Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Alison Cairns ydy Dysgwr y Flwyddyn
- Enillwyr y Goron, y Gadair, Gwobr Goffa Daniel Owen, y Fedal Ddrama a’r Fedal Ryddiaith
- Mark Drakeford ddim am sefyll i fod yn Aelod o’r Senedd yn yr etholiad
- Eisteddfod gyntaf digrifwraig ‘wedi newid ei bywyd’
Alison Cairns ydy Dysgwr y Flwyddyn
Alison Cairns ydy Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Cafodd ei henw ei gyhoeddi o lwyfan y Pafiliwn Mawr ddydd Mercher, Awst 9.
Cafodd 29 o bobol o Gymru a thu hwnt eu cyfweld eleni – mwy nag erioed o’r blaen.
Y beirniaid oedd Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Tudur Owen.
Y tri arall ar y rhestr fer oedd Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda, a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Dyma Alison Cairns
Mae Alison Cairns yn dod o’r Alban yn wreiddiol, ond mae hi’n byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn nawr.
Mae hi’n fam i saith o blant, ac yn byw ei bywyd yn Gymraeg ac yn gweithio mewn gofal. Mae’n bwysig ei bod hi’n siarad Cymraeg gyda chleifion.
Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch.
Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.
Mae hi’n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio, ac yn gneifiwr profiadol.
Bydd Alison a’i phartner Siôn yn priodi yn yr hydref.
Mae hi’n ennill £300 sydd wedi cael ei roi gan Gyngor Tref Pwllheli.
Mae’r tri arall yn cael £100 gan Gyngor Tref Pwllheli hefyd.
Bydd y pedwar yn cael tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan Merched y Wawr.
Dyma’r enillwyr eraill yn ystod yr wythnos:
Rhys Iorwerth oedd wedi ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Mae’n fardd, cyfieithydd ac awdur llawrydd ac yn byw yng Nghaernarfon.
Alun Ffred oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. Roedd wedi ysgrifennu nofel dditectif Gwynt y Dwyrain. Mae’n byw yn Nyffryn Nantlle. Mae wedi bod yn athro, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu ac Aelod Cynulliad. Mae wedi ymddeol rŵan. Gwynt y Dwyrain yw ei nofel gyntaf.
Cai Llewelyn Evans oedd wedi ennill y Fedal Ddrama. Mae Cai yn byw yn Nhreganna, Caerdydd. Mae’n gweithio fel cyfieithydd. Roedd wedi ysgrifennu’r ddrama Eiliad o Ddewiniaeth.
Enillydd y Medal Ryddiaith oedd Meleri Wyn James. Roedd hi wedi ysgrifennu’r nofel Hallt. Mae hi’n awdur ac yn olygydd creadigol i wasg Y Lolfa. Mae hi wedi cyhoeddi llyfrau ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion. Hi yw awdur y llyfrau Na, Nel! i blant. Mae hi’n byw yn Aberystwyth.
Alan Llwyd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Dyma’r trydydd tro iddo ennill y Gadair. Roedd hefyd wedi ennill y Gadair a’r Goron yr un flwyddyn – a hynny ddwy waith – yn 1973 ac 1976. Mae wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau. Mae’r bardd yn byw yng Nghwm Tawe.
Mark Drakeford ddim am sefyll i fod yn Aelod o’r Senedd yn yr etholiad nesaf
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na fydd yn sefyll i fod yn Aelod o Senedd Cymru yn yr etholiad nesaf yn 2026.
Roedd Mark Drakeford wedi bod yn siarad mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ar faes yr Eisteddfod ym Moduan. Dywedodd nad oedd e eisiau gyrfa wleidyddol ar y meinciau cefn.
“Dydw i ddim am fod yn Aelod o’r Senedd ar ôl 2026. Ond dydw i ddim am gamu nôl o’r ddadl a pheidio meddwl am ddyfodol Cymru,” meddai Mark Drakeford.
“Mae yna lot o bethau rydych chi’n gallu gwneud tu fas a does dim rhaid i chi fod yna i fod yn rhan, nac i gael diddordeb yn y dyfodol,” meddai.
Mae Mark Drakeford yn edrych ymlaen at gael mwy o amser ar gyfer ei ddiddordebau pan fydd ei amser yn y Senedd yn dod i ben, meddai wrth golwg360.
“Pan dydw i ddim yn gwneud y gwaith rydw i’n ei wneud nawr, dw i’n edrych ymlaen at gael y cyfle i wneud mwy o bethau ble mae diddordeb gyda fi.
“Mae’r cwestiwn wedi codi mwy nag unwaith heddiw am ganu mewn côr ac mae lot o ddiddordeb gyda fi i wneud hynny.”
Eisteddfod gyntaf digrifwraig ‘wedi newid ei bywyd’
Mae Kiri Pritchard-McLean yn ddigrifwraig sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi wedi dweud bod ei phrofiad cyntaf o fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol wedi “newid ei bywyd“.
Mae hi wedi perfformio comedi yn Gymraeg ar lwyfan erbyn hyn.
Roedd hi wedi cael cwmni Maggi Noggi ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan – “yr athrawes orau sydd.”
Roedd hi wedi bod yn siarad am ei phrofiad o fod yn yr Eisteddfod eleni mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Does dim modd ei ddisgrifio,” meddai wrth geisio dweud beth yn union yw’r Eisteddfod.
“Gŵyl yn rhannol, gŵyl fwyd yn rhannol, gofod oriel yn rhannol, gŵyl werin yn rhannol, sioe dalent yn rhannol, a’r cyfan yn Gymraeg.
“Ces i fy syfrdanu faint o bobol a sefydliadau ro’n i’n eu hadnabod, faint o fusnesau bach dw i’n eu caru oedd yno. Er nad oeddwn i wedi bod o’r blaen roedd yn teimlo fel pe bai wedi bod yn aros amdana i erioed, mewn ffordd.
“Mae’n ofod wirioneddol hudolus.”
Cafodd ei magu ar Ynys Môn, ond nid oedd wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg, meddai. Roedd hynny wedi ei gwneud hi’n drist.
“Roeddwn i’n drist na ches i hyn yn fy magwraeth – byddwn i wedi bod wrth fy modd.
“Ond, fel y ces i fy atgoffa gan Tudur Owen, mae o gen i rŵan.
“Gall yr Eisteddfod fod yn eiddo i fi hefyd… pan fydda i’n barod amdani, mi fydd hi’n fy nghroesawu’n gynnes.
“O ie, mi wnes i stand-yp yn Gymraeg hefyd. Roeddwn i wrth fy modd, ond dw i’n meddwl bod y straen o’i wneud o wedi tynnu ryw bedair blynedd oddi ar fy mywyd!”