Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Angen mwy o athrawon i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg
  • Pobol gyfoethog ddim yn talu digon o drethi, meddai 87% o bobol Cymru
  • Neges Heddwch yr Urdd – ‘does dim lle i hiliaeth yn y byd’
  • Maxine Hughes yn cyfweld Donald Trump mewn rhaglen ar S4C

Angen mwy o athrawon i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg

Mae angen llawer mwy o athrawon Cymraeg os ydy Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dyna beth mae adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd yn dweud.

Mae’r pwyllgor yn dweud bod gwendidau yn y ffordd mae awdurdodau lleol yn cynllunio ac ehangu addysg Gymraeg ar draws Cymru.

Does dim digon o staff i wneud yn siŵr bod yr iaith yn tyfu mewn ysgolion Cymraeg, a does dim digon o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, meddai’r adroddiad.

Mae ffigurau’n dangos bod llai o blant a phobol ifanc yn gallu siarad Cymraeg o’i gymharu â deng mlynedd yn ôl. Mae hyn yn bennaf ymhlith plant rhwng tair a 15 oed.

Mae Llywodraeth Cymru yn trio gwella’r sefyllfa drwy gael mwy o athrawon Cymraeg eu hiaith. Maen nhw’n gwneud hyn drwy gynnig gwersi am ddim i’r rhai sydd eisiau dysgu neu wella eu sgiliau iaith.

Mae’r Cynllun Sabothol yn annog athrawon i ddysgu neu wella eu Cymraeg.  Mae grantiau yn cael eu rhoi i athrawon newydd i’w hannog i weithio mewn addysg Gymraeg.

Ond mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith yn dweud y byddai angen 17,000 o athrawon i gofrestru ar y Cynllun Sabothol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Delyth Jewell ydy cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Mae hi’n dweud: “Mae’r Gymraeg yn iaith sy’n perthyn i bob un ohonom yng Nghymru, a dylai fod yn bryder mawr i ni nad yw nifer y siaradwyr yn cynyddu.

“Mae’r pwyllgor hwn yn cefnogi’r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae’r uchelgais hwnnw mewn perygl difrifol os bydd pethau’n parhau fel y maen nhw.

“Mae’n amlwg bod cael digon o athrawon sy’n gallu siarad Cymraeg yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r mater hwn ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gwir uchelgais dros y blynyddoedd nesaf.”

Mae hi’n galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion a’u gweithredu “cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “cydnabod yr her” a’u bod yn cymryd “nifer o gamau uchelgeisiol” i ddenu mwy o athrawon.


Pobol gyfoethog ddim yn talu digon o drethi, meddai 87% o bobol Cymru

Mae 87% o bobol Cymru yn dweud bod pobol gyfoethog ddim yn talu digon o drethi.

Roedden nhw wedi cael eu holi gan y Fairness Foundation.

79% oedd y ffigwr ymhlith pobol ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae ffigurau’n dangos anghydraddoldeb cyfoeth ar draws y Deyrnas Unedig. Mae 20% o’r bobl gyfoethocaf yn berchen ar 63% o gyfoeth y genedl, tra bod yr 20% tlotaf yn berchen ar 0.6% o gyfoeth.

Mae gan ddynion 40% yn fwy o gyfoeth na menywod. Mae pobol â chroen gwyn bedair gwaith yn fwy tebygol o fod â chyfoeth dros £500,000 na phobl Ddu Affricanaidd.

Mae tua 83% o bobol wnaeth ymateb yng Nghymru, a 75% ar draws y Deyrnas Unedig, yn poeni bod gan y rhai sydd â chyfoeth dros £10m ormod o ddylanwad ar y system wleidyddol.

Mae 71% o bobol yng Nghymru’n credu y dylai’r llywodraeth fod yn gwneud mwy i drethu pobl sy’n werth £10m neu fwy. Roedd hyn yn cymharu efo 68% ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae 73% o bobol yng Nghymru, a 69% ar draws y Deyrnas Unedig, yn poeni bod rhai pobol yn y Deyrnas Unedig yn gyfoethog iawn tra bod eraill yn dlawd.

Mae’r rhan fwyaf o bobol hefyd yn credu bod nifer o bobol wedi ennill eu ffortiwn drwy lwc ar y cyfan ac nid gwaith caled.

Will Snell ydy Prif Weithredwr y Fairness Foundation.

Mae e’n dweud: “Mae ein hymchwil newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobol yn credu bod ein cymdeithas a’n heconomi’n annheg, ac mae’n cynnig ambell gliw diddorol o ran pam.”

Dyma’r pethau sy’n eu poeni:

  • Bod pobol yn dod yn rhy gyfoethog drwy lwc yn hytrach na gwaith caled;
  • Y bwlch rhwng y rhai cyfoethog a’r rhai tlawd;
  • Bod pobol heb gyfle teg i gael cyfoeth;
  • Bod y rhai cyfoethocaf yn y gymdeithas ddim yn talu eu ffordd nac yn dilyn yr un rheolau â phawb arall.

Mae Will Snell yn dweud dylai gwleidyddion o bob plaid gymryd y pryderon yma “o ddifrif” a meddwl beth maen nhw’n gallu gwneud i ddelio efo’r broblem.


Neges Heddwch yr Urdd – ‘does dim lle i hiliaeth yn y byd’

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi rhannu eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da wythnos yma.

Mae’r neges yn dweud bod dim lle i hiliaeth yn y byd.

Cafodd y neges ei chreu gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, y cerddor Eädyth, a Natalie Jones, Swyddog Cynnwys Addysg S4C.

Ers 1922, mae’r Urdd wedi bod yn rhannu eu neges ar 18 Mai. Pwrpas y neges ydy rhoi llais i blant a phobol ifanc Cymru i dynnu sylw’r byd at bwnc pwysig.

Yn y neges fideo eleni mae pobl ifanc Cymru yn dweud bod angen “torri lawr hiliaeth systemig.”

“Does dim lle i sylwadau hiliol.

“Os ydych chi’n eu clywed, mae’n rhaid galw nhw allan.

“Does dim lle i ragfarnau.

“Os ydych chi’n eu gweld, mae’n rhaid galw nhw allan.”


Donald Trump

Maxine Hughes yn cyfweld Donald Trump mewn rhaglen ar S4C

Mae’r newyddiadurwr Maxine Hughes wedi cyfweld Donald Trump ar gyfer rhaglenni dogfen ar S4C.

Mae Maxine Hughes yn Gymraes sy’n byw yn yr Unol Daleithiau.

Roedd hi wedi bod mewn trafodaethau am dros flwyddyn er mwyn trefnu cyfweliad gyda Donald Trump, cyn-arlywydd America. Roedd hi wedi cael cyfweliad hanner awr wyneb yn wyneb gyda Trump yn ei gartref ym Mar-a-Lago, Fflorida. Roedd e wedi bod yn trafod ei gynlluniau i sefyll am ailetholiad.

Enw’r rhaglenni dogfen ydy Trump: Byd Eithafol. Byddan nhw’n cael eu darlledu ym mis Mehefin.

Roedd Maxine Hughes wedi dilyn etholiadau 2020 yn yr Unol Daleithiau yn y rhaglen Trump, America a Ni ar S4C.

Mae hi hefyd wedi bod yn gwneud gwaith cyfieithu i berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn y gyfres Welcome to Wrexham.

Roedd Maxine Hughes wedi cyfweld rhai o gefnogwyr mwyaf Trump.

Bydd y rhaglenni yn dangos Maxine Hughes yn treulio amser gyda’r ‘Proud Boys’ a’r ‘Front Row Joes’, sy’n cefnogi ymgyrch Trump.

“Mae rhai ohonyn nhw wedi bod i dros 300 o ralïau ac wedi rhoi eu harian i gyd mewn i’w ddilyn,” meddai Maxine Hughes.

“Maen nhw’n dod yn fwy a mwy dylanwadol  fel grŵp, yn tyfu mewn maint, yn cymryd rhan mewn ymgyrchu gwleidyddol.”

Mae Maxine Hughes yn dweud mai holi Donald Trump oedd y cyfweliad anoddaf mae hi wedi’i wynebu.

“Dw i ddim yn meddwl y gallwch chi roi cyfweliad anodd i Donald Trump mewn ffordd oherwydd bydd yn ateb yn y ffordd y mae e eisiau,” meddai.

“Ges i fy synnu gan lefel y perfformiad mae’n gallu ei roi pan fydd yn ateb cwestiynau.”

Mae hi’n gwneud y cyfweliadau yn Saesneg, ond mae gweddill ei sylwebaeth yn y Gymraeg.  Mae hi’n dweud ei bod hi eisiau dangos i’r byd bod y Gymraeg yn iaith waith.

“Mae’r gynulleidfa Gymraeg yn hoffi gweld pobol yn siarad Cymraeg dramor ac yn gweld Cymry’n wynebu pethau mawr.

“Ni ddylai fod yn rhaid i ni droi at sianeli Saesneg i weld pobol proffil uchel.

“Dyna pam rydyn ni’n mynd ar ôl arweinwyry byd,” meddai.

  • Cynyrchiadau indie Alpha Cymreig wnaeth y rhaglen ddogfen, fydd yn cael ei darlledu ar S4C a BBC iPlayer ar Fehefin 11.