Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Conradh na Gaeilge yn gwrthod talu biliau dŵr am eu bod yn Saesneg
  • Cyhoeddi rali annibyniaeth gynta’r flwyddyn yn Abertawe
  • Llawer o ysgolion wedi cau oherwydd yr eira
  • Netflix yn dangos cyfres iaith Gymraeg gan S4C am y tro cyntaf

Conradh na Gaeilge yn gwrthod talu biliau dŵr am eu bod yn Saesneg

Mae Conradh na Gaeilge yn grŵp sy’n cefnogi’r iaith Wyddeleg. Mae’r grŵp wedi gwrthod talu biliau i gwmni dŵr Irish Water am eu bod nhw yn Saesneg yn unig.

Mae Irish Water yn dweud gallen nhw orfodi’r grŵp i dalu’r biliau drwy fynd at y llysoedd. Ond mae’r grŵp yn gwrthod trafod y mater ar hyn o bryd.

Mewn achos tebyg, roedd perchennog tafarn wedi gwrthod talu biliau am saith mlynedd am eu bod yn Saesneg yn unig. Ond daeth y mater i ben yn 2021 pan gafodd Peadar Ó Máille o Indreabhán beth roedd e wedi gofyn amdano.

Ar y pryd, roedd Irish Water wedi ymddiheuro wrth siaradwyr yr iaith. Dywedodd y cwmni y bydden nhw’n gallu “gwella” eu gwasanaethau i siaradwyr Gwyddeleg ond fod problemau’n codi o hyd.

Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd Conradh na Gaeilge wedi cael gwybod y gallen nhw wynebu achos llys os oedden nhw’n gwrthod talu’r biliau.

Dywedodd y grŵp bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers 2021. Maen nhw’n mynnu na fyddan nhw’n talu nes eu bod nhw’n cael y biliau yn yr iaith Wyddeleg.

Mae’n debyg bod y grŵp wedi talu un bil gan ei fod yn yr iaith Wyddeleg. Ond mae mwy o filiau Saesneg yn unig wedi cyrraedd ers hynny.

Mae’r grŵp yn dweud eu bod nhw wedi ffonio Irish Water llawer o weithiau, ond fod neb ar gael i siarad yn y Wyddeleg.

Yn ôl y gyfraith ar hyn o bryd, does dim rhaid i Irish Water a chyrff tebyg anfon biliau a dogfennau yn yr iaith Wyddeleg. Does gan Irish Water ddim cynllun iaith.


Rali Yes Cymru, Gorffennaf 2019

Cyhoeddi rali annibyniaeth gynta’r flwyddyn yn Abertawe

Fe fydd y rali gyntaf dros annibyniaeth eleni yn cael ei chynnal yn Abertawe ar 20 Mai.

Roedd gorymdeithiau wedi bod yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Wrecsam a Chaerdydd yn 2019 a 2022. Roedd mwy na 10,000 o bobol wedi dod i’r orymdaith yng Nghaerdydd.

Cafodd YesCymru ei sefydlu yn 2016, ac mae’n galw am Gymru annibynnol.

Mae AUOBCymru yn grŵp ymgyrchu o wirfoddolwyr. Maen nhw eisiau dod â phobol at ei gilydd mewn gorymdeithiau dros annibyniaeth.

Elfed Williams ydy cadeirydd YesCymru.

Mae’n dweud: “Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi y bydd yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth yn cael ei gynnal yn Abertawe ar 20 Mai.

“Mae rhywbeth arbennig am ddod at ein gilydd i orymdeithio dros Gymru annibynnol. Mae’n wych gweld bod y gorymdeithiau wedi tyfu bob tro gyda gorymdaith Abertawe y mwyaf uchelgeisiol eto.”

Mae’n dweud bod mwy o bobl yn galw am annibyniaeth, wrth i bobol Cymru sylweddoli “mai’r unig ffordd y gall ein gwlad ffynnu yw torri i ffwrdd o’r undeb hon.”

“Yr orymdaith yn Abertawe ar Mai 20 fydd y chweched orymdaith dros annibyniaeth a’r orymdaith bwysicaf hyd yn hyn,” meddai Llywelyn ap Gwilym o AUOBCymru.

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “argyfwng” ar ôl i’r Llywodraeth Geidwadol fod mewn grym am dros ddegawd.

Digon yw digon!”


Llawer o ysgolion wedi cau oherwydd yr eira

Roedd llawer o ysgolion ar draws Cymru wedi gorfod cau wythnos yma wrth i eira achosi problemau mewn rhannau o’r wlad.

Roedd rhybudd tywydd melyn am eira a rhew yn ystod yr wythnos.

Roedd ysgolion yn Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot a Sir y Fflint yn bennaf,  wedi gorfod cau.


Cast Dal y Mellt

Netflix yn dangos cyfres iaith Gymraeg gan S4C am y tro cyntaf

Bydd Netflix yn dangos cyfres iaith Gymraeg gan S4C am y tro cyntaf erioed ym mis Ebrill.

Mae Dal y Mellt yn addasiad gan S4C o nofel gyntaf Iwan ‘Iwcs’ Roberts.

Mae Netflix yn dweud bod ganddyn nhw rôl wrth “hyrwyddo a chadw’r iaith Gymraeg”.

Mae’r gwasanaeth ffrydio yn dweud nad ydyn nhw eisiau cystadlu gyda S4C. Maen nhw eisiau hyrwyddo rhaglenni fel eu bod nhw’n cyrraedd mwy o bobl.

Benjamin King ydy Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus Netflix yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae e wedi bod yn  rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.

Dywedodd: “Mae gennym ni is-deitlau Cymraeg ar ambell ffilm, ac mae gennym ni bennod yng nghyfres tri o The Crown sydd bron i gyd yn Gymraeg am goroni’r Tywysog Charles a’i amser yn Aberystwyth.

“Dw i’n meddwl ein bod angen cofio bod gan S4C dasg a hawl benodol i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg, a dydyn ni’n bendant ddim eisiau cystadlu efo hynny.

“Rydyn ni’n awyddus iawn i greu rhaglenni sy’n adlewyrchu bywydau pobol sy’n byw ledled y Deyrnas Unedig, ar draws yr holl wledydd, ac yn wir ar draws y byd.

“Rydyn ni’n gweld bod y cynnwys hwnnw’n teithio’n dda iawn.”

Dywedodd hefyd fod Cymru wedi bod yn lleoliad i raglenni poblogaidd ar Netflix, fel Sex Education a The Crown. Mae’n dweud bod hyn wedi helpu economi’r Deyrnas Unedig a’r sector twristiaeth.

“Os edrychwch chi ar sioe fel Sex Education, fe wnaeth 55 miliwn o gartrefi dros y byd wylio’r drydedd gyfres.”

Pan mae pobol yn gwylio ac yn mwynhau rhaglen, maen nhw’n fwy tebygol o eisiau mynd i’r llefydd yna ar eu gwyliau, meddai.