Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Nyrsys yn streicio dros gyflogau
  • ‘Digwyddiad difrifol’ ym mwrdd iechyd y gogledd
  • Tua 4,500 o bobl ar draws Cymru heb ddŵr ar ôl y tywydd rhewllyd
  • 18 o bobol yn cael eu dedfrydu am eu rhan yn nherfysg Mayhill
  • Dona Lewis ydy Prif Weithredwr newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Nyrsys yn streicio dros gyflogau

Mae cannoedd o nyrsys ar draws Cymru wedi bod yn streicio dros gyflogau.

Dyma’r ail waith o fewn wythnos iddyn nhw fod ar streic.

Mae wedi effeithio gwasanaethau ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru ond am Aneurin Bevan.

Cafodd cannoedd o driniaethau ac apwyntiadau eu gohirio yn ystod diwrnod cyntaf y streic yr wythnos ddiwethaf. Ond dyw gwasanaethau fel cemotherapi, dialysis ac unedau gofal dwys ddim yn cael eu heffeithio gan y streic.

Mae llawer o nyrsys yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ar streic hefyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod tua 257 o lawdriniaethau a 1,866 o apwyntiadau wedi eu gohirio oherwydd y streic wythnos diwethaf.

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cyflogau nyrsys.

Yn ôl un nyrs sy’n gweithio yng Ngwynedd, nid y cyflog ydy’r brif broblem, ond diogelwch cleifion.

“Mi oedd nyrsio yn dream job i mi ers oeddwn i’n 10 oed, erioed wedi dychmygu gwneud unrhyw swydd arall,” meddai’r nyrs, sydd eisiau aros yn ddienw.

“Roedd o’n golygu mynd i’r brifysgol am dair blynedd a hanner a gweithio 2,300 o oriau o waith placement yn ganol y pandemig yn ddi-dâl, ar ben gwneud gradd efo arholiadau ac asesiadau.

“Tydy hyn ar ben ei hun ddim yn apelio at eraill i ddechrau hyfforddiant i wneud y swydd.

“Tydy pobol methu fforddio gweithio oriau llawn amser heb dâl,” meddai.

Mae hyn yn golygu bod llawer yn rhoi’r gorau i’w cwrs cyn gorffen eu gradd.

“Os wyt ti yn llwyddo i raddio, cewch dâl o £13 yr awr – £13 yr awr am gael y cyfrifoldeb dros fywydau pobol yn ein dwylo.

“Ar ddiwedd y dydd, mae yna ddigon o swyddi sy’n talu’n well a ddim efo hanner y cyfrifoldebau.”

‘Digon yw digon’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog rhwng 4% a 5.5% i staff y Gwasanaeth Iechyd. Ond mae nyrsys yn gofyn am godiad o 19%.

Mae cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r undeb er mwyn datrys yr anghydfod.

“Does yna ddim dianc i staff ar y funud, poeni ac euogrwydd dros eu cleifion yn y gwaith, poeni ac euogrwydd dros eu teuluoedd adref,” meddai Helen Whyley.

“Mae’r neges yn glir ac yn uchel. Digon yw digon.

“Mae hi’n amser gweithredu yn erbyn yr argyfwng yn y gweithlu sy’n rhoi bywydau cleifion mewn perygl, ac sydd ddim yn poeni am lesiant staff nyrsio.”

Dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, y dylai holl weithwyr y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo’n deg.

“Byddwn yn parhau i gydweithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth ynghyd i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i weithwyr gyda’r cyllid sydd ar gael gennym.”


‘Digwyddiad difrifol’ ym mwrdd iechyd y gogledd

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddidigwyddiad mewnol difrifol“. Roedd hyn oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn y gogledd.

Oherwydd hyn cafodd pob triniaeth ar wahân i’r rhai mwyaf brys eu gohirio.

Dywedodd y bwrdd fod y galw ar draws y system iechyd dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn “ddigynsail“.

Roedd y bwrdd yn dweud bod hyn oherwydd:

  • firysau’r gaeaf,
  • rhieni yn trio cael help am eu bod yn poeni am Strep A
  • pobl wedi’u hanafu oherwydd y tywydd oer.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod hyn wedi golygu bod cleifion wedi gorfod aros am amser hir i gael eu gweld, yn enwedig mewn adrannau brys.

Roedd streiciau’r nyrsys a’r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd wedi gwneud pethau’n waeth, meddai’r bwrdd iechyd.

“Mae diffyg gwelyau rhydd yn ein hysbytai yn arwain at oedi digynsail ar ambiwlansys ar draws y bwrdd iechyd ac ry’n ni’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn cefnogi cleifion sy’n ddigon iach i adael ysbytai,” meddai’r datganiad.

Dywedodd y bwrdd ei bod yn “gyfnod heriol iawn”, ond eu bod yn trio gwneud yn siŵr bod gwasanaethau pwysig yn gallu cario mlaen yn ystod y streiciau.


Tua 4,500 o bobl ar draws Cymru heb ddŵr ar ôl y tywydd rhewllyd

Mae cannoedd o bobl ar draws Cymru wedi bod heb ddŵr ar ôl y tywydd rhewllyd.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod nhw’n gobeithio bod y rhan fwyaf o’u cwsmeriaid yn y gorllewin a’r canolbarth efo dŵr erbyn diwedd ddydd Mawrth (Rhagfyr 20).

Roedd y cwmni wedi dweud ddydd Llun fod tua 4,500 o bobl ar draws Cymru heb ddŵr ar ôl y tywydd rhewllyd.

Roedd Dŵr Cymru wedi bod yn delio gyda phibellau dŵr oedd wedi byrstio yn ardaloedd Efailwen a Chlunderwen yn Sir Benfro, a Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd problemau tebyg yn ardaloedd Glanyfferi a Chydweli hefyd, gyda rhai cartrefi yn ardaloedd Llandysul ac Aberteifi wedi bod heb ddŵr ers dydd Sadwrn (Rhagfyr 17).

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro. Maen nhw’n dweud bod trio cael y dŵr yn ôl yn “her fawr iawn”.

Yng Ngheredigion, roedd nifer o ysgolion, canolfannau dydd, Neuadd y Sir a Chanolfan Hamdden Aberaeron ar gau ddydd Llun.

Mae’r Cynghorydd Plaid Cymru Keith Henson yn cynrychioli ward Llansanffraid wrth ymyl Llanon yng Ngheredigion. Mae’n dweud mai’r broblem waethaf yw bod Dŵr Cymru ddim yn dweud beth sy’n digwydd.

“Fel cynghorydd fi wedi bod yn gwasgu arnyn nhw am wybodaeth ac i drio cael mannau casglu dŵr mwy lleol.”

Ar hyn o bryd mae llefydd casglu dŵr yng Nghastell Newydd Emlyn a Llandysul.

“Mae hynny’n iawn i bobol sydd yn gallu mynd yn y car ac yn y blaen, ond i bobol o’r ardal hyn, byddai fe’n cymryd awr i fynd lawr ac awr i fynd yn ôl o ran teithio.

“Mae’n rhaid jest cadw i wthio nhw.

“Mae eisiau sicrhau fod pobol fregus yn cael dŵr. Dŵr Cymru sydd fod i gyflenwi dŵr i dai pobol.

“Rydyn ni gyd yn talu biliau dŵr ac mae eisiau sicrhau eu bod nhw’n gallu ei gyflenwi fe’n briodol.”


Llys y Goron Abertawe
Llys y Goron Abertawe

Terfysg Mayhill: 18 o bobol yn cael eu dedfrydu

Mae 18 o bobl wedi cael eu dedfrydu am eu rhan yn nherfysg Mayhill yn Abertawe y llynedd.

Cafodd 17 o ddynion ac un fenyw rhwng 18 a 45 oed eu dedfrydu am gyfanswm o 83 mlynedd yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Rhagfyr.

Roedden nhw wedi cael eu dedfrydu am eu rhan yn y terfysg ar 20 Mai 2021.

Cafodd tri llanc arall hefyd eu dedfrydu ar 20 Rhagfyr.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a ffenestri tai eu torri yn ystod y terfysg.

Dechreuodd y terfysg yn Heol Waun Wen, stad fawr yn Abertawe.

Digwyddodd ar ôl gwylnos i gofio dyn lleol, Ethan Powell 19 oed. Roedd e wedi marw’r diwrnod cynt. Roedd yr wylnos wedi troi’n dreisgar.

Cafodd saith plismon eu hanafu.

Roedd Heddlu De Cymru wedi cael eu beirniadu mewn adolygiad annibynnol am y ffordd wnaethon nhw ymateb i’r terfysg.


Dona Lewis

Dona Lewis ydy Prif Weithredwr newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Dona Lewis fydd Prif Weithredwr newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae hi’n olynu Efa Gruffudd Jones sy’n dechrau fel Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Dona Lewis yn gweithio fel Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan ar hyn o bryd.

Bydd hi’n dechrau’r rôl newydd ym mis Ionawr.

Cafodd Dona Lewis ei magu ger Abergele. Roedd hi wedi astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd Dona wedi gweithio i’r Mudiad Meithrin am 16 mlynedd.

Roedd hi’n un o’r staff cyntaf i weithio yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg pan gafodd ei sefydlu yn 2016.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn gyfrifol am ‘Cymraeg Gwaith’, cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, a ‘Cymraeg yn y Cartref’, sy’n rhoi cyfleoedd i rieni a gofalwyr ddysgu er mwyn mwynhau’r iaith gyda’u plant.

“Mae yna fwrlwm yn y sector Dysgu Cymraeg, gydag arwyddion cadarnhaol bod y galw am gyrsiau yn cynyddu, a dw i’n edrych ymlaen at arwain y Ganolfan trwy’r cyfnod cyffrous nesaf,” meddai.