Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Canlyniadau Safon Uwch: Llai yn cael graddau A ac A*
- Cau glofa Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful erbyn diwedd Tachwedd
- Wythnos gymysg i fusnesau bro’r Eisteddfod – rhai yn brysur, rhai ddim
- Teulu bachgen yn diolch i Eisteddfodwyr ar ôl iddo gael ei het bwced yn ôl
Canlyniadau Safon Uwch: Llai yn cael graddau A ac A*
Roedd disgyblion wedi bod yn cael eu canlyniadau Lefel A yr wythnos hon. Mae’r canlyniadau’n dangos bod llai yn cael y graddau uchaf A ac A*.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol lle mae’r graddau uwch wedi gostwng. Ond mae’r canlyniadau’n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig.
Roedd 34% wedi cael graddau A ac A* eleni. Mae hyn yn cymharu gyda 40.9% yn 2022.
Dywedodd y corff arholiadau Cymwysterau Cymru bod rhai ffiniau graddau yn is nag oedden nhw cyn 2020. Roedd hyn er mwyn cydnabod yr effaith gafodd Covid ar ddisgyblion.
Jeremy Miles ydy’r Gweinidog Addysg. Dywedodd fod help ychwanegol wedi gwneud yr arholiadau eleni’n “deg“.
Roedd canlyniadau AS, a chymwysterau Lefel 3 galwedigaethol a thechnegol gan gynnwys BTEC, hefyd wedi cael eu cyhoeddi.
Roedd 97.5% wedi pasio eu Lefel A, ac 13.5% wedi cael gradd A*.
Roedd llai o help ar gyfer disgyblion eleni, ond roedden nhw wedi cael ychydig o wybodaeth cyn yr arholiadau ac roedd y graddio’n parhau i fod yn fwy hael.
Mae hyn yn wahanol i Loegr, ble maen nhw wedi mynd yn ôl i raddio disgyblion fel oedden nhw yn 2019.
Dywedodd Cymwysterau Cymru bod y canlyniadau eleni tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022.
Yn 2019 roedd 27% o ddisgyblion wedi cael graddau A ac A* yn eu Lefel A. Yn 2021 roedd wedi codi i 48.3%. Roedd hyn ar ôl i arholiadau gael eu canslo oherwydd Covid. Roedd graddau wedi cael eu rhoi ar sail asesiadau athrawon.
Roedd y canlyniadau ychydig yn is y llynedd, ac yn is eto eleni.
Mae Cymwysterau Cymru am fynd yn ôl i’r broses cyn y pandemig yn 2024.
Mae Jeremy Miles wedi llongyfarch disgyblion ar eu canlyniadau.
“Rydym yn gwybod bod y cyfnod yma wedi bod yn heriol,” meddai.
“Ein nod wrth roi cefnogaeth ychwanegol eleni oedd gwneud yn siŵr fod yr arholiadau’n deg, er gwaetha’r heriau rydych wedi’u hwynebu.
“I unrhyw un nad ydych wedi cael y canlyniadau yr oeddech eisiau, neu sy’n ansicr o’ch camau nesaf, peidiwch â bod yn rhy siomedig, a pheidiwch â rhoi amser caled i chi’ch hun.
“Mae digon o opsiynau o’ch blaen, gan gynnwys mynd i brifysgol trwy’r system glirio, prentisiaeth neu efallai ddechrau eich busnes eich hun.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn canlyniadau heddiw, a diolch enfawr i’r holl athrawon a’r rhieni am eich holl gefnogaeth.
“Rydych chi wedi gweithio mor galed, a beth bynnag rydych chi’n dewis gwneud nesaf, dymunaf bob lwc i chi am y dyfodol.”
Cau glofa Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful erbyn diwedd Tachwedd
Mae glofa Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful yn mynd i gau erbyn diwedd mis Tachwedd. Dyna beth mae’r perchnogion wedi dweud. Bydd y 180 o weithwyr i gyd yn colli eu swyddi.
Roedd caniatâd cynllunio ar gyfer y safle glo brig wedi dod i ben ym mis Medi 2022 ar ôl 15 mlynedd. Ond roedd y cwmni, Merthyr (South Wales) Ltd, wedi parhau i weithio yno.
Roedd Cyngor Sir Merthyr Tudful wedi gwrthod cais y cwmni am fwy o amser ym mis Ebrill 2023. Roedd y perchnogion wedi cael gorchymyn terfynol gan y Cyngor ddiwedd mis Mehefin. Roedd yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw stopio’r gwaith o fewn 28 diwrnod. Roedd y cwmni wedi gwneud apêl newydd.
Mae’r cwmni nawr yn dweud eu bod nhw wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru eu bod nhw’n mynd i gau ddiwedd Tachwedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n gweithio’n agos gyda’r undeb llafur er mwyn cefnogi’r gweithwyr sy’n colli eu swyddi.
Roedd ymgyrchwyr amgylcheddol wedi bod yn galw am gau’r safle. Maen nhw eisiau i’r cwmni adfer y safle cyn gadael.
Mae llawer o bobl leol wedi bod yn poeni am y sŵn a’r llwch o’r safle.
Mae Andrew Barry yn gynghorydd lleol. Mae e’n dweud bydd y rhan fwyaf o bobol ym Merthyr Tudful yn croesawu’r newyddion am gau Ffos-y-Fran.
Mae’n dweud y bydd hi’n “ofnadwy” bod y gweithwyr yn colli’u swyddi. Ond mae’n credu bod “cyfle gwych” nawr i gefnogi busnesau lleol a swyddi gwyrddach.
“Mae’n amser i Ferthyr gael cyfnod gwahanol nawr,” meddai.
“Rydyn ni angen edrych am swyddi sy’n wyrddach.
“Rydyn ni angen cefnogi busnesau lleol sydd angen tyfu.
“Dw i’n meddwl bod e’n rhoi cyfle gwych i ni nawr i wneud rhywbeth gwahanol a pheidio cadw at beth ydyn ni wastad wedi’i gael – y dur, glo a’r cloddio.”
Wythnos gymysg i fusnesau bro’r Eisteddfod – rhai yn brysur, rhai ddim
Mae ymateb cymysg wedi bod gan fusnesau lleol am effaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd arnyn nhw.
Roedd rhai busnesau’n brysur iawn dros wythnos yr Eisteddfod, ac eraill wedi’u siomi ac wedi disgwyl mwy.
Ond maen nhw’n credu bod nifer o resymau y tu ôl i hyn. Maen nhw’n dweud bod yr argyfwng costau byw a ffyrdd o’u cyrraedd wedi effeithio eu busnesau.
Nick Grimes ydy perchennog Gwesty Plas y Goedlen yn Edern wrth ymyl Nefyn.
Dywedodd: “Roedd hi’n wythnos dawel iawn a dim llawer yn defnyddio’r bwyty na’r bar.
“Doedd dim ymwelwyr lleol nac o’r Eisteddfod o gwmpas.
“Roedd y gwesty yn llawn o drigolion fel y mae yn ystod pob haf. Yn anffodus roedd ein cogyddion a staff yn aros o gwmpas i gwsmeriaid gyrraedd.
“Nid dyna oeddem yn ei ddisgwyl gyda phob pentref yn mynd i ymdrech enfawr i addurno a chroesawu’r eisteddfod. Yn anffodus cafodd eu gwaith caled ond ei weld gan ychydig.
“Nid fy ngwesty i yn unig oedd yn dawel iawn.
“Fe wnaeth llawer o fusnesau ddweud yr un fath gyda thafarndai yn cau am naw o’r gloch oherwydd bod dim cwsmeriaid, a busnesau ym Mhwllheli yn dweud ei fod yn waeth na’r gaeaf.”
Liam Berry ydy rheolwr tafarn Y Llong yn Edern. Mae o’n dweud ei fod wedi disgwyl llawer mwy o bobl.
“Roedden ni’n disgwyl gwallgofrwydd llwyr â bod yn onest,” meddai.
“Wnaethon ni stocio i fyny, ac roedden ni wedi prynu miloedd o gwpanau plastig.
“Wnaethon ni stocio’n uchel at y barbeciw roedden ni’n ei gael hefyd.
“Ond dyma’r wythnos dawelaf i ni ei chael ers i ni ailagor ddechrau’r mis diwethaf.”
Teithio o gwmpas
Mae Liam Berry yn dweud efallai nad oedd pobol wedi’u hannog digon i fynd i’r busnesau lleol a defnyddio’r bysus gwennol.
Mae’n dweud bod llai o dwristiaid na’r arfer yn ystod mis Awst hefyd.
“Mae lot o deuluoedd wedi bod yn dod ar eu gwyliau i’r ardal yma ers rhyw 20 mlynedd,” meddai.
“Ond wnes i sylweddoli bod rhai o’r meysydd carafanau wedi bod yn dawel yr wythnos yma.
“Dw i’n meddwl bod rhai wedi osgoi dod yr wythnos yma oherwydd y traffig ac yn poeni y bydden nhw ddim yn gallu teithio o gwmpas mor hawdd.
“Mae’n arwydd o’r amseroedd hefyd gyda’r argyfwng costau byw.
“Does gan bobol ddim lot o arian i’w wario, ond eto roedd yr Eisteddfod yn ddrud gyda pheint yn costio £6.50 heb gwpan.”
Ond mae rhai busnesau eraill wedi bod yn brysur iawn.
Hefina Pritchard ydy perchennog bwyty Whitehall ym Mhwllheli.
“Cawsom wythnos grêt,” meddai.
“Ers i’r gwaith adeiladu gychwyn ar y maes ym mis Mehefin, rydyn ni wedi bod yn cael nifer fawr o weithwyr yr Eisteddfod yn dod yma.
“Rwyt ti’n sôn am bob nos. Mae’r peth yn grêt.
“Roedd Nefyn wedi bod yn brysur iawn hefyd, oherwydd bod ganddyn nhw gigs Cymdeithas yr Iaith yna.
“Mae Pwllheli yn dref Gymreig iawn efo lot o Gymry Cymraeg yn byw yma, ac mae gen ti lot o fusnesau annibynnol sy’n cael eu rhedeg gan Gymry Cymraeg.
“Ac er ei bod hi’n dref Gymreig iawn, roedd lot o bobol yn y dref erioed wedi bod yn yr Eisteddfod.
“Roedd rhai’n dweud wythnosau yn ôl, ‘Mae hi’n rhy ddrud yna, dydyn ni’m yn mynd’.
“Wedyn, maen nhw wedi mynd unwaith ddechrau’r wythnos ac wedi bod yn mynd bob dydd ac wedi gwirioni efo’r lle.
“Mae hi’n bwysig bod yr Eisteddfod yn dal i deithio, ac mae yna bobol yn y dref yma sy’n edrych ymlaen at Wrecsam yn barod.
“Ond dw i’n meddwl y bysa pawb yn licio gweld yr Eisteddfod yn dod yn ôl.”
Teulu bachgen yn diolch i Eisteddfodwyr ar ôl iddo gael ei het bwced yn ôl
Mae teulu bachgen naw oed oedd wedi colli ei het bwced yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan wedi diolch i bobol ar ôl iddo gael yr het yn ôl.
Roedd yr het wedi cael ei llofnodi gan Dafydd Iwan ac Elidyr Glyn.
Roedd teulu Caio Llewelyn-Parry o Groeslon wedi penderfynu ar yr funud olaf y bydden nhw’n mynd i’r Eisteddfod, ac wedi prynu het bwced i Caio.
Mae Caio yn swil, ond roedd wedi gofyn am lofnodion y ddau ganwr ar ei het. Ond wedyn, roedd yr het wedi mynd ar goll. Roedd ei deulu wedi chwilio’r Maes amdani.
Roedd Caio yn torri ei galon, meddai ei fam, Siân Llewelyn-Parry.
“Roedden ni jyst yn mynd rownd y bobol yma i gyd yn chwilio pwy oedd efo’r het bwced.
“Roedd pawb efo het!
“Doedd dim golwg o’r het, roedd Caio yn crio, roedd yn torri ei galon.
“Roedd o eisiau mynd adref, doedd o ddim eisiau aros yn yr Eisteddfod.”
Roedd Kenyon Parry, gŵr Siân Llewelyn-Parry, wedi rhoi neges ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd sawl person wedi cynnig het newydd wedi’i lofnodi, gan gynnwys y Welsh Whisperer.
“Gwnaeth o rannu neges ar Facebook a chyn diwedd y nos, roedd 100 wedi ei rhannu a gwnes i ei rhannu ar Rwydwaith Menywod Cymru.
“Roedd yna lot wedi gyrru negeseuon preifat ata’i wedyn,” meddai Sian.
Dyn o’r enw Deio Huws oedd wedi dod o hyd i’r het.
“Dwi’m yn gwybod os oedd y cap wedi bod ym Maes B trwy’r nos ond cawsom y cap yn ôl,” meddai Siân Llewelyn-Parry.
Roedd y Welsh Whisperer wedi rhoi cap arall i Caio hefyd.
“Hwnnw oedd y cap wedyn!”