Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Athrawon yn derbyn cynnig cyflog newydd gan osgoi streic
  • Pleidlais o ddiffyg hyder yn y gweinidog iechyd yn methu
  • Teuluoedd ar incwm isel yn cael mynd i Eisteddfod yr Urdd am ddim
  • Dysgwr Cymraeg o Mosgo yn cyhoeddi Geiriadur Cymraeg-Rwsieg
  • Yr actor Dafydd Hywel wedi marw yn 77 oed

Athrawon yn derbyn cynnig cyflog newydd gan osgoi streic

Mae aelodau undeb athrawon Cymru wedi derbyn cynnig cyflog newydd.

Mae hyn ar ôl i’r athrawon fod yn streicio. Roedden nhw am streicio eto ond mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig mwy o gyflog iddyn nhw.

Mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn dweud bod athrawon wedi cytuno i godiad cyflog cyffredinol o 8% eleni.

Jeremy Miles ydy’r gweinidog addysg. Mae e’n dweud fod hyn yn “newyddion da i ddisgyblion, rhieni ac athrawon”.

Mae’r cytundeb yn golygu y bydd athrawon yng Nghymru yn cael codiad cyflog o 8% yn 2022/23. Bydd hyn yn cael ei ôl-ddyddio i fis Medi 2022.

Mae’n cynnwys codiad o 6.5% yn eu cyflog blynyddol ac un taliad o 1.5%.

Roedd streic athrawon ar 1 Chwefror a 2 Mawrth wedi effeithio miloedd o ysgolion ar draws Cymru.

Roedd disgwyl i athrawon streicio eto am ddau ddiwrnod ar 15 a 16 Mawrth, ond mae’r cynnig newydd wedi osgoi streic arall.

Mae’r NEU wedi dweud na fydden nhw wedi cael y cynnig newydd os oedden nhw heb streicio.


Eluned Morgan

Pleidlais o ddiffyg hyder yn y gweinidog iechyd yn methu

Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn y gweinidog iechyd wedi methu.

Y Ceidwadwyr Cymreig oedd wedi gwneud y cynnig o ddiffyg hyder.

Roedden nhw’n cyhuddo Eluned Morgan o drio osgoi cyfrifoldeb am y methiannau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Roedd 26 wedi pleidleisio o blaid y cynnig, a 29 yn erbyn.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru wedi cael ei roi o dan fesurau arbennig am yr ail waith. Mae hyn oherwydd pryderon am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant y bwrdd.

Roedd cadeirydd, is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd wedi cytuno i adael eu swyddi.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Eluned Morgan i ymddiswyddo ac roedd Plaid Cymru wedi cefnogi’r cynnig o ddiffyg hyder.

Dywedodd Eluned Morgan wrth y Senedd ei bod hi eisiau rhoi “y gwasanaeth iechyd a gofal gorau posibl i bobl Cymru. Dw i eisiau i GIG Cymru lwyddo.”

Dywedodd y byddai’n aros yn weinidog os oedd ganddi hyder y Prif Weinidog Mark Drakeford.


Teuluoedd ar incwm isel yn cael mynd i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin am ddim

Bydd teuluoedd ar incwm isel yn cael mynd i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin am ddim eleni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £150,000 fel bod yr Urdd yn gallu sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynd i’r Eisteddfod.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri rhwng Mai 29 a Mehefin 3.

Roedd pawb wedi cael mynd i Eisteddfod Sir Ddinbych am ddim y llynedd. Roedd hynny oherwydd bod yr Urdd yn dathlu ei ganmlwyddiant.

Mae dwy ffordd i gael tocynnau am ddim.

Fe fydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodau £1 yr Urdd efo manylion hawlio tocynnau, a chod disgownt.

Fe fydd teuluoedd yn gallu llenwi ffurflen gais ar wefan yr Urdd.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Ein gobaith fel mudiad yw sicrhau ‘Urdd i Bawb’ a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gystadlu ac elwa o weithgareddau’r Urdd.”

Jeremy Miles ydy Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru.

Mae e’n dweud: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac yn ffordd wych i’n plant a’n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol sydd ar gael.”

Bydd tocynnau Eisteddfod yr Urdd 2023 yn mynd ar werth ddydd Mawrth, 28 Mawrth.


Dysgwr Cymraeg o Mosgo yn cyhoeddi Geiriadur Cymraeg-Rwsieg

Mae dyn o Mosgo sydd wedi dysgu Cymraeg wedi cyhoeddi Geiriadur Cymraeg-Rwsieg.

Cafodd geiriadur Dmitri Hrapof, ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn. Roedd wedi cymryd 20 mlynedd iddo wneud y gwaith.

Mae’r geiriadur yn trosi o’r Gymraeg i’r Rwsieg ac o’r Rwsieg i’r Gymraeg.

Mae’n cynnwys tua 14,000 o eiriau Rwsieg a 8,200 o eiriau Cymraeg.

Roedd Dmitri Hrapof wedi clywed am yr iaith Gymraeg drwy lyfrau J. R. R. Tolkien a chwedlau’r Brenin Arthur. Y Gymraeg sydd wedi dylanwadu ar iaith Elvish yn The Lord of the Rings.

Roedd Dmitri wedi dysgu Cymraeg ar-lein, cyn dilyn cwrs ym Mhrifysgol Mosgo, ac wedyn yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn.

“Doedd dim geiriadur Cymraeg-Rwsieg ar y pryd, felly roedd rhaid i fi greu un,” meddai Dmitri.

“Fe gymerodd hi ugain mlynedd, ond mae’r gwaith yn parhau.”

Mae gweld y geiriadur cyflawn yn deimlad “anhygoel”, meddai Dmitri.

Rwsieg yw’r iaith Slafaidd sy’n cael ei siarad amlaf gyda dros 258 miliwn o siaradwyr ar draws y byd.


Dafydd Hywel

Yr actor Dafydd Hywel wedi marw yn 77 oed

Mae’r actor Dafydd Hywel wedi marw yn 77 oed.

Roedd e wedi bod yn actio ers y 1960au yn Gymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.

Roedd Dafydd Hywel yn dod o’r Garnant wrth ymyl Rhydaman yn wreiddiol.

Roedd e wedi chwarae’r cymeriad Jac Daniels yn yr opera sebon Pobol y Cwm yn yr 1980au, ac mewn cyfresi Cymraeg fel Y Pris a Pen Talar, y ffilmiau Ar Ddu a Gwyn, Rhosyn a Rhith, I Fro Breuddwydion, Yr Alcoholig Llon a Rhag Pob Brad.

Roedd Dafydd Hywel hefyd wedi actio mewn rhaglenni fel y ffilm Miss Peregrine’s Home for Peculiar Children, a chyfresi fel The Indian Doctor, The Bill, Holby City a Stella. Roedd e hefyd wedi bod mewn llawer o bantomeimau Cymraeg.

Roedd wedi cyhoeddi ei hunangofiant Dafydd Hywel – Hunangofiant Alff Garnant yn 2013.

Roedd T James Jones, neu Jim Parc Nest, wedi gweithio gyda Dafydd Hywel.

“Roedd e’n hyfryd i weithio gyda fe, ac yn rhwydd iawn.

“Mae’n golled aruthrol i fyd y ddrama a theledu.”