Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • S4C yn gwario miloedd o bunnau ar gyngerdd yn America
  • Hywel Williams ddim am sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol nesaf
  • Nyrsys ar draws Cymru am streicio dros “dâl teg”
  • Llywodraeth Cymru’n rhoi £7m i helpu plant i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg

 


S4C yn gwario miloedd o bunnau ar gyngerdd yn America

Mi fydd S4C yn gwario miloedd o bunnau ar gynnal cyngerdd yn America ar 14 Tachwedd.

Mae S4C yn dweud bod ‘Cyngerdd Cymru i’r Byd’ yn gyfle da i “ddathlu talentau Cymru ar lwyfan byd eang”. Mae’r sianel hefyd yn gobeithio creu partneriaethau gyda chwmnïau teledu o dramor.

Bydd y cyngerdd yn cael ei chynnal a’i ffilmio yn Times Square yn Efrog Newydd.

Roedd Cadeirydd S4C Rhodri Williams wedi dweud wythnos ddiwethaf bod y sianel yn wynebu amser anodd oherwydd chwyddiant.

Mae S4C wedi dweud na fydd yna “wariant enfawr” ar y cyngerdd yn America. Ond dydyn nhw ddim wedi dweud faint fydd y gyngerdd yn costio.

Mae S4C wedi cael £250,000 gan Lywodraeth Cymru i’w “wario ar gynnal y gyngerdd a digwyddiadau masnachol yn Efrog Newydd”, meddai llefarydd.

Mae’r  Llywodraeth yn rhoi’r arian er mwyn hyrwyddo Cymru ar ôl llwyddiant y tîm pêl-droed yn cyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi cael £500,000 a Chyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi cael £259,500.

“Rydym yn gweld y gwariant fel buddsoddiad yn y sianel er mwyn sicrhau llwyddiant a chyd-weithio i’r dyfodol,” meddai llefarydd S4C.

“Bydd staff S4C yn mynd i sawl cyfarfod yn Efrog Newydd yn ystod eu hamser yna.

“Bydd y cyfarfodydd yma yn eu helpu i greu partneriaethau ac mae’n gyfle pwysig i drafod ein cynnwys ac i’w hybu mewn un o farchnadoedd mwyaf yn y byd.”

Mi fydd ‘Cyngerdd Cymru i’r Byd’ yn cynnwys Cymry sy’n fyd enwog a rhai o sêr Hollywood.

Bydd Ioan Gruffudd yn arwain y gyngerdd a bydd perfformiadau gan Bryn Terfel, Rhys Ifans, Mark Evans, LEMFRECK, Dionne Bennett, Eve Goodman, Mared Williams ac Owain Gruffudd Roberts.

“Hefyd, bydd Ryan Reynolds a Rob McElhenny yn derbyn gwobr arbennig am eu cyfraniad i ddiwylliant Cymru,” meddai’r llefarydd.

Mi fydd y cyngerdd yn digwydd nos Lun, 14 Tachwedd, ac yn cael ei dangos ar S4C ar nos Sul, 20 Tachwedd.


Hywel Williams AS

Hywel Williams ddim am sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol nesaf

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi dweud bod o ddim am sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Roedd o wedi cynrychioli Caernarfon rhwng 2001 a 2010, ac yna Arfon ers 2010, yn San Steffan.

Mewn cyfarfod nos Iau dywedodd wrth aelodau lleol y Blaid ei bod wedi bod yn  “anrhydedd ac yn fraintgwasanaethu pobol Arfon ac etholaeth Caernarfon.

Mae Hywel Williams wedi ymgyrchu tros hawliau pobol ag anableddau a phobol fregus. Mae o hefyd wedi bod yn llefarydd ar ran y blaid ar waith a phensiynau ers 2001.

Roedd o wedi pleidleisio yn erbyn rhyfel Irac yn 2003; wedi cefnogi’r Cwrdiaid, a phobl Catalwnia.

Dywedodd Hywel Williams ei fod wedi siarad efo’i deulu ac wedi penderfynu peidio sefyll fel ymgeisydd eto ar ran Plaid Cymru i fod yn Aelod Seneddol dros Arfon.

Mae llawer o wleidyddion Plaid Cymru wedi bod yn talu teyrnged i Hywel Williams.

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: “Trwy gydol ei amser yn Nhŷ’r Cyffredin, mae Hywel Williams wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros gyfiawnder cymdeithasol, gan roi llais i bobol fregus ac anabl, ac arwain y frwydr yn erbyn polisïau lles creulon San Steffan,” meddai.

Dywedodd  ei fod yn “uchel ei barch” a bydd grŵp Plaid Cymru San Steffan “yn colli ei brofiad a’i ddoethineb.


Nyrsys ar draws Cymru am streicio dros “dâl teg”

Mae nyrsys ar draws Cymru wedi pleidleisio dros streicio. Maen nhw eisiau “tâl teg” am eu gwaith.

Mae disgwyl i’r streicio ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.

Bydd nyrsys sy’n aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cymryd rhan mewn streiciau. Ond fydd nyrsys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng Ngwent ddim yn cymryd rhan yn y streic.

Fe fydd nyrsys yn streicio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, a tua hanner byrddau iechyd Lloegr.

Cafodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ei sefydlu 106 o flynyddoedd yn ôl. Dyma’r tro cyntaf yn ei hanes i streiciau gael eu cynnal dros y Deyrnas Unedig.

Yng Nghymru, mae nyrsys wedi cael cynnig codiad cyflog o tua 4.75%.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw’n cytuno y dylai nyrsys “gael eu talu’n deg am eu gwaith pwysig”.

Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw methu gwneud hynny os nad ydyn nhw’n cael mwy o arian gan Lywodraeth San Steffan.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Phlaid Cymru yn cefnogi’r Coleg Nyrsio Brenhinol. Maen nhw’n dweud ei bod yn annheg bod nyrsys wedi cael cynnig codiad cyflog is na chwyddiant.

Pat Cullen ydy Ysgrifennydd Cyffredinol a Phrif Weithredwr y Coleg Nyrsio Brenhinol.

“Mae ein haelodau’n dweud mai digon yw digon,” meddai.


Llywodraeth Cymru’n rhoi £7m i helpu plant i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg

Fe fydd mwy na £7m yn cael ei roi i brosiectau addysg ar draws Cymru i helpu plant i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Jeremy Miles ydy Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae wedi dweud y bydd 11 o brosiectau addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn cael yr arian.

Bydd y prosiectau yn rhoi cyfle i fwy o ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Bydd Ysgol Llanfawr yng Nghaergybi ar Ynys Môn yn cael arian ar gyfer uned gofal plant newydd.

Bydd lle ar gyfer 50 o leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr uned newydd.

Bydd rhai prosiectau hefyd yn cefnogi cymunedau lleoli ddefnyddio mwy o Gymraeg.

“Rwy’n falch o weld y cynlluniau ar gyfer prosiectau newydd a fydd yn cefnogi plant a phobol ifanc o bob oedran ar draws Cymru,” meddai Jeremy Miles.

“Os ydyn ni’n mynd i gyrraedd ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n rhoi’r genhedlaeth nesaf wrth wraidd ein cynlluniau.

“Mae fy neges i’n glir, rwy am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy’ am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.”