Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Trelái: Anhrefn ar ôl marwolaeth dau fachgen
  • Aelod Seneddol Ceidwadol eisiau bod yn Faer Llundain
  • ‘Gormod o Saesneg’ ar Pobol y Cwm
  • Enw newydd i gartref Clwb Pêl-droed Wrecsam

Trelái: Anhrefn ar ôl marwolaeth dau fachgen

Ar ddechrau’r wythnos roedd dau fachgen yn eu harddegau wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Nhrelái wrth ymyl Caerdydd.

Roedd Kyrees Sullivan yn 16 oed a’i ffrind gorau Harvey Evans yn 15 oed. Roedden nhw ar feic trydan pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad nos Lun.

Ar ôl eu marwolaeth, roedd honiadau ar gyfryngau cymdeithasol bod fan yr heddlu wedi bod yn dilyn y ddau ychydig funudau cyn y gwrthdrawiad.

Roedd hyn wedi arwain at anhrefn yn yr ardal. Cafodd 15 o blismyn eu hanafu a cheir eu rhoi ar dân. Mae naw person wedi cael eu harestio.

Roedd lluniau teledu cylch cyfyng (CCTV) yn dangos bod plismyn wedi bod yn dilyn y ddau fachgen ar Ffordd Frank.

Roedd Heddlu’r De wedi dweud wedyn eu bod nhw wedi bod yn dilyn y ddau am dipyn cyn y gwrthdrawiad.

Roedd Heddlu’r De wedi dweud ddydd Mercher bod fan yr heddlu yn teithio ar ffordd wahanol pan oedd y ddau fachgen mewn gwrthdrawiad. Dydyn nhw ddim wedi dweud pam fod yr heddlu yn dilyn y ddau.

Nawr, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyfarfod gydag arweinwyr Trelái ddoe (Dydd Gwener, 26 Mai).

Roedd gwylnos yn cael ei chynnal neithiwr a balŵns yn cael eu rhyddhau fel teyrnged i’r bechgyn.


Natasha Asghar

Aelod Seneddol Ceidwadol eisiau bod yn Faer Llundain

Mae Aelod o Senedd Cymru wedi dweud ei bod hi eisiau sefyll fel ymgeisydd y Ceidwadwyr i fod yn Faer Llundain.

Natasha Asghar ydy AS Dwyrain De Cymru.

Mae hi’n dweud y bydd hi’n “chwa o awyr iach” i Lundain. Mae hi hefyd wedi dweud ei bod wedi byw yn Llundain am yr un faint o amser ag y mae hi wedi byw yng Nghymru.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dymuno pob lwc iddi, ond mae pleidiau eraill wedi ei beirniadu.

Daeth Natasha Asghar yn Aelod o’r Senedd ym Medi 2021. Mae hi’n llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth a thechnoleg yng Nghymru.

“Dw i’n siŵr eich bod chi i gyd yn meddwl: ‘Pam Natasha? Pam?’” meddai.

“Dw i wir yn meddwl ei bod hi’n amser am newid.

“Fe wnaeth gymaint o bobol dros y ffin ddweud: ‘Natasha, mae’n rhaid i ti wneud hyn, ti yw’r chwa o awyr iach mae pobl Llundain ei hangen’. A dyna’n union dw i’n bwriadu ei wneud.

Mae Natasha Asghar wedi dweud os ydy hi’n dod yn Faer Llundain ei bod eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yno’n yn teimlo’n “fwy diogel, yn hapusach, ac yn gallu llwyddo.”

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud bod hyn yn dangos fod y Ceidwadwyr yn “gweld Llundain fel blaenoriaeth fwy na Chymru”.

“Bydd pobol De Ddwyrain Cymru’n methu deall y cam hwn,” meddai llefarydd.

“Mae cynrychioli cymuned yn swydd lawn amser sydd angen ymrwymiad, bydd rhaid i Natasha Asghar feddwl o ddifrif ynglŷn â lle mae ei hymrwymiad, Cymru neu Lundain?”


Pobol y Cwm

Gormod o Saesneg’ ar Pobol y Cwm

Mae Radio Cymru wedi bod yn trafod colofn yn Golwg sy’n son am fwy o Saesneg ar Pobol y Cwm.

Mae Gwilym Dwyfor yn ysgrifennu’r golofn ‘Ar y Soffa’ yng nghylchgrawn Golwg. Mae e’n dweud ei fod wedi sylwi fod mwy a mwy o Saesneg yn yr opera sebon yn ddiweddar.

Mae e wedi gofyn “beth yw pwrpas hyn i gyd?”.

Mae’n son am “giangstars o Newcastle, cwpl o Saeson posh eisiau prynu tŷ haf”, Alaz y ffoadur o Gwrdistan, a’r cymeriad diweddaraf Maya Cooper. Mae hi’n fferyllydd o Lerpwl sydd ddim yn siarad Cymraeg. Sophie Mensah ydy’r actores sy’n chwarae Maya Cooper. Mae’r actores hefyd yn ddysgwr Cymraeg.

Mae S4C yn dweud fod Pobol y Cwm “yn cyflwyno cymeriad fydd yn mynd ar y siwrne o ddysgu Cymraeg”.

Roedd Gwilym Dwyfor wedi bod yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore dydd Gwener. Dywedodd ei fod e eisiau annog trafodaeth wrth ysgrifennu’r golofn. Mae’n dweud bod cael cymeriad sy’n dysgu Cymraeg yn “syniad diddorol“.

Mae’n dweud ei bod yn bosib “cyfiawnhau pob un o’r cymeriadau yn unigol.

“Ond gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu tuag at ryw shifft ieithyddol ehangach yn y Cwm,” meddai yn ei golofn.

“Dwi ddim yn gwrthwynebu’r stori yma’n benodol, ond mae’n teimlo bod yna newid gan S4C neu’r BBC,” meddai.

Mae S4C yn dweud y bydd Cymraeg Maya, y cymeriad newydd, “yn gwella” dros amser, fel fyddai rhywun sy’n dysgu Cymraeg.

“Mae S4C yn croesawu siaradwyr o bob gallu, ac yn gweld y cymeriad newydd fel cyfle gwych i adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth,” meddai.

“Y gobaith yw cael pobl o bob rhan o Gymru i fod yn fwy hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg, yn enwedig y rhai sydd yn ei siarad yn achlysurol.”


Y Cae Ras

Enw newydd i gartref Clwb Pêl-droed Wrecsam

Bydd y Cae Ras, cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn cael enw newydd.

Mae hyn oherwydd bod y stadiwm yn cael ei noddi gan gwmni coffi STōK o’r Unol Daleithiau.

Enw newydd y stadiwm fydd STōK Cae Ras. Bydd yr enw yn newid ar 1 Gorffennaf.

Cafodd y Cae Ras ei adeiladu ym 1864. Dyma’r maes pêl-droed rhyngwladol hynaf sy’n dal i gynnal gemau pêl-droed.

Y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney sy’n berchen Clwb Pêl-droed Wrecsam

Yn ddiweddar cafodd Wrecsam ei ddyrchafu i’r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.

Bydd gwaith i adeiladu eisteddle newydd gyda 5,500 o seddi yn cychwyn yn yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn cymryd lle’r hen ‘Kop’.

Mae’n golygu bydd capasiti’r maes yn codi i 15,000.

Humphrey Ker ydy Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam. Dywedodd: “Rydym yn falch iawn i groesawu STōK i deulu Wrecsam.

“Mae eu huchelgeisiau yn cyfateb i’n rhai ni.”