Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Adam Price am ymddiswyddo
  • Llŷr Gruffydd fydd Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru
  • Cynnal rali wrth-hiliaeth yn Aberystwyth
  • Beirniadu siwt Mark Drakeford yn y Coroni

Adam Price am ymddiswyddo

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud ei fod am ymddiswyddo.

Roedd o wedi cyhoeddi’r penderfyniad nos Fercher, Mai 10.

Bydd arweinydd newydd yn ei le yn yr haf.

Mae hyn yn dod ar ôl cyhoeddi adroddiad Prosiect Pawb. Roedd wedi canfod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price wrth ddelio efo honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio.

Roedd yr adroddiad yn dweud bod menywod wedi cael eu “gadael lawr” gan y blaid.

Roedd hefyd yn dweud bod “diwylliant o ofn” wrth sôn am achosion.

Fe wnaeth Adam Price ymddiheuro ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

Ar ôl iddo ddweud ei fod yn ymddiswyddo roedd Adam Price wedi dweud mewn llythyr at Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru y bydd yn “parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a’n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd.

“Ar ran Plaid Cymru hoffwn ddiolch i Adam am ei egni a’i weledigaeth dros y pedair blynedd a hanner diwethaf,” meddai Marc Jones.

Dywedodd y bydd y blaid nawr yn gwneud yn siŵr bod argymhellion Prosiect Pawb yn cael eu gweithredu.


Llŷr Huws Gruffudd

Llŷr Gruffydd fydd Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru

Mae Llŷr Gruffydd wedi cael ei benodi yn Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru.

Mae Llŷr Gruffudd yn Aelod o’r Senedd dros ranbarth y Gogledd.

Cafodd ei enwebu gan Grŵp Senedd Plaid Cymru. Bydd Cyngor Cenedlaethol y blaid yn cyfarfod heddiw (dydd Sadwrn,13 Mai) i gadarnhau’r penderfyniad.

Daw hyn ar ôl y cyhoeddiad nos Fercher bod Adam Price yn ymddiswyddo fel arweinydd. Bydd yn aros nes bod trefniadau interim mewn lle.

Roedd Llŷr Gruffydd wedi diolch i Adam Price am ei waith.

“Ein ffocws nawr yw symud ymlaen gyda’n gilydd i gyflawni ar ran pobol Cymru, a meithrin gwell diwylliant o fewn y blaid,” meddai.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd yr aelodau’n ymddiried ynddo i wneud y gwaith nes bod arweinydd newydd yn cael ei ethol.


Protest yn Aberystwyth gan Black Lives Mater yn 2020

Cynnal rali wrth-hiliaeth yn Aberystwyth

Bydd rali wrth-hiliaeth yn cael ei chynnal yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Mai 13).

Bydd pobol sydd wedi cael eu heffeithio gan hiliaeth yn cymryd rhan yn y rali.

Cangen Aberystwyth o Safwn yn Erbyn Hiliaeth sydd wedi trefnu’r rali.

Daw’r rali wrth i Heddlu Dyfed-Powys apelio am wybodaeth ar ôl i graffiti hiliol, gwrth-Semitaidd a homoffobig ymddangos yn Aberaeron.

Cafodd y graffiti ei wneud rywbryd rhwng Ebrill 28 a Mai 5.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys Talat Chaudhri, maer Aberystwyth; Nimi Trivedi o undeb Unsain a Changen Cymru o Safwn yn Erbyn Hiliaeth, a Bayanda Vundamina, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Bydd y rali yn dechrau am 1pm yng Ngerddi’r Castell.

Mae Hywel Jenkins yn un o’r trefnwyr. Mae’n dweud bod hiliaeth yn bodoli ar draws Cymru.

“Hyd yn oed yng ngorllewin Cymru a’r canolbarth mae problem gyda hiliaeth. Ambell waith mae pobol yn teimlo ei fod yn bell i ffwrdd o’r gymdeithas yma.

“Dydy hynny ddim yn wir, mae angen i ni gydnabod hynny. Y cam cyntaf yw cydnabod.

“Tan ein bod ni wedi cydnabod hynny dydyn ni ddim yn gallu symud ymlaen a gweithio gyda’n gilydd i oresgyn y broblem yma o hiliaeth yn ein cymdeithas.”


Mark Drakeford yn y Coroni

Beirniadu siwt Mark Drakeford yn y Coroni

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cael ei feirniadu am wisgo siwt oedd ddim yn addas ar gyfer Coroni’r Brenin Charles, yn ôl rhai.

Mae Mark Drakeford yn adnabyddus am deimlo’n anghyfforddus mewn dillad ffurfiol, ac nid yw’n hoffi gwisgo tei.

Roedd wedi cael ei feirniadu am fynd i’r Coroni yn y lle cyntaf. Roedd nifer yn dweud ei fod yn honni bod yn Weriniaethwr a Sosialydd ond ei fod wedi mynd yn erbyn ei egwyddorion.

Ar Ddydd Sadwrn y Coroni dywedodd y Prif Weinidog ar Twitter:

“Bydd hi’n fraint bod yn seremoni coroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III heddiw…

Rwy’n falch y bydd Cymru wrth galon y seremoni. Croes newydd Cymru fydd yn arwain gorymdaith Coroni’r Brenin a bydd y seremoni yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr a cherddorion Cymreig.

“Ar ran pobol Cymru a Llywodraeth Cymru, rwy’n estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i’w Fawrhydi.’

Ond dywedodd Llinor ap Gwynedd ar Twitter, sy’n actio ‘Gwyneth Jones’ yn Pobol y Cwm:

“Beth? Yn cynrychioli un o wledydd tlotaf Ewrop ac yn ymfalchïo mewn gwariant hollol anfoesol. Gwarth.”