Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Ysgolion yn cau ar ôl i Storm Babet daro’r gogledd
  • Tynnu sianel deledu GB News o’r Senedd
  • Ymosodiad ar ddau gefnogwr rygbi Cymru yn Ffrainc
  • BAFTA Cymru: Sean Fletcher yn siarad am bwysigrwydd yr iaith iddo fe

Ysgolion yn cau ar ôl i Storm Babet daro’r gogledd

Roedd glaw trwm wedi achosi llawer o broblemau ar ôl i Storm Babet daro Cymru ddydd Gwener (Hydref 20).

Roedd llawer o ysgolion wedi cau a ffyrdd dan ddŵr. Roedd llifogydd mewn nifer o adeiladau.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm. Roedd y rhybudd ar gyfer y gogledd a’r canolbarth, a rhannau o Sir Gâr a Sir Fynwy, o hanner nos, nos Wener. Mae’r rhybudd yn dod i ben am 6yb heddiw (dydd Sadwrn, 21 Hydref).

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd yn y gogledd a Phowys.

Roedd tua 40 o ysgolion yn Sir y Fflint wedi cau oherwydd llifogydd yn yr ardal. Roedden nhw’n cynnwys Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Uwchradd Alun yn yr Wyddgrug.

Roedd dwy ysgol wedi cau yn Y Trallwng ym Mhowys.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd. Mae llifogydd wedi bod ar y ffyrdd yn Yr Wyddgrug, Dinbych a’r Rhyl.

Yn Llanelwy, roedd yr Afon Elwy wedi gorlifo’i glannau a llifogydd mewn tai ac adeiladau.

Roedd y tywydd gwlyb hefyd wedi effeithio gwasanaethau trên a bws y gogledd. Roedd llinellau rhwng Caer a Crewe, a rhwng Wrecsam a Bidston, wedi cau a gwasanaethau bws wedi cael eu canslo.

 


Arwydd Senedd Cymru

Tynnu sianel deledu GB News o’r Senedd

Mae sianel deledu GB News wedi cael ei thynnu oddi ar system deledu’r Senedd yng Nghaerdydd.

Mae hyn ar ôl darllediad diweddar GB News oedd yn “sarhaus”, meddai’r Senedd.

Elin Jones ydy Llywydd y Senedd. Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod y darllediad yn “groes i werthoedd” y Senedd. Mae Ofcom, y corff sy’n rheoleiddio darlledu, yn cynnal mwy na 10 ymchwiliad i’r sianel. Mae Ofcom wedi derbyn 8,846 o gwynion yn ddiweddar. Mae hyn ar ôl sylwadau anaddas y darlledwr ac actor Laurence Fox am Ava Evans, gohebydd gwleidyddol JOE Media.

Dywedodd y llefarydd ar ran Elin Jones: “Mae GB News wedi cael ei dynnu o system deledu fewnol y Senedd yn dilyn darllediad diweddar a oedd yn fwriadol sarhaus, yn ddiraddiol i ddadl gyhoeddus ac yn groes i werthoedd ein senedd. Bellach mae sawl ymchwiliad parhaus gan Ofcom i’r sianel.”

Bydd Aelodau’r Senedd sydd eisiau gweld GB News yn dal i allu gwneud hynny ar-lein yn y Senedd.

Ond mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud bod hyn yn “sensoriaeth” ac yn “benderfyniad gwarthus“.

Mae GB News yn dweud eu bod nhw wedi ymddiheuro wrth Ava Evans, a bod Laurence Fox wedi gadael y sianel “ar ôl ymchwiliad mewnol”.

Mae’r sianel hefyd wedi tynnu’r cyflwynydd Dan Wootton oddi ar yr awyr hefyd.


Canebiere yn Marseille

Ymosodiad ar ddau gefnogwr rygbi Cymru yn Ffrainc

Cafodd dau gefnogwr rygbi Cymru eu hanafu ar ôl ymosodiad honedig yn Ffrainc.

Digwyddodd yr ymosodiad ym Marseille nos Sul (Hydref 15).

Roedd y dyn 57 oed a’i fab, 24, yn Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Yn ôl adroddiadau, cafodd yr heddlu eu galw i un o strydoedd prysuraf y ddinas – y Canebière – toc cyn hanner nos.

Cafwyd hyd i’r tad yn gorwedd ar y llawr gydag anaf i’w ben. Roedd ei fab hefyd wedi’i anafu.

Maen nhw wedi dweud wrth Heddlu Ffrainc fod dau o gefnogwyr Lloegr wedi ymosod arnyn nhw.

Cafodd y tad a’r mab eu cludo i’r ysbyty, a’u rhyddhau wedyn.

Mae dyn yn ei 30au o wledydd Prydain wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.


Sean Fletcher

BAFTA Cymru: Sean Fletcher yn siarad am bwysigrwydd yr iaith iddo fe

Roedd Gwobrau BAFTA Cymru wedi cael eu cynnal yng Nghasnewydd nos Sul (Hydref 15).

Roedd y gyfres Stori’r Iaith wedi cael pum enwebiad yng Ngwobrau BAFTA Cymru. Roedd y gyfres ar S4C yn edrych ar hanes yr iaith.

Roedd Sean Fletcher wedi cael ei enwebu fel y cyflwynydd gorau. Roedd Lisa Jên hefyd yn un o gyflwynwyr y gyfres. Roedd hi wedi ennill y wobr yn y categori Cyflwynydd Gorau. Y cyflwynwyr eraill oedd Alex Jones ac Elis James.

Roedd Sean Fletcher wedi bod yn siarad am bwysigrwydd yr iaith ar ôl y seremoni. Mae e wedi dysgu Cymraeg.

Dywedodd ei fod o ddim yn teimlo bod ei Gymraeg yn ddigon da cyn gweithio ar y gyfres.

Mae’n dweud bod gweithio ar Stori’r Iaith gyda chwmni Rondo wedi gwneud iddo sylwi bod “rhaid” iddo ddefnyddio’r iaith.

“Dw i’n teimlo’n falch i fod yn rhan o’r gyfres,” meddai.

“Mae’r tîm yn Rondo wedi helpu fi i weld bod fy Nghymraeg i gyda lot o gamgymeriadau – dw i ddim yn berffaith – ond rhaid i fi ddefnyddio fe a rhaid i fi gael hyder i’w ddefnyddio fe.

“Dw i’n edrych o gwmpas ac mae pobol o fy nghwmpas i efo Cymraeg perffaith.

“Cyn gwneud y rhaglen, fe wnes i deimlo fel dw i ddim yn ddigon da.

“Ond nawr dw i’n teimlo mae’r iaith Gymraeg yn iaith fi hefyd.”

Mae Sean Fletcher yn gobeithio bod y rhaglen yn rhoi neges i ddysgwyr eraill sydd ddim yn teimlo’n hyderus yn yr iaith.

“Dw i’n cwrdd â lot o bobol sy’n dweud, ‘My Welsh isn’t good enough’, ond wedyn dw i’n darganfod eu bod nhw’n siarad Cymraeg da ond bod nhw ddim efo hyder.

“Fy neges i iddyn nhw: defnyddia’r iaith, gwneud camgymeriadau, dim ots, jyst siarad Cymraeg.”