Dyma’r penawdau wythnos yma: 

Cyngor Gwynedd yn cytuno gyda’r cynnig i godi premiwm treth cyngor ail dai i 150%

Yr Alban angen caniatâd San Steffan cyn cynnal refferendwm annibyniaeth

Yr Urdd yn amddiffyn eu penderfyniad i fynd i Qatar

Cwpan y Byd: Gareth Bale yn sgorio gôl i Gymru


 Cyngor Gwynedd yn cytuno gyda’r cynnig i godi premiwm treth cyngor ail dai i 150%

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno ar gynnig i godi’r premiwm treth cyngor ar ail dai i 150%.

Cafodd y cynnig ei wneud gan y Cynghorydd Ioan Thomas. Fo ydy’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am gyllid. Roedd y cyngor wedi cynnal ymgynghoriad am godi’r premiwm treth cyngor ar ail dai.

O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd cynghorau sir yn gallu codi premiwm o hyd at 300% ar dreth cyngor ail dai.

Roedd Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i godi’r premiwm ar gyfer ail dai o 100% ddydd Mawrth (Tachwedd 22). Bydd y cynnig rŵan yn mynd o flaen y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.

Roedd y cabinet wedi cytuno efo cynnig bod y premiwm ar dai gwag yn aros ar 100%.

Mae Cabinet Cyngor Conwy hefyd wedi penderfynu codi premiwm o 50% ar ail gartrefi. Ac mae Cyngor Powys wedi cytuno i gadw at eu penderfyniad i godi premiwm o 75%.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar gynghorau dros y wlad i ddefnyddio eu grymoedd yn llawn.

Dywedodd Jeff Smith o Cymdeithas yr Iaith: “Er bod cynghorau sir yn gallu codi premiwm o hyd at 300% ar dreth y cyngor ar ail dai mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu codi 150%, er bod 8% o dai y sir yn ail dai. Byddai arian y premiwm yn mynd at gynlluniau i atal a lleihau digartrefedd a helpu prynwyr tro cyntaf,” meddai.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn Llanrwst ar 17 Rhagfyr.


Nicola Sturgeon o flaen darllenfa a dau feic

Yr Alban angen caniatâd San Steffan cyn cynnal refferendwm annibyniaeth

Mae’r Goruchaf Lys wedi penderfynu bod yn rhaid i’r Alban gael caniatâd San Steffan cyn cynnal refferendwm annibyniaeth.

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y  penderfyniad yn “annemocrataidd”.

Dim ond 45% o Albanwyr oedd yn cefnogi annibyniaeth yn y refferendwm cyntaf yn 2014. Mae’r ffigwr yn agosach at 50% erbyn hyn, yn ôl polau piniwn. Roedd Llywodraeth yr Alban eisiau cynnal refferendwm y flwyddyn nesaf. Ond roedden nhw’n dweud byddai’n rhaid iddo fod yn gyfreithlon.

Roedd yr achos llys yn trafod trosglwyddo pwerau sydd gan San Steffan i Holyrood.

Nicola Sturgeon ydy Prif Weinidog yr Alban. Mae hi wedi dweud y byddai’r SNP yn barod i sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf ar un polisi unigol, sef ennill annibyniaeth, os oedden nhw’n colli’r achos.

Yn ôl Senedd yr Alban, mae mwyafrif o’r aelodau eisiau cynnal refferendwm annibyniaeth. Maen nhw’n dweud bod ganddyn nhw fandad i’w gyflwyno.

Ond mae’n debyg na fyddan nhw’n gallu gwneud hynny am y tro.

“Dylai hyn fod yn alwad i ddeffro i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Mae Plaid Cymru’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i amddiffyn  yr hawl i hunanlywodraeth heddiw.

“Rhaid i ni gyd sefyll yn unedig yn erbyn San Steffan, sy’n ein hamddifadu ni o ddemocratiaeth.”


Yr Urdd yn Qatar

Yr Urdd yn amddiffyn eu penderfyniad i fynd i Qatar

Mae’r Urdd wedi amddiffyn eu penderfyniad i fynd i Qatar yn ystod Cwpan y Byd.

Mae pryderon wedi cael eu codi am y ffordd mae’r wlad yn trin gweithwyr o dramor, a phobl LGBTQ+.

Siân Lewis ydy Prif Weithredwr yr Urdd. Mae hi’n dweud bod mynd i Qatar yn “gyfle i rannu gwerthoedd Cymru, bod yn rhan o drafodaeth ac ymuno â chymuned fyd-eang”.

Mae pryderon wedi bod am nifer y gweithwyr – nifer ohonyn nhw yn dod o dramor – sydd wedi marw wrth i Qatar adeiladu stadia newydd i gynnal gemau.

Mae’r awdurdodau yn Qatar yn dweud mai dim ond tair marwolaeth sydd wedi bod ar safleoedd adeiladu stadia ers i’r gwaith ddechrau yn 2014. Maen nhw’n dweud bod 37 o bobl eraill wedi marw ond sydd ddim yn “gysylltiedig â gwaith”.

Y llynedd, fe wnaeth y Guardian adrodd bod 6,500 o weithwyr o bum gwlad – India, Bangladesh, Pacistan, Sri Lanca a Nepal – wedi marw rhwng 2010 a 2020.

Mae Qatar wedi dweud bod croeso i bob ymwelydd beth bynnag fo’u hil, crefydd, rhyw neu rywioldeb. Ond maen nhw’n dweud eu bod yn disgwyl iddyn nhw barchu eu cyfreithiau a’u diwylliant.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae dau dîm o’r Urdd wedi mynd i Qatar i gynnal sesiynau chwaraeon, celfyddydol a diwylliannol gyda phlant mewn ysgol yn Doha.

Mae Prif Weithredwr yr Urdd yn dweud ei fod yn “gyfle i’r Urdd gyfrannu a rhoi Cymru ar fap rhyngwladol y byd”.

“Mae cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cynnig llwyfan a chynulleidfao dros 5 biliwn o bobl ar draws y byd i Gymru. Mae’r Urdd yn falch o gael y cyfle i gyfrannu drwy hyrwyddo ein gwlad, iaith a’n diwylliant ar lwyfan rhyngwladol,” meddai Sian Lewis.

Mae staff yr Urdd hefyd wedi dweud: “Roedd hi’n gyffrous gweld y diddordeb gan y plant, yn enwedig brwdfrydedd y merched am ein hymgyrch #FelMerch.

Uchafbwynt arall oedd clywed plant yr ysgol yn canu ‘Yma o Hyd’ ar yr iard ar ôl dysgu’r gân yn ein gweithdai – a hyd yn oed clywed bod rhai o’r disgyblion wedi penderfynu cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd ar ôl dysgu am ein hanes!”


Gareth Bale

Cwpan y Byd: Gareth Bale yn cipio gôl i Gymru o’r smotyn

Roedd Gareth Bale, capten tîm pêl-droed Cymru, wedi cipio pwynt i Gymru yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 1958.

Dyma oedd un o goliau mwyaf ei yrfa. Roedd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Unol Daleithiau yng Ngrŵp B. Roedd y gêm wedi gorffen yn gyfartal 1-1 yn Qatar.

Fe lwyddodd Gareth Bale i sgorio gôl o’r smotyn gan sicrhau dwy gêm fawr yn erbyn Iran a Lloegr.

“Roedden ni’n ofnadwy yn yr hanner cyntaf,” meddai Gareth Bale.

“Ond dyna ni, roedd rhaid i ni wneud ambell newid hanner amser ac ambell newid tactegol, ac roedden ni’n wych yn yr ail hanner.

“Chwaraeon ni’r bêl, roedden ni’n ddewr, roedden ni’n hyderus.”

Dywedodd ei fod yn “deimlad anhygoel, anghredadwy” i sgorio’i gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd.

Ond colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn Iran ddoe (Dydd Gwener, 25 Tachwedd) o 2-0. Fe fyddan nhw nawr yn chware yn erbyn Lloegr ddydd Mawrth, 29 Tachwedd.