw’n darparu y cynnyrch yma o hyn ymlaen.

Bydd busnesau yn gallu defnyddio pethau tafladwy sydd ddim yn blastig sydd wedi’i gwneud o bethau fel papur, cardfwrdd neu bren.


Lansio cynllun i brynu Marina Felinheli

Mae menter gymunedol wedi lansio cynllun i drio prynu harbwr a marina Felinheli yng Ngwynedd.

Mae Menter Felinheli am werthu cyfranddaliadau er mwyn codi £300,000 yn ystod mis Tachwedd. Bydd pob cyfran yn werth £100.

Mae Menter Felinheli yn dweud bod y targed yn “uchelgeisiol ond realistig”.

Roedd y cwmni oedd yn berchen y marina wedi mynd yn fethdalwr yn gynharach eleni.

Mae Menter Felinheli yn gobeithio y bydd cael grantiau a chefnogaeth ariannol leol yn rhoi’r marina yn nwylo’r gymuned am y tro cyntaf.

Mae Menter Felinheli hefyd wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Sir Gwynedd.

Mae’r cyflwynydd radio a theledu Tudur Owen yn un o’r rhai sy’n arwain y fenter.

“Mae nifer o fentrau eraill wedi llwyddo a does yna ddim rheswm pam nad all pobol yr ardal yma lwyddo hefyd,” meddai.

Mae Gwyn Roberts hefyd yn rhan o’r fenter. Mae’n dweud bydd prynu’r marina ar ran pobol leol yn helpu’r pentref cyfan. Bydd elw o’r marina yn cael ei ddefnyddio i helpu prosiectau a mentrau lleol eraill, meddai.

Does dim rhaid byw yn yr ardal i brynu cyfranddaliadau.

Mae’n bosib prynu cyfranddaliadau drwy’r wefan menterfelinheli.cymru


Dr Teàrlach Wilson

Gêm Scrabble ar gael yn iaith Gaeleg yr Alban

Mae’r gêm Scrabble ar gael yn iaith Gaeleg yr Alban.

Dr Teàrlach Wilson ydy cyfarwyddwr canolfan ddiwylliannol An Taigh Cèilidh yn Stornaway yn yr Alban. Roedd e wedi gofyn i gwmni Tinderbox Games yn Llundain greu Scrabble Gaeleg.

Mae’r bwrdd a’r rheolau yn iaith Gaeleg yr Alban. Dim ond 18 llythyren sydd yn wyddor Gaeleg yr Alban – nid yw’n defnyddio’r llythrennau J, K, Q, V, W, X, Y neu Z. Fe fydd y llythrennau yma yn cael eu tynnu o’r gêm Scrabble newydd. Mae acenion ar rai o’r teils sef À È Ì Ò Ù.

Dywedodd Dr Wilson ei fod wedi chwarae Scrabble Cymraeg llawer o weithiau a’i fod yn falch bod fersiwn ar gael yn y Gaeleg.

Mae’n gobeithio y bydd y gêm yn rhoi hwb i’r iaith.

“Yn wahanol i’r Gymraeg, mae llawer iawn o siaradwyr Gaeleg yn methu ysgrifennu neu ddarllen Gaeleg. Mae hyn oherwydd diffyg addysg oedd ar gael cyn yr 80au. Felly, bydd Scrabble Gàidhlig yn help mawr i sawl fath o siaradwr.”

Mae tua 58,000 yn siarad Gaeleg yn yr Alban, meddai Dr Teàrlach Wilson.

I lansio’r Scrabble Gaeleg, bydd canolfan An Taigh Cèilidh yn cynnal Pencampwriaethau Scrabble y Byd Gaeleg cyntaf erioed ar 2 Rhagfyr 2023.

“Alla’i ddim aros i chwarae,” meddai Dr Teàrlach Wilson.

Cafodd Scrabble ei dyfeisio yn 1948. Cafodd y Scrabble Cymraeg ei chyflwyno ym mis Medi 2005.