Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Eluned Morgan “ddim i’w gweld yn unlle”, meddai Plaid Cymru
  • Teyrngedau i gyn-olygydd Radio Cymru Aled Glynne Davies
  • Y gwaith yn dechrau i ailagor Pont Menai
  • Seren Tik Tok ar Canu Gyda fy Arwr

Eluned Morgan “ddim i’w gweld yn unlle”, meddai Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, “ar goll”, a’i bod hi “ddim i’w gweld yn unlle”.

Mae’r blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth “ar frys”.

Daw hyn ar ôl rhybudd bod y Gwasanaeth Iechydar ymyl y dibyn” a bod gormod o bwysau ar y gwasanaeth.

Mae Plaid Cymru’n dweud bod tair stori wedi bod dros y dyddiau diwethaf am y Gwasanaeth Iechyd. Ond dydy’r Ysgrifennydd Iechyd ddim wedi ymateb i’r un ohonyn nhw. Dydy hi ddim wedi gwneud unrhyw gyfweliadau, meddai’r blaid.

Rhun ap Iorwerth ydy llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Pan mae arbenigwyr yn defnyddio termau fel ‘ymyl y dibyn’ ac ‘ar fin torri’ i ddisgrifio cyflwr difrifol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae’n gofyn am ymateb brys a phenderfynol gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Ond dydi ein Hysgrifennydd Iechyd ddim i’w gweld yn unlle.

“Bellach, mae’n rhaid i’n gweithwyr iechyd a gofal arwrol ddod ymlaen i wneud cyfweliadau teledu.

Yn y cyfamser, mae’r Ysgrifennydd Iechyd ar goll.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Gweinidog Iechyd yn brysur yr wythnos hon yn cwrdd â swyddogion y GIG ac yn ymweld ag ysbytai er mwyn cwrdd â staff GIG Cymru sy’n gweithio’n galed.”


Aled Glynne Davies

Teyrngedau i gyn-olygydd Radio Cymru Aled Glynne Davies

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-olygydd gorsaf Radio Cymru Aled Glynne Davies.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ym Mae Caerdydd ar Ionawr 4.

Roedd wedi bod ar goll ers Nos Galan. Roedd wedi cael ei weld ddiwethaf ym Mhontcanna nos Sadwrn, Rhagfyr 31.

Mae ei deulu wedi diolch i bawb oedd wedi bod yn chwilio amdano.

Roedd Aled Glynne Davies, 65 oed, yn olygydd Radio Cymru rhwng 1995 a 2006. Roedd hefyd wedi gweithio ar wasanaethau newyddion y BBC ac S4C.

Roedd wedi arwain y tîm a sefydlodd gwefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru’r Byd. Roedd e hefyd wedi sefydlu cwmni cynhyrchu, Goriad.

“Ysbrydoli pobol eraill”

Roedd Dylan Iorwerth, un o sylfaenwyr  cwmni Golwg, wedi gweithio gydag Aled Glynne Davies yn Radio Cymru.

“Roedd Aled a finnau wedi dechrau tua’r un pryd yn adran newyddion Radio Cymru ac roedd o’n chwa o awyr iach o fewn y BBC,” meddai.

“Roedd yn ddyn annwyl iawn ac yn llawn direidi ond, ar yr un pryd, yn hollol o ddifri am safonau ei waith ei hun a phobol eraill.”

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhuanedd Richards bod Aled Glynne Davies yn olygydd “arloesol, egnïol ac angerddol”.

“Ar ran holl staff BBC Cymru, rwy’n anfon ein cydymdeimlad dwysaf at wraig Aled, Afryl, at ei blant, Gwenllian a Gruff, a’i wyrion yn dilyn y newyddion trist hwn,” meddai.

Dywedodd y cyflwynydd newyddion, Huw Edwards: “Newyddion torcalonnus. Roedd Aled yn gynhyrchydd ac yn newyddiadurwr o allu sylweddol.

“Roedd hefyd yn berson hael a charedig. Colled enfawr i’w deulu a’i gyfeillion.”

A dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: “Newyddion hynod drist a thorcalonnus.”


Pont Menai

Y gwaith yn dechrau i ailagor Pont Menai

Mae’r gwaith er mwyn ailagor Pont Menai wedi dechrau wythnos yma.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei orffen mewn pedair wythnos.

Ond maen nhw’n dweud bod hynny’n dibynnu ar dywydd braf.

Cafodd y bont ei chau’n annisgwyl fis Hydref y llynedd. Roedd hyn oherwydd problemau strwythurol oedd beryglus i’r cyhoedd.

Tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, bydd help ar gael gan Lywodraeth Cymru i leihau’r effaith ar fusnesau lleol. Bydd parcio am ddim ym Mhorthaethwy drwy’r mis.

Mae help hefyd ar gael i bobol sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i Ynys Môn ac sydd wedi’u heffeithio.

“Dw i’n falch ein bod ni, a’n partneriaid, wedi gallu bwrw ymlaen yn gyflym gyda’r gwaith hynod bwysig a chymhleth hwn ar Bont Menai,” meddai Lee Waters, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y gwaith yn llawer rhy araf yn dechrau.

“Tra fy mod i’n croesawu’r ffaith fod y gwaith ar Bont Menai wedi dechrau o’r diwedd, mae’n ffaith bod gweinidogionLlafur wedi gadael i’r bont fynd yn adfail a’u bod nhw wedi bod yn rhy araf o lawer wrth ymateb o’r dechrau,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.


Bronwen Lewis

Seren Tik Tok ar Canu Gyda fy Arwr

Fe fydd y seren Tik Tok Bronwen Lewis yn canu gyda superffan, a’r person cyntaf i roi gig iddi, ar y bennod nesaf o Canu Gyda fy Arwr.

Mae fideos y gantores a’r gyfansoddwraig 28 oed o Gastell Nedd wedi cael eu gwylio filiynau o weithiau ar-lein.

“Dw i methu credu bo rhywun wedi dewis fi fel arwr,” meddai Bronwen.

“Bydda’i byth wedi credu – yn 28 oed – bod rhywun yn galw fi’n arwr!”

Mae’r person cyntaf sydd am ganu gyda Bronwen yn dod o Abertawe.

Pan oedd Bronwen yn 15 oed, roedd Rhys Evans wedi rhoi’r gig gyntaf iddi yn Nhafarn y Gwachel, Pontardawe. Roedd hyn fel rhan o’i waith gyda Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot.

Yn perfformio gyda Bronwen wedyn mae un o’i ffans mwyaf, sef Dorian, sy’n gweithio yng Nghaerfyrddin.

Cafodd ei enwebu gan ei fos, Eirian Jenkins. Mae Eirian yn dweud mai’r unig beth mae Dorian yn gwneud yw siarad amdani!

Mae o wedi dilyn gyrfa Bronwen ers y cychwyn cyntaf, gan gynnwys teithio’r holl ffordd i Gaernarfon i’w gwylio.

“Roedd e’n deimlad dw i ddim wedi cael yn fy mywyd o’r blaen,” meddai.

“Roedd e werth y byd.”