Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Mae Pont y Borth wedi ailagor
  • £260,000 i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg
  • Undeb Rygbi Cymru yn gwahardd corau rhag canu ‘Delilah’ ar y cae
  • Taith gerdded i nodi 60 mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith

 


Pont y Borth wedi ailagor

Roedd Pont y Borth wedi ailagor ddydd Iau (Chwefror 2).

Cafodd ei chau tua phedwar mis yn ôl am resymau diogelwch.

Cafodd y bont ei chau’n sydyn ddiwedd mis Hydref. Doedd dim rhybudd i bobl leol, oherwydd bod angen gwneud gwaith brys ar y bont.

Roedd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Bont Britannia ar ôl i’r bont gau. Ond roedd hynny wedi achosi problemau mawr i fusnesau a phobl oedd angen teithio dros y bont.

Mae Dyfed Wyn Jones yn gynghorydd yn ward Aethwy ar Ynys Môn. Mae o’n dweud bod ailagor y bont yn “rhyddhad” i bobl leol a busnesau.

‘Cam ymlaen’

“Rhyddhad dw i’n meddwl ydi’r peth pwysicaf, ein bod ni’n gallu teithio arni,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Wyn Jones wrth golwg360.

“Dw i wedi teithio ar y ffordd bore ‘ma a wnes i weld gwahaniaeth yn syth.

“Doedd yna ddim ciwiau i weld yn mynd at Bont Britannia na Pont Borth.

“Rydyn ni wedi disgwyl dipyn am hyn ac mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i drigolion lleol ac i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio ganddo fo.

“Mae o’n gam ymlaen ond yn amlwg mae yna waith pellach i’w wneud hefyd.”

Mae’n dweud mai’r peth pwysig nawr ydy gwneud yn siŵr bod y cynlluniau ar gyfer gwneud y gwaith parhaol ddim yn cael gormod o effaith.

Roedd llawer o fusnesau ym Mhorthaethwy wedi galw am gefnogaeth frys ar ôl cau’r bont. Roedd wedi cael effaith fawr ar lawer o fusnesau.

Mae Dyfed Wyn Jones yn gobeithio y bydd busnesau yn brysur unwaith eto rŵan.

“Dw i’n gobeithio bydd y busnesau lleol ym Mhorthaethwy yn dechrau gweld y gwahaniaeth rŵan o ran pobol yn dod yn ôl i ymweld.

“Roedd yna lot o fusnesau’n dweud bod pobol ddim wedi bod yn ymweld â nhw ond gobeithio bydd pobol yn gweld bod y bont ar agor ac yn dechrau dod yn ôl eto.”

Mae Dyfed Wyn Jones a chynghorwyr eraill yn disgwyl clywed mwy am y gwaith sydd dal i’w wneud ar y bont, a phryd mae hynny’n debygol o ddigwydd.

“Y bwriad ydy gwneud y gwaith yna yn ystod 2023 ond mae angen cael y darnau arbenigol ac ati ar draws y byd, fel dw i’n deall.

“Felly’r gobaith ydy efo’r gwaith yma bydd cerbydau mwy yn gallu teithio arni, ac mae hynny’n bwysig ar gyfer bysus.

“Er bod y bont wedi ailagor, mae’r bysus sy’n dod drosodd i’r ynys yn gorfod defnyddio Pont Britannia ac mae hynny’n dal i achosi ychydig bach o gur pen i lot o bobol.”

Trydedd bont?

Cwestiwn arall sydd wedi codi ydy a fydd trydedd bont yn helpu ac yn bosibilrwydd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod trydedd bont yn brosiect maen nhw’n edrych ar, felly fydd o’n ddiddorol gweld be fydd yn digwydd,” meddai Dyfed Wyn Jones.

“Mae’r misoedd diwethaf wedi dangos pa mor ddibynnol ydyn ni ar y ddwy bont sydd gennym ni a phan mae rhywbeth yn digwydd mae’n achosi problemau mawr.

“Rydan ni’n gobeithio na fydd o’n cael ei anghofio gan fod y bont ar agor rŵan.

“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n cadw hwnna’n uchel ar agenda Llywodraeth Cymru.”


£260,000 i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg

Dylai pawb gael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Dyna beth mae  Jeremy Miles wedi dweud.

Fe yw Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Mae Jeremy Miles wedi dweud y bydd £260,000 yn cael ei roi i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Bydd yr arian yn mynd i Fentrau Iaith a phapurau bro a sefydliadau eraill. Mae’r arian yn cael ei rannu rhwng 36 o sefydliadau i gyd. Bydd yn eu helpu i gario mlaen gyda’u gwaith pwysig wrth i gostau byw godi.

Mae Mentrau Iaith yn trefnu gweithgareddau a chyfleoedd yn Gymraeg i bobol yn eu hardal leol.

Mae’r Mentrau yn cefnogi siaradwyr Cymraeg o bob oed ac yn eu helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Mae’r papurau bro yn rhwydwaith o 53 o bapurau newydd Cymraeg lleol gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Maen nhw’n rhannu straeon, digwyddiadau a gwybodaeth leol.

Bydd pob un yn derbyn taliad i helpu gyda chostau cyhoeddi.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dylai pawb gael y cyfle i’w defnyddio hi yn eu bywydau bob dydd,” meddai Jeremy Miles.

“Bydd y taliad yma yn helpu ein rhwydwaith o sefydliadau sy’n rhoi cymorth i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn sgil yr argyfwng costau byw.”

Dyma rai o’r sefydliadau sy’n cael arian:

Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (£4,990); Merched y Wawr (£4,400), Mentrau Iaith Cymru (£6,400); Hunaniaith (£6,680); Prifysgol Bangor – Technoleg Iaith (£14,000); Mudiad Meithrin (£121,240); RhAG (£4,000); Papurau Bro (£5,300).


Y stadiwm yn llawn, a'r chwaraewyr ar y maes
Stadiwm Principality

Undeb Rygbi Cymru yn gwahardd y gân ‘Delilah’ 

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod corau ddim yn cael canu ‘Delilah’ ar y cae cyn gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae pryderon wedi bod ers rhai blynyddoedd am y geiriau. Mae’n sôn am ddyn yn darganfod ei gariad gyda dyn arall ac yn ei thrywanu i farwolaeth.

Yn 2014 roedd Dafydd Iwan wedi dweud bod y gân yn “ddi-chwaeth” ac yn “anfoesol”.

Tom Jones oedd wedi canu ‘Delilah’ ond doedd e ddim yn cytuno bod y gân yn anaddas.

Dros yr wythnosau diwethaf mae Undeb Rygbi Cymru wedi wynebu honiadau o rywiaeth, hiliaeth a homoffobia. Mae’n debyg bod gwahardd y gân rhag cael ei chanu yn un o’r pethau cyntaf maen nhw’n gwneud er mwyn trio gwella eu delwedd.

Yn dilyn yr honiadau, mae’r Prif Weithredwr Steve Phillips wedi gadael, ac mae Nigel Walker wedi cymryd ei le dros dro.

Mae llefarydd ar ran Stadiwm Principality wedi dweud na fydd ‘Delilah’ yn ymddangos ar y rhestr chwarae corau ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol yn y stadiwm.

“Mae Undeb Rygbi Cymru’n condemnio trais o unrhyw fath,” meddai gan ddweud eu bod yn “ymwybodol ei bod yn broblematig ac yn ypsetio rhai cefnogwyr oherwydd natur ei phwnc.”

Louis Rees-Zammit ydy asgellwr tîm rygbi Cymru. Mae e wedi beirniadu Undeb Rygbi Cymru am eu penderfyniad.

“Yr holl bethau sydd angen iddyn nhw eu gwneud, a dyna maen nhw’n ei wneud gyntaf,” meddai ar Twitter.


Protest Pont Trefechan yn y 60au

Taith gerdded i nodi 60 mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith

Bydd taith gerdded yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 4) i nodi 60 mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith.

Bydd y daith yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn rhai o’r lleoliadau mwyaf pwysig yn hanes y mudiad.

Cafodd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ei chynnal ar Chwefror 2, 1963.

Bydd y daith yn dechrau wrth Bont Trefechan, lle bydd Aled Gwyn, un o brotestwyr gwreiddiol y bont yn siarad.

Bydd y daith yn mynd heibio hen Swyddfa’r Post, yr hen Orsaf Heddlu, hen safle’r Llys Ynadon a lleoliad swyddfeydd y Gymdeithas dros y blynyddoedd.

Ymhlith y siaradwyr eraill mae Eryl Owain, fydd yn trafod ei amser gyda’r Gymdeithas yn y 1970au.