Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Awdurdod Datganoli Darlledu yn “wastraff arian”
- Tom Lockyer yn ôl yng ngharfan Cymru
- Comedïwr wedi’i sarhau’n wrth-Semitaidd yng Nghaeredin
- Problemau meysydd awyr ac oedi hir yn “hunllef”
Awdurdod Datganoli Darlledu yn “wastraff arian”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod sefydluAwdurdod Datganoli Darlledu yn “wastraff arian”.
Mae Tom Giffard, llefarydd diwylliant y blaid, yn galw’r syniad yn “brosiect gwagedd” oherwydd dydy darlledu ddim wedi cael ei ddatganoli i Gymru eto.
Roedd staff Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi anfon e-bost yn gwrthwynebu‘r penderfyniad i sefydlu’r awdurdod.
Maen nhw’n poeni am yr effaith ar y cyfryngau lleol yng nghefn gwlad, a dirywiad newyddiaduraeth budd y cyhoedd.
Mae Tom Giffard eisiau i’r arian gael ei fuddsoddi mewn meysydd eraill.
Ond mae Plaid Cymru eisiau datganoli darlledu, ac yn dweud ei fod yn fater rhy bwysig i’w oedi.
Tom Lockyer yn ôl yng ngharfan Cymru

Mae Tom Lockyer yn ôl yng ngharfan bêl-droed Cymru.
Cafodd e lawdriniaeth ar ei galon ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Roedd e wedi bod yn sâl ar y cae pan oedd e’n chwarae i Luton yn Wembley.
Bydd tîm Rob Page yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn De Corea yng Nghaerdydd nos Iau (Medi 7), a Latfia yng ngemau rhagbrofol Ewro 2024 nos Lun, Medi 11
Mae tri chwaraewr newydd yn y garfan – Tom King, Morgan Fox a Liam Cullen.
Ond mae Dan James wedi anafu ei goes.
Dydy Cymru erioed wedi chwarae yn erbyn De Corea o’r blaen.
Comedïwr wedi cael ei sarhau’n wrth-Semitaidd yng Nghaeredin

Roedd y comedïwr Iddewig Bennett Arron wedi dioddef gwrth-Semitiaeth yng Ngŵyl Caeredin.
Mae’r dyn o Bort Talbot yn dweud bod asiant wedi ei sarhau e yn ystod ei sioe ‘Loser’.
Roedd yr asiant wedi gweiddi arno mewn bar lle roedd teulu Arron Bennett yn gwylio’r sioe.
Mae Bennett Arron yn dweud bod y digwyddiad wedi difetha gŵyl hyfryd.
Problemau meysydd awyr ac oedi hir yn “hunllef”
Roedd problemau mewn meysydd awyr yr wythnos hon yn “hunllef” i bobol o Gymru oedd eisiau hedfan adref.
Roedd problemau gyda system rheoli gofod awyr wedi cael eu datrys yn eithaf cyflym.
Ond roedd oedi am rai dyddiau wedyn.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i gannoedd o awyrennau gael eu canslo ar ddechrau’r wythnos.