Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • 500 mewn gwylnos i gofio tri o bobl fu farw mewn damwain car
  • Ffatri 2 Sisters yn Ynys Môn yn cau – 700 yn colli eu swyddi
  • Eira yn achosi problemau ar draws Cymru
  • Ennill Cân i Gymru “fel breuddwyd” ar ôl 17 mlynedd o gystadlu

500 mewn gwylnos i gofio tri o bobl fu farw mewn damwain car

Roedd 500 o bobl wedi dod i wylnos i gofio tri o bobl ifanc gafodd eu lladd mewn damwain car yn Llaneirwg wrth ymyl Caerdydd dros y penwythnos.

Roedd pump o bobl yn y car ar y pryd.

Bu farw tri o’r pump – Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21, a Rafel Jeanne, 24.

Mae dau berson arall, Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd y pump eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd am tua 2yb ddydd Sadwrn ar ôl noson allan. Ond doedd yr heddlu ddim wedi dod o hyd i’r car tan yn gynnar fore dydd Llun.

Mae teulu a ffrindiau rhai o’r tri fu farw wedi beirniadu’r ffordd yr oedd yr heddlu wedi ymateb i’r achos.

Rŵan mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi penderfynu y byddan nhw’n ymchwilio i’r ffordd roedd Heddlu Gwent a De Cymru wedi delio gydag adroddiadau fod y pump ar goll.

Mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw yn gallu ymateb tra bod yr ymchwiliad yn parhau.


Ffatri 2 Sisters yn Ynys Môn yn cau

Mae cwmni 2 Sisters wedi dweud y bydd eu ffatri ar Ynys Môn yn cau ddiwedd mis yma (dydd Gwener, Mawrth 31).

Mae’r ffatri yn prosesu cig. Mae 730 o bobl yn gweithio yn y ffatri ar hyn o bryd. Ond mae’n debyg mai dim ond 25 o staff fydd yn dal i weithio yno o Ebrill 1.

Roedd y cwmni wedi dweud ym mis Ionawr eu bod nhw am gau’r ffatri yn Llangefni.

Mae’r cwmni wedi rhoi’r bai ar heriau yn y sector cynhyrchu bwyd. Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw’n gallu gwneud eu cynnyrch yn “fwy effeithlon mewn rhan arall” o’r cwmni.

Llinos Medi ydy arweinyddCyngor Sir Ynys Môn.

Mae hi’n dweud: “Mae hwn yn newyddion trychinebus i’r gweithlu a’u teuluoedd.”

Mae hi’n dweud y byddan nhw’n cefnogi’r staff sy’n colli eu swyddi.


Eira yn achosi problemau ar draws Cymru

Roedd eira wedi achosi llawer o broblemau ar draws Cymru wythnos yma. Roedd ysgolion wedi cau a phroblemau ar y ffyrdd.

Ddydd Mercher roedd rhybudd melyn am eira a rhew ar draws y rhan fwyaf o’r de, y canolbarth a’r gorllewin.

Roedd mwy na 100 o ysgolion wedi cau, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y de – yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Erbyn dydd Iau roedd eira a rhew yn achosi problemau yn y gogledd.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio pobl i beidio gyrru oni bai ei fod yn angenrheidiol. Roedd rhan o’r A55 wedi cau yn Sir y Fflint a llawer o ffyrdd eraill yn y gogledd.

Roedd y rheilffyrdd hefyd wedi eu heffeithio yn y gogledd.

Roedd cannoedd o ysgolion wedi cau.

Roedd rhybudd oren am eira a rhew yn siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam tan 09:00 ddydd Gwener.

Mae rhybudd am rew tan 10:00 fore Sadwrn.

Mae rhai o gemau chwaraeon y penwythnos hefyd wedi cael eu gohirio, gan gynnwys y gêm bêl-droed rhwng Y Seintiau Newydd a’r Bala yn Uwch Gynghrair Cymru, a Glyn Ebwy v Merthyr yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru.


Ennill Cân i Gymru “fel breuddwyd” ar ôl 17 mlynedd o gystadlu

Mae enillydd Cân i Gymru 2023 yn dweud ei fod “fel breuddwyd” ar ôl 17 mlynedd o gystadlu.

Mae Alistair James o Lanfairfechan wedi perfformio ar lwyfan Cân i Gymru ddwywaith o’r blaen.

Ond dyma’r tro cyntaf iddo gyrraedd y rownd derfynol fel cyfansoddwr.

Cafodd ei gân ‘Patagonia’ ei pherfformio gan Dylan Morris.

Enillodd Alistair James tlws Cân i Gymru  a gwobr o £5,000.

Roedd ‘Cân i Mam’ gan Huw Owen wedi dod yn ail a gwobr o £2,000, a ‘Cysgu’ gan Alun Evans (Alun Tan Lan) yn drydydd, gan ennill £1,000.

Dywed Alistair James fod ennill y gystadleuaeth eleni “fel breuddwyd”.

“Fel cyfansoddwr Cymraeg sydd wedi bod yn trio Cân i Gymru ers 17 o flynyddoedd, mae o fel fy mod i wedi gwireddu breuddwyd,” meddai.

“Fyswn i ddim yn gallu bod yn hapusach, ac fel dw i’n dweud, ‘Tri chynnig i Gymro’.