Dyma’r penawdau wythnos yma: 

Ffrae fawr yn y Senedd rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr

Cyngor Gwynedd: Codi’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi i 150%?

Tad yn aros dros dair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant

Cannoedd o ddysgwyr yn aros i gael ymarfer efo siaradwyr Cymraeg

Carfan Cymru wedi cyrraedd Qatar


Ffrae fawr yn y Senedd rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr

Mae ffrae fawr wedi bod yn y Senedd rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.

Elin Jones ydy Llywydd y Senedd. Roedd hi’n anodd iddi gadw trefn ar y sefyllfa.

Fis diwethaf, roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi colli ei dymer pan oedd e’n cael ei holi am y Gwasanaeth Iechyd. Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, oedd yn gofyn y cwestiynau.

Y tro yma, roedd y ffrae rhwng yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan a Gareth Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig. Gareth Davies ydy’r Aelod Ceidwadol dros Ddyffryn Clwyd. Roedd e wedi gofyn pam bod dim ysbyty cymunedol yng ngogledd Sir Ddinbych.

Roedd e wedi dweud, os oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywbeth 10 mlynedd yn ôl yna byddai gan bobol yn y Rhyl, Prestatyn a gogledd sir Ddinbych ysbyty cymunedol erbyn hyn.

Ond roedd Eluned Morgan wedi dweud nad oedd hi’n Aelod o’r Senedd bryd hynny. Roedd hi hefyd yn dweud bod dim digon o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ysbyty cymunedol.

Wedyn, roedd Gareth Davies wedi gofyn cwestiwn arall am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd e’n gofyn a fyddai Eluned Morgan yn cyfarfod â’r bwrdd er mwyn gadael i bobol leol wybod “fod y llywodraeth hon ar ochr y bobol”.

Os nad oedd hi’n mynd i sicrhau pobl, meddai Gareth Davies, “a fyddwch chi rŵan yn cyfaddef eich bod chi wedi methu pobol Clwyd?”

Roedd Eluned Morgan wedi gofyn pam mai’r llefarydd gofal, ac nid y llefarydd iechyd, oedd yn ei holi. Roedd y Llywydd Elin Jones wedi gofyn i Eluned Morgan ateb y cwestiwn.

Roedd Gareth Davies wedi taflu ei ddesg darllen i’r llawr. Roedd aelod arall wedi cael ei glywed yn ei rybuddio i “dyfu i fyny”.

“Ydych chi eisiau gwrando ar yr ateb?” gofynnodd y Llywydd.

“Pe bai hi mor gwrtais ag ateb yna dewch ymlaen, gadewch i ni ei gael e,” meddai Gareth Davies.

“Mae hi’n trosglwyddo’r bai drwy’r amser.”

Dyma pryd wnaeth y Llywydd golli rheolaethar y cyfarfod. Roedd Elin Jones wedi trio tawelu’r ffrae.

“Rydych chi wedi cael eich cyfle, Gareth Davies, ac fe fyddaf yn gofyn i chi a ydych chi eisiau gadael yn dawel nawr,” meddai.

“Byddaf yn gadael rŵan,” meddai. Dywedodd bod y sefyllfa’n “sarhad ar ddemocratiaeth”.

Mae Elin Jones wedi dweud na fydd yn cael dod yn ol i’r Siambr nes ei fod yn ymddiheuro.


Mae problem ail gartrefi wedi achosi mwy o ddigartrefedd yng Ngwynedd, meddai’r Cyngor

Cyngor Gwynedd: Codi’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi i 150%?

Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried cynnig i godi’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi o 100% i 150% o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfarfod dydd Mawrth, Tachwedd 22, bydd y Cabinet yn cynnig cadw’r premiwm ar dai gwag hirdymor ar 100%.

Y Cynghorydd Ioan Thomas ydy Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Gyllid. Mae e’n dweud dylai unrhyw arian ychwanegol sy’n dod i’r Cyngor oherwydd y newid gael ei roi i helpu pobl ddigartref.

Roedd y cyngor wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am y premiwm ail gartrefi. Roedd 7,300 o bobl wedi ymateb.

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas eu bod nhw wedi edrych ar yr atebion. Mae o nawr yn mynd i ofyn i’r Cabinet argymell fod y Cyngor Llawn yn codi’r premiwm o 100% i 150% ar gyfer ail gartrefi. Bydd y premiwm yn aros yn 100% ar dai gwag.

Mae llawer o son wedi bod am yr effaith mae ail gartrefi’n ei chael ar y farchnad dai leol. Ond mae’r Cyngor yn dweud bod y sefyllfa yng Ngwynedd hefyd wedi achosi mwy o ddigartrefedd dros y sir.

Mae nifer y bobl sy’n ddigartref yng Ngwynedd wedi codi 47% dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Does dim digon o dai i’w rhentu chwaith, meddai Cyngor Gwynedd.

Mae hyn yn golygu bod dim digon o dai rhent ar gael i’r Cyngor roi llety i bobol ddigartref leol. Maen nhw’n gorfod aros mewn gwestai a llety dros dro am amser hir iawn ac mae hynny’n costio lot i’r Cyngor.

Mae’r Cynghorydd Ioan Thomas eisiau i unrhyw arian o’r premiwm gael ei ddefnyddio i helpu pobl ddigartref.

“Mae sicrhau llety diogel i bobol sydd heb unlle arall i fyw yn golygu fod y Cyngor yn gwario £6m yn fwy eleni yn unig ar wasanaethau digartrefedd. Mae hyn yn arian nad yw ar gael i gynnal gwasanaethau angenrheidiol eraill.

“Rwyf felly yn argymell fod incwm ychwanegol o’r premiwm yn cael ei ddefnyddio i gau’r bwlch hwn.”


Aled Powell

Tad yn aros dros dair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Sir Wrecsam ar ôl i dad aros tair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, roedd Aled Powell wedi gofyn i Gyngor Wrecsam am wersi nofio yn Gymraeg i’w blant yn 2019, ac mae’n dal i aros. Dydy o dal ddim yn gwybod pryd bydd gwersi nofio ar gael i blant yr ardal yn Gymraeg.

“Dw i wedi bod yn trafod efo Cyngor Wrecsam ers dros dair blynedd, dw i wedi cwyno wrth y Cyngor ac wrth Gomisiynydd y Gymraeg, a does dim byd wedi newid,” meddai Aled Powell. Mae o’n aelod o Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith.

“Beth ydw i fod i’w wneud? Mae dyletswydd ar y Cyngor i ddarparu gwersi drwy’r Gymraeg, ond yn amlwg dydyn nhw’n poeni dim am siaradwyr Cymraeg y sir.

“Y dewis dw i wedi’i gael ydy gwersi nofio drwy’r Saesneg neu ddim gwersi nofio o gwbl.”

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal trydydd ymchwiliad i’r mater, meddai. Ond mae Aled Powell yn dweud bod ei blant yn colli allan.

“Dw i ddim eisiau gwersi i ’mhlant ymhen blynyddoedd pan maen nhw yn yr ysgol uwchradd.

“Roedd Awen yn bedair pan ddechreuais i ofyn am wersi ac mae hi rwan yn saith, ac mae hi a’i chwaer fach yn gofyn bob wythnos pa bryd cawn nhw ddysgu nofio.”

Mae Nia Marshal Lloyd o Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Wrecsam.

“Mater syml ydy hyn, ac mae’n amlwg mai’r prif rwystr ydy agwedd Cyngor Wrecsam tuag at y Gymraeg,” meddai.

Mae hi’n galw ar arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard, i sicrhau bod gwersi nofio Cymraeg ar gael i blant y sir yn y flwyddyn newydd.


Cannoedd o ddysgwyr yn aros i gael ymarfer efo siaradwyr Cymraeg

Mae cannoedd o ddysgwyr yn aros i gael ymarfer yr iaith efo siaradwyr Cymraeg.

Mae cannoedd o ddysgwyr yn rhan o gynllun ‘Siarad’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ond maen nhw’n yn apelio am fwy o siaradwyr Cymraeg i ymunoefo’r cynllun.

Mae ‘Siarad’ yn rhoi cyfle i ddysgwyr wella eu hyder trwy sgwrsio yn Gymraeg. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio eu Cymraeg yn lleol.

Mae Branwen Gwyn yn gyflwynwraig deledu. Mae hi’n un o’r siaradwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ers blynyddoedd. Mae hi wedi’i pharu gyda Angela Yeoman.

Mae Branwen Gwyn yn dweud ei bod wedi ymuno yn y cynllun am ei bod hi eisiau helpu pobl i ddysgu Cymraeg.

“Mi oeddwn i’n hapus iawn o gael fy mharu gydag Angela. Mae hi’n siarad Cymraeg mor dda, er nad ydy hi’n sylweddoli hynny!

“Mi oedd y sgwrs mor rhwydd fel bod awr yn hedfan yn ei chwmni. Mae’n berson mor hapus a byrlymus.

“Mae’n bwysig cofio nad ydych chi yna i fod yn athro neu athrawes – dydy o ddim byd fel’na.

“Jyst sgwrsio sydd angen ei wneud – ac os ydych chi eisiau ymuno yn y cynllun, ewch amdani.

“Mae’n grêt mynd i ddosbarth Dysgu Cymraeg, ond mae angen cael cyfle i sgwrsio efo siaradwyr Cymraeg tu allan i’r dosbarth.

“Mi fyddwch chi’n gwneud gwaith gwerthfawr iawn yn helpu pobl fagu hyder yn eu Cymraeg.”

Meddai Angela Yeoman: “Cyn cychwyn y cynllun Siarad, roeddwn i’n iawn yn siarad Cymraeg gyda dysgwyr eraill ond cyn gynted o’n i’n cyfarfod siaradwyr iaith gyntaf, doeddwn i ddim yn gyfforddus o gwbl yn siarad Cymraeg.

“Ond mae Branwen wedi gwneud i mi deimlo yn gartrefol o’r sesiwn gyntaf un – yn siarad am bethau fel y gath, mynd â’r car am MOT, pwy o’r teulu oedd efo Covid neu yn hunan ynysu, pethau arferol bywyd!”

Mae’r dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn dilyn cyrsiau lefel Canolradd, Uwch neu Gloywi. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n gallu cynnal sgwrs yn gyfforddus yn Gymraeg.

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gofyn i bobl roi deg awr dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd. Mi all hynny fod tra’n sgwrsio dros baned, mewn gêm bêl-droed, yn y côr, neu wrth fynd am dro.

Maen nhw’n galw am bobl ar draws Cymru i ymuno yn y cynllun. Dych chi’n gallu cofrestru trwy fynd i wefan Dysgu Cymraeg  neu e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru 


Carfan Cymru'n ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Carfan Cymru’n ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Carfan Cymru wedi cyrraedd Qatar

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi teithio i Qatar. Maen nhw’n paratoi i chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd.

Mae 26 dyn wedi cael eu dewis i fod yng ngharfan Rob Page. Roedden nhw wedi teithio o Gaerdydd dydd Mawrth, Tachwedd 15.

Roedden nhw wedi cael sesiwn ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn teithio. Roedd cannoedd o blant wedi dod i ffarwelio efo’r chwaraewyr. Roedd perfformiad hefyd gan yr artist drill o Benygroes, Sage Todz.

Bydd Cymru’n dechrau gyda gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau ddydd Llun (Tachwedd 21), gyda’r gic gyntaf am 7 o’r gloch y nos yng Nghymru. Fe fyddan nhw wedyn yn chwarae yn erbyn Iran a Lloegr yng Ngrŵp B.

“Ry’n ni’n falch ein bod ni yma nawr fel y gallwn ni roi’n holl ffocws at y gêm gyntaf,” meddai Rob Page.

“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych ers i ni gwrdd.

“Rydyn ni wedi cael cwpwl o ddyddiau gyda’n gilydd, ac rydyn ni mor falch o fod yma.”