Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • S4C yn 40 oed
  • Beirniadu S4C am gyflogi actorion sy’n methu siarad Cymraeg yn rhugl
  • Mwy na 200 o ddigwyddiadau yn rhaglen Gŵyl Cymru
  • Ymateb cymysg i Gogglebocs Cymru

S4C yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed

Roedd S4C wedi dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yr wythnos hon (1 Tachwedd).

Cafodd y sianel ei sefydlu ar ôl blynyddoedd o brotestio.

Roedd y Ceidwadwyr wedi addo cyflwyno sianel Gymraeg yn eu maniffesto yn 1979. Ond wnaethon nhw dro pedol ar ôl iddyn nhw ddod i rym.

Gwynfor Evans oedd LlywyddPlaid Cymru ac Aelod Seneddol cyntaf y blaid. Roedd e wedi bygwth ymprydio os nad oedd y Ceidwadwyr yn cyflwyno sianel Gymraeg. Ar ôl hynny roedd yn rhaid i Margaret Thatcher newid ei meddwl.

Dechreuodd y sianel ar 1 Tachwedd, 1982.

Galw am “setliad tecach”

Mae Plaid Cymru’n dweud bod S4C yn helpu gyda’r nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Maen nhw wedi gofyn i Lywodraeth San Steffan am “setliad tecach” i’r sianel.

Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae’n dweud bod S4C yn chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannolCymru ers 40 o flynyddoedd. Mae’n dal i chwarae rôl bwysig i hyrwyddo’r iaith i gynulleidfaoedd newydd, meddai Plaid Cymru.

Mae’r blaid yn galw eto am ddatganoli darlledu i Gymru. Dyma’r unig ffordd o “ddiogelu dyfodol hirdymor ein sefydliad cenedlaethol gwerthfawr a chael cyllid teg i ddarlledu Cymraeg,” meddai Plaid Cymru.


Beirniadu S4C am gyflogi actorion sy’n methu siarad Cymraeg yn rhugl

Mae’r actor Sharon Morgan wedi beirniadu S4C am gyflogi actorion sy’n methu siarad Cymraeg yn rhugl.

Dywedodd Sharon Morgan ei bod yn “hunanladdiad” i gyfres ddrama pan mae S4C yn rhoi un o’r prif rannau i actor sydd ddim yn siarad Cymraeg yn iawn.

Mae Sharon Morgan wedi ysgrifennu hunangofiant newydd, Actores a Mam. Yn y llyfr mae hi’n sôn am ei gyrfa brysur drwy’r 1980au a’r 1990au. Roedd hi wedi actio yn y gyfres ddrama dditectif ddwyieithog Yr Heliwr/A Mind to Kill.

Roedd hi wedi actio gyda Philip Madoc oedd yn chwarae’r brif ran. Mae hi’n dweud nad oedd ei Gymraeg yn dda iawn ar y dechrau  “ond fe wellodd wrth ymarfer, ac roedd yn frenin o’i gymharu â Hywel Bennett, seren cyfres ITV Shelley, oedd yn chwarae’r brif ran fel gwestai.”

Roedd yn rhaid i Hywel Bennett gael ei eiriau ar fwrdd du mawr, meddai Sharon Morgan. Mae hi’n dweud bod llawer o actorion eraill wedi cael eu cyflogi oedd “bron yn uniaith Saesneg” oherwydd eu bod eisiau codi proffil y tu allan i Gymru.

Mae Sharon Morgan yn gresynu bod actorion sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg yn dal i gael eu cyflogi heddiw. Mae hi’n dweud bod dangos “emosiwn ac ystyr trwy eiriau” yn bwysig iawn i grefft actor.

Y Golau – “sarhaus”

Mae Sharon Morgan yn beirniadu cyfresi fel Y Golau am gael actorion sy’n ‘enwau’ yn y byd Saesneg, fel Joanna Scanlan. Roedd hi wedi ennill BAFTA Prydeinig am ei pherfformiad yn y film After Love.

Cafodd Joanna Scanlan ei magu ym Mangor a Rhuthun. Roedd hi wedi dechrau dysgu Cymraeg ar y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C.

Ond mae Sharon Morgan yn dweud bod cyflogi actorion sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg yn “sarhaus”.

“Dw i’n meddwl ei fod e mor sarhaus, d’ych chi ddim yn medru mwynhau,” meddai Sharon Morgan. “Dw i ddim yn credu bod yna unrhyw ddadldrosto fe. Yn artistig, mae’n hunanladdiad i’r rhaglen.

“Wn i ddim a fydd Joanna yn mynd mlaen i ddod yn rhugl… ond y rheswm amdano fe yw eu bod nhw’n gwneud cyd-gynyrchiadau, ac maen nhw’n gorfod cael cefnogaeth cwmni Saesneg.

“Un o’r pethe roeddwn i’n ei fwynhau am Y Golau oedd pa mor wych oedd ein hactorion [iaith Gymraeg] ni, fel Ifan Huw Dafydd, Hannah Daniel, a Catherine Ayres.”

Ymateb S4C

Mae S4C yn dweud: “Wrth i ni ddathlu pen-blwydd 40, mae’n bwysig bod S4C yn adlewyrchu Cymru gyfoes. Mae’r broses o ddysgu unrhyw iaith yn dipyn o her ac mae angen cefnogaeth ar bobol sydd ar y siwrnai hon. Rydyn ni eisiau creu sianel a chynnwys sy’n hygyrch ac yn berthnasol i bawb yng nghymunedau ar draws Cymru.

“Rydyn ni’n cyd-weithio gyda chwmnïau cynhyrchu o fewn a thu allan i Gymru ar wahanol brosiectau er mwyn denu buddsoddiad, cyrraedd cynulleidfa fwy eang ac i greu cynnwys unigryw.”


Cefongwyr tim pel-droed Cymru

Dros 200 o ddigwyddiadau yn rhaglen Gŵyl Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi Gŵyl Cymru.

Mae hi’n ŵyl gelfyddydol deg diwrnod. Mi fydd yn digwydd wrth i’r genedl gefnogi Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Mi fydd yr ŵyl yn dechrau ar 19 Tachwedd 19. Bydd bron bob digwyddiad am ddim.

Mae Gŵyl Cymru eisiau uno celf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd. Mae hefyd eisiau cyflwyno cynulleidfaoedd newydd i’r celfyddydau, iaith a diwylliant Cymreig.

Dyma uchafbwyntiau’r ŵyl:

  • Footballroom; sioe ddawns/theatr yn edrych ar bêl-droed a hawliau LHDTC+, wedi’i chynhyrchu gan August 012.
  • Gigs comedi byw ar draws Cymru a Llundain, gyda digrifwyr o wledydd eraill yng Nghwpan y Byd a rhai o Gymru yn cynnwys Kiri Pritchard-McLean a Mike Bubbins.
  • Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio efo tafarn Cwrw yng Nghaerfyrddin i gyflwyno gwaith gan eu Clybiau Drama wedi’u hysbrydoli gan Gwpan y Byd.
  • Tafarn gymunedol Yr Heliwr yn cynnal cwis am Gwpanau’r Byd y gorffennol.
  • Cerddoriaeth fyw gan Sage Todz a Juice Menace (yng Nghaerdydd), Gwilym a’r Cledrau (yn Nolgellau), Lemfreck, Mace the Great a Teddy Hunter (yn Efrog Newydd) a’r band pres 11-offeryn The Barry Horns (yn Dubai).
  • Digwyddiadau llenyddol, nosweithiau barddoniaeth Bragdy’r Beirdd a sgyrsiau panel, gyda Wal yr Enfys, y bardd Rhys Iorwerth a Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa.
  • Digwyddiad wedi’i gynnal gan Gymdeithas Gymraeg Syria i nodi a dathlu cefnogaeth ffoaduriaid o Gymru

Mae rhaglen lawn yr ŵyl nawr yn fyw yma: gwyl.cymru/cy.


Ymateb cymysg i Gogglebocs Cymru

Roedd y fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu Gogglebox wedi bod ar S4C yr wythnos hon. Ond roedd ymateb cymysg i’r rhaglen.

Roedd y rhaglen gyntaf wedi cyflwyno’r cymeriadau fydd ar Gogglebocs bob nos Fercher, o Lanelli i Fanceinion.

Ond roedd gwylwyr wedi rhoi eu barn ar Twitter am bennod gyntaf y gyfres.

‘Mwynhau’n fawr’

Roedd rhai yn canmol pennod gyntaf y gyfres a’i chymeriadau ar Twitter.

“Dwi ‘di bod yn ffan hiwj o #Gogglebox ers iddo fe ddechre ar Channel 4. Wedi edrych mlaen felly i wylio #gogglebocscymru heno ar @S4C. Ges i ddim mo fy siomi – wedi mwynhau’n fawr. Y castio’n dda a throslais @Tudur yn berffaith,” meddai un.

“Dechra addawol iawn i #gogglebocscymru – fformat sy’n gweithio r’un mor dda yn Gymraeg. Dim ond gwella neith o fyd. Gawn ni #brawdmawrcymru nesa plis S4C?,” meddai un arall ar Twitter.

Mae rhai wedi dweud eu bod yn gobeithio fydd yn eu helpu wrth ddysgu Cymraeg hefyd gan fod y rhaglen ddim yn rhoi gormod o bwyslais ar “Gymraeg hollol gywir ond yn gadael i bawb ddefnyddio’r iaith i’w gallu yn gyffyrddus”.

Ond doedd eraill ddim yn hapus.

“Mae gwylio #GogglebocsCymru yn atgoffa fi ddal fyny efo cwsg. Try again #s4c,” meddai un arall.

“O’n i byth yn meddwl sw ni gweld rhaglen mor sal a lol GoggleBox na. Dwi wedi heno, Gogglebocs Cymru. #Pathetic.”