Dach chi’n hoffi stori ddirgelwch efo dipyn o gyffro? Dyma ran nesaf stori gyfres newydd sbon gan Pegi Talfryn. Tiwtor Cymraeg ac awdur ydy Pegi. Mae hi’n byw yn Waunfawr wrth ymyl Eryri. Mae Y Gacen Gri yn digwydd yng Nghaerdydd. Yn y rhan yma, mae gan Lowri lawer o gwestiynau am arian Anti Tes…
Stori gyfres – Y Gacen Gri
Rhan 4
Roedd rhaid i mi ffeindio allan beth oedd yn digwydd. Sut oedd Anti Tes wedi cael yr arian mawr? Rhaid bod hi’n gwneud rhywbeth anghyfreithlon. Doedd ei phensiwn hi ddim yn gallu gwneud yr arian mawr yna.
Roedd gen i lawer o gwestiynau. Pam roedd hi wedi clirio’r cyfrifiadur ddiwrnod cyn iddi hi farw? Pwy oedd “pobl ddrwg” Hannah? Pwy oedd wedi lladd Anti Tes – a pham? O’n i mewn peryg?
Mi wnes i benderfynu mynd i’r Gacen Gri y bore wedyn i weld Zaima a Fflur. Doedd gen i ddim darlithoedd. Mi wnes i gyrraedd y caffi am 10:00 a chael cacennau cri efo menyn trwchus. Mi wnes i dynnu fy nghyfrifiadur allan a dechrau gweithio ar waith cwrs.
11:00. Dim Zaima a Fflur.
11:30. Mi wnes i ofyn i Hannah os oedd y ddwy yn dal i ddod i’r caffi bob bore.
Roedd hi’n edrych dipyn bach yn ofnus. Mi wnaeth hi edrych allan o’r ffenest ac ateb, “Na, ’dyn nhw ddim yn dod yma rŵan. Ddim ers i Tes farw.”
“Wyt ti’n gwybod lle maen nhw’n byw?”
“Nac ydw.”
Do’n i ddim yn credu Hannah.
“Dw i isio cael gair efo nhw.”
“Paid. Mae’n well cadw i ffwrdd.”
Doedd hi ddim yn mynd i helpu.
Felly mi wnes i godi, talu am y coffi a’r cacennau a gadael. Ro’n i’n gwybod bod wyres Zaima yn mynd i’r ysgol Gymraeg, felly am 3:00 mi wnes i fynd i’r ysgol. Roedd y rhieni yn dechrau aros tu allan i’r ysgol. Mi wnes i weld Zaima.
“Ga’ i air efo chi?”
Roedd hi wedi cael sioc pan wnaeth hi weld fi. Cyn dechrau siarad efo fi, mi wnaeth hi edrych o gwmpas. “Lowri? Beth wyt ti’n wneud yma?”
“Dw i’n mynd i’r brifysgol yng Nghaerdydd. Dw i’n byw yn nhŷ Anti Tes.”
“Pam rwyt ti wedi dod i’r ysgol?”
“Dw i isio siarad am arian Anti Tes.”
“Ddim yma.”
Mi wnes i roi fy rhif ffôn iddi hi. “Ffonia fi.”
Roedd hi’n 3:10 ac roedd y plant yn dechrau rhedeg allan.
“Iawn, ond cer nawr. Dw i ddim eisiau i neb ein gweld ni’n siarad.”
Mi wnes i ddechrau cerdded i ffwrdd. Ar y ffordd mi wnes i weld car mawr du efo ffenestri tywyll yn cyrraedd. Doedd o ddim yn edrych fel rhywun yn codi plant o’r ysgol.
Mi wnes i roi fy mhen i lawr a cherdded i lawr y ffordd.
O edrych yn ôl ro’n i’n gallu gweld y car du yn dilyn Zaima a’i wyres fach.
Roedd gormod o bobl yno i Zaima fod mewn peryg, ond doedd hi ddim yn sefyllfa braf iawn iddi hi.
Beth oedden nhw wedi’i wneud i fod mewn sefyllfa fel hyn?
Bydd rhan 5 Y Gacen Gri yn rhifyn nesaf Lingo Newydd (Hydref/Tachwedd)