Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Medalau’r dysgwyr i Gwilym Morgan ac Yvon-Sebastien Landais
  • Diarddel Aelod Seneddol Llafur ar ôl “honiadau difrifol iawn”
  • Rhun ap Iorwerth am sefyll i arwain Plaid Cymru
  • Teyrngedau i’r Americanwr Phil Wyman oedd wedi dysgu Cymraeg

Medalau’r dysgwyr i Gwilym Morgan ac Yvon-Sebastien Landais

Mae Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 wedi cael ei chynnal yn Llanymddyfri yr wythnos yma.

Dydd Mawrth (Mai 30) cafodd enwau enillwyr medalau’r dysgwyr eu cyhoeddi.

Gwilym Morgan o Ben-y-bont ar Ogwr oedd wedi ennill Medal y Dysgwyr (Blwyddyn 10 ac o dan 19 oed).

Yvon-Sebastien Landais (Seb) o Ddinbych y Pysgod oedd wedi ennill Medal Bobi Jones.

Mae cystadleuaeth Medal Bobi Jones yn gwobrwyo pobol 19 i 25 oed sy’n dysgu Cymraeg.

Mae Medal y Dysgwyr yn gwobrwyo pobol ifanc Blwyddyn 10 hyd at 19 oed sydd wedi dysgu Cymraeg.

I ennill y fedal, roedd rhaid i’r cystadleuwyr ddangos sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith, ac yn gymdeithasol. Roedden nhw hefyd yn gorfod dangos sut maen nhw’n hyrwyddo’r Gymraeg i bobol eraill.

Medal y Dysgwyr

Roedd 11 o bobol wedi cystadlu.

Roedden nhw wedi cael sawl tasg. Roedd yn cynnwys:

  • ysgrifennu brawddegau yn cyflwyno’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol;
  • gwneud cyfweliad gyda’r beirniaid Gwyneth Price a Rhodri Siôn;
  • sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Wyn Jones, Llywydd y Dydd.

Mae Gwilym Morgan yn mynd i Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf. Roedd e wedi dechrau dysgu Cymraeg ar gyfer Lefel A.

Roedd ei fam wedi dechrau dysgu Cymraeg yn 2015.

Dywedodd Gwilym: “Penderfynais i ddysgu Cymraeg achos dw i’n caru’r iaith.

Yn ddiweddar, dw i wedi ymuno â’r Urdd i gael mwy o gyfleoedd.”

Daisy Haikala o Lanfaes yn Aberhonddu oedd yn ail, a Niki Scherer o Fangor yn drydydd.

Seb Landais

Medal Bobi Jones: 19-25 oed

Seb Landais ydy’r unig un yn ei deulu sy’n siarad Cymraeg.

Ond roedd ei hen-hen fam-gu a hen-hen dad-cu yn siarad Cymraeg.

Dechreuodd e ddysgu Cymraeg ar-lein gyda Duolingo, ac mae’n mwynhau siarad yr iaith bob cyfle.

“Dechreuais i ddysgu Cymraeg achos Cymro dw i, a dw i eisiau mynd drwy Gymru a siarad gyda phobol yn Gymraeg,” meddai.

“Pryd bynnag dw i gyda phobol Cymraeg, dw i eisiau siarad gyda nhw yn Gymraeg hefyd.”


Geraint Davies

Diarddel Aelod Seneddol Llafur ar ôl “honiadau difrifol iawn

Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe wedi cael ei ddiarddel gan y blaid.  Mae hyn yn dilyn “honiadau eithriadol o ddifrifol”.

Mae honiadau yn Politico [gwefan wleidyddol] bod Geraint Davies wedi rhoi “sylw rhywiol dieisiau” i bump menyw yn San Steffan. Mae’n 63 oed ac yn briod gyda dau o blant. Mae e wedi colli chwip y blaid oherwydd yr ymchwiliad. Mae’n golygu ei fod e’n Aelod Seneddol annibynnol am y tro.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur bod yr honiadau am “ymddygiad cwbl annerbyniol”. Maen nhw’n annog unrhyw un sydd eisiau gwneud cwyn i fynd atyn nhw.

Mae’r menywod yn honni bod Geraint Davies wedi mynd atyn nhw, yn aml mewn bariau yn San Steffan gyda’r nos.

Roedd un ohonyn nhw’n 19 oed ar y pryd.

Mae Geraint Davies yn gwadu’r honiadau.

Roedd yn Aelod Seneddol Canol Croydon yn Surrey rhwng 1997 a 2005. Fe gafodd ei ethol yng Ngorllewin Abertawe yn 2010.

Mewn datganiad, dywedodd Geraint Davies: “Os ydw i wedi sarhau unrhyw un heb yn wybod i mi, yna dw i’n naturiol yn sori gan ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n rhannu amgylchedd o barch cyfartal at ein gilydd.”


Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth am sefyll i arwain Plaid Cymru

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod am sefyll i arwain Plaid Cymru.

Rhun ap Iorwerth ydy Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn. Fo yw’r ymgeisydd cyntaf yn y ras i olynu Adam Price. Roedd o wedi ymddiswyddo’n ddiweddar.

Roedd hynny ar ôl i adroddiad gael ei gyhoeddi oedd yn dweud bod diwylliant o ofn yn y blaid. Roedd hyn yn dilyn honiadau o fwlio a diwylliant o fisogynystiaeth ac aflonyddu. Dywedodd yr adroddiad bod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price.

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud fod y blaid “ar groesffordd” a bod ganddyn nhw “heriau difrifol” oherwydd yr adroddiad. Mae’n dweud bod y blaid “o ddifrif am y dasg o’n blaenau“.

Mae o hefyd eisiau cynniggweledigaeth o beth all Cymru fod”.

Roedd Rhun ap Iorwerth wedi herio Adam Price a Leanne Wood am yr arweinyddiaeth yn 2018. Daeth yn ail.

Mae Delyth Jewell wedi dweud na fydd hi’n sefyll yn y ras i arwain Plaid Cymru. Mae’r Llywydd Elin Jones hefyd wedi dweud na fydd hi’n sefyll.

Llŷr Gruffydd ydy arweinydd dros dro Plaid Cymru.


Phil Wyman

Teyrngedau i’r Americanwr Phil Wyman oedd wedi dysgu Cymraeg

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r Americanwr Phil Wyman sydd wedi marw’n sydyn. Roedd yn 64 oed.

Roedd yn byw yng Nghaernarfon ac wedi dysgu Cymraeg.

Roedd yn awdur, cerddor, bardd, athronydd a chyn-weinidog. Roedd yn dod o Salem, Massachussetts yn wreiddiol. Roedd wedi teithio i Gymru llawer o weithiau cyn penderfynu dod i Gymru i fyw yn barhaol.

Ar ôl iddo fynd i Gastell Caernarfon roedd o wedi addo cerdded o amgylch Cymru am flwyddyn gyfan heb siarad dim byd ond Cymraeg.

Roedd o wedi syrthio mewn cariad gyda Chaernarfon a’r Gymraeg.

Roedd Phil am ddechrau ar y daith gerdded ‘Dim Saesneg’ yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst eleni. Roedd o eisiau i ddysgwyr eraill ddod gydag o ar y daith.

Roedd yn gweithio i Undeb Bedyddwyr Cymru, ac yn mynd i ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod a Glastonbury gyda’i waith.

Daeth i Gymru am y tro cyntaf yn 2003, ac wedi symud yma’n barhaol yn ddiweddar.

Chris Jones ydy cyflwynydd y podlediad Cymeriadau Cymru. Dywedodd fod marwolaeth Phil Wyman yn “newyddion trist iawn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Capel Caersalem yng Nghaernarfon, bod Phil Wyman yn “ymwelydd cyson” â nhw.

“Roedd ei alwad a’i weinidogaeth yn unigryw ac yn mynd â’r sgwrs am fywyd, ffydd a phwrpas yn bell tu hwnt i furiau’r capel mewn ffordd nad oes llawer yn medru gwneud.”

“Roedd yn bererin, a bu’n grwydryn (yn ystyr lythrennol y gair!) ond fe ddyfnhaodd hyn ei ffydd ac yng nghanol y profiadau hynny daeth yr alwad i Gymru yn rhan o’i stori.”