Dyma’r penawdau wythnos yma: 

  • Rishi Sunak yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
  • David TC Davies yw Ysgrifennydd Cymru
  • Llafur yn galw ar aelodau Cabinet Liz Truss i wrthod taliadau diswyddo
  • Beirniadu penderfyniad i gau Pont Menai tan 2023

Rishi Sunak yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig

Rishi Sunak ydy Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig ac arweinydd y Ceidwadwyr.

Roedd Liz Truss wedi ymddiswyddo ar ôl bod yn Brif Weinidog am ddim ond 45 diwrnod. Roedd hyn wedi arwain at ras am yr arweinyddiaeth rhwng Rishi Sunak, Boris Johnson a Penny Mordaunt. Roedd Boris Johnson, y cyn-Brif Weinidog, a Penny Mordaunt wedi tynnu’n ôl o’r ras.

Rishi Sunak ydy’r cyn-Ganghellor. Mae e wedi cael gwahoddiad gan y Brenin Charles III i ffurfio llywodraeth.

Mae’r Prif Weinidog eisiau creu sefydlogrwydd economaidd ond mae e wedi rhybuddio bod penderfyniadau anodd i ddod.


David T C Davies

David TC Davies yw Ysgrifennydd Cymru

David TC Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, yw Ysgrifennydd Cymru.

Roedd Syr Robert Buckland wedi ymddiswyddo ar ôl i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae David TC Davies wedi bod yn Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru ers 2019. Roedd e wedi cefnogi Rishi Sunak yn y ras am yr arweinyddiaeth yn erbyn Liz Truss.

Simon Hart ydy cyn-Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Mae e wedi dod yn Brif Chwip.


Cabinet Liz Truss

Llafur yn galw ar aelodau Cabinet Liz Truss i wrthod taliadau diswyddo

Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar aelodau Cabinet y cyn-Brif Weinidog Liz Truss i wrthod taliadau diswyddo.

Roedd aelodau Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn eu swyddi am rai wythnosau yn unig. Maen nhw wedi colli eu swyddi ar ôl i Rishi Sunak gyhoeddi ei Gabinet newydd.

Mae disgwyl iddyn nhw gael taliadau diswyddo gwerth £17,000 wrth adael eu swyddi.

Maen nhw’n cynnwys cyn-Ysgrifennydd Cymru Syr Robert Buckland, cyn-Ysgrifennydd yr Amgylchedd Ranuk Kayawardena, a’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Chloe Smith.

Roedd wyth ohonyn nhw ond wedi gwasanaethu yn y Cabinet ers dechrau mis Medi.

Angela Rayner ydy dirprwy arweinydd Llafur. Mae hi’n dweud: “Os oedd ganddyn nhw unrhyw synnwyr o gyfrifoldeb, fe fydden nhw wedi ei gwneud hi’n glir eu bod nhw’n gwrthod y taliadau yma.

“Pam ddylai’r cyhoedd orfod codi’r bil ar gyfer yr holl ymddiswyddiadau gafodd eu hachosi gan anhrefn y Ceidwadwyr?

“Mae’n bryd i’r cyhoedd ym Mhrydain gael llais go iawn ar ddyfodol y wlad trwy Etholiad Cyffredinol.”


Beirniadu penderfyniad i gau Pont Menai tan 2023

Mae llawer o bobl wedi beirniadu’r penderfyniad i gau Pont Menai tan 2023.

Cafodd y bont ei chau i draffig ar unwaith. Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod problemau diogelwch a bod angen gwneud gwaith brys.

Dywedodd Lee Waters ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw heb wneud y penderfyniad “ar chwarae bach”.

“Cafodd ei wneud ar sail diogelwch yn dilyn cyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau â’r heddlu,” meddai.

Gallai gwaith ar y bont gymryd hyd at bedwar mis, gyda’r bont yn ailagor i gerbydau ar ddechrau 2023.

“Dw i’n ymwybodol iawn o’r anghyfleustra mae hyn yn ei achosi,” meddai.

“Mae Pont Menai yn ddolen gyswllt hanfodol i bobol gogledd Cymru a thu hwnt, a hoffwn ddiolch i bobol leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bod y gwaith brys hwn yn digwydd.”

Mae pob cerbyd bellach yn cael ei ddargyfeirio i Bont Britannia.

Rhun ap Iorwerth ydy Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ym Môn. Mae o’n dweud bod y sefyllfa yn “ddifrifol”.

Mae’n dweud bod angen sicrhau bod dim rhwystraui gerbydau brys, a bod staff allweddol yn gallu mynd i’w gwaith, fel staff Ysbyty Gwynedd.

“Sut mae pethau wedi gallu gwaethygu mor gyflym, yn cyrraedd pwynt mor gritigol, mewn cyfnod mor fyr?

“Mae’n lot o waith edrych ar ôl pont o’r math yma.

“Ond a oedd y gwaith cynnal a chadw, y gwaith paentio ac amddiffyn, wedi bod yn ddigon da? Yn sicr, dwi wedi bod yn gweld rhwd. Mwy nag arfer? Dwn i ddim; dw i ddim yn beiriannydd.

“Mae’n rhaid rhoi diogelwch yn gyntaf, wrth gwrs, ond hefyd mae angen asesu’n ofalus ai cau oedd yr unig opsiwn. Oes modd symud yn gynt, yn ddiogel – hynny ydy, i ailagor?”

“Dwi ac eraill wedi rhybuddio’n hir am hyn. Rydyn ni angen croesiad newydd.

“Mi oedd Llywodraeth Cymru wedi addo croesiad, a dydy o dal ddim wedi digwydd.

“Un peth ydy bod yn ynys, peth arall ydy cael ein hynysu, a dyna’r realiti sydd wedi digwydd rŵan.”


Ffilm am Gwynfor Evans yn y sinemâu

Mae S4C yn 40 oed eleni. I ddathlu’r pen-blwydd mae ffilm sinema newydd am Gwynfor Evans wedi cael ei ffilmio. Mae’n dilyn ei ymgyrch i gael sianel Gymraeg.

Fe fydd Y Sŵn yn edrych ar yr hanes rhwng 1979 – 1980. Yn ei hetholiadcyntaf roedd Margaret Thatcher wedi addo sefydlu sianel Gymraeg. Ar ôl iddi gael ei hethol, mi wnaeth y Llywodraeth dro pedol. Roedd hyn wedi arwain at ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith. Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan ar y pryd. Roedd e wedi dweud byddai’n ymprydio nes bod y Llywodraeth yn sefydlu’r sianel.

Y cwmni sy’n gwneud y ffilm yw Joio, cwmni Roger Williams. Fe yw awdur y gyfres Bang a’r ffilm arswyd newydd Gwledd. Y cyfarwyddwr ydy Lee Haven Jones.

Mae dros 50 o actorion yn y ffilm gan gynnwys Dafydd Emyr, Mark Lewis Jones, Richard Elfyn, Rhodri Meilir, Siân Rees Williams, ac Eiry Thomas. Rhodri Evan sy’n actio Gwynfor Evans.

“Ry’n ni gyd, fel cenedl, yn ymwybodol o safiad Gwynfor. Ond roeddwn i â diddordeb hefyd yn yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain, ac yn y Swyddfa Gymreig,” meddai Roger Williams.

“Roedd diddordeb gyda fi yn y ddadl, a’r dadlau a oedd yn digwydd rhwng Llundain a Chymru.”

Bydd Y Sŵn i’w gweld yn sinemâu Cymru ym mis Mawrth 2023 cyn cael ei darlledu ar S4C.