Mae ymchwilio i hanes y teulu a chreu “coeden deulu” wedi dod yn hobi poblogaidd iawn yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae datblygiad y we yn golygu bod dim rhaid twrio drwy archifau eglwysi a swyddfeydd ar hyd a lled y wlad – mae’n bosib gwneud hyn nawr heb adael eich cartref. Lle da i ddechrau ydy siarad efo aelodau hynaf y teulu a chasglu unrhyw eitemau sydd wedi cael eu cadw gan genedlaethau’r gorffennol. Oes casgliad o hen bethau teuluol gyda chi?
Ar ddechrau’r flwyddyn penderfynodd Mam a Dad werthu’r cartref teuluol – blynyddoedd o atgofion. Roedd yn syndod beth ddaeth i’r golwg. Y darganfyddiad mwya cyffrous i fi oedd sampler fy hen hen fam-gu oedd wedi’i gwnïo mewn gwlân. Ffenest anhygoel i’r gorffennol, sef 1879 – bron canrif a hanner yn ôl.
Beth ydy sampler?
Ydych chi’n gyfarwydd â sampleri? Oes un gyda chi yn y teulu? Mae gwnïo sampler yn hen draddodiad ac mae llawer o hanes iddyn nhw.
Mae sampler yn ddarn o frodwaith wedi’i gwnïo mewn gwlân neu sidan ac fel arfer ar liain neu hesian. Mae’n rhywbeth roedd merched ifanc yn arfer ei wneud i ddangos sgiliau fel gwnïo gwahanol bwythau, neu ddangos gwybodaeth fel rhifau neu’r wyddor. Mae rhai hefyd gyda phatrwm neu lun yn y cynllun.
Mae’r enghreifftiau hynaf o waith sampler yn dod o Beriw ac yn dyddio o 200CC (Cyn Crist). Mae patrwm o adar ac anifeiliaid sy’n adrodd stori. Mae hefyd rhai o’r bedwaredd ganrif gafodd eu darganfod mewn hen feddrodau yn yr Aifft.
Oes aur sampleri
Daeth y sampler traddodiadol yn boblogaidd yn yr 16eg ganrif.
Dyma’r adeg pan ddaeth yn arferol i wnïo rhifau a llythrennau ar sampler. Daeth sampleri yn boblogaidd yng ngwledydd Ewrop, yn enwedig Sbaen. O fewn canrif roedd y ffasiwn wedi tyfu a lledu i wledydd eraill gan gyrraedd Prydain yn yr 17eg a’r 18fed ganrif. Dyma oedd dechrau’r oes aur o weithio sampleri.
Mae nifer o esiamplau wedi para mewn casgliadau teuluol ac mewn archifdai. Mae’r amrywiaeth yn anhygoel. Maen nhw’n dangos bod merched o bob math o gefndiroedd yn gwnïo sampleri. Yn y blynyddoedd yma roedd addysg yn wahanol iawn i heddiw, a doedd nifer fawr o blant ddim yn cael y cyfle i fynd i’r ysgol. Roedd rhai yn dysgu yn y cartref, rhai mewn eglwysi neu gapeli a rhai yn cael dim addysg. Mae’n hawdd deall bod cofnodi gwybodaeth yn y ffordd yma yn bwysig i lawer o bobl. Mae esiamplau o sampleri bach ar ddefnydd garw wedi’u gweithio gyda darnau o wlân gwastraff, a hefyd rhai mwy mewn cotwm a sidan. O fythynnod i blastai, mae pob math o esiamplau ar gael.
Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y sampler wedi dod yn rhan o wersi ysgol. Daeth rheolau mwy penodol tua’r adeg yma. Datblygodd maint y sampleri ac roedden nhw’n tueddu i fod yn sgwâr. Roedd border ar nifer fawr gyda’r canol yn cynnwys rhifau, llythrennau ac adnod neu bennill. Rhan bwysig o’r sampler yn y cyfnod yma oedd arwyddo’r darn gydag enw a dyddiad. Mae rhai o’r sampleri cynnar wedi’u harwyddo, ond mae llawer heb. Mae nifer fawr o’r rhai cynnar heb ddyddiad. Tua diwedd Oes Fictoria daeth gweithio sampleri fel rhan o gwricwlwm ysgolion i ben, a dechreuodd y traddodiad ddirywio o ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae sampleri yn cofnodi llawer o fywyd y gorffennol. Maen nhw’n dangos beth oedd yn bwysig i bobl yn y canrifoedd diwethaf. Dw i wrth fy modd fy mod i’n berchen ar sampler ac yn falch iawn ei fod yn un teuluol. Dw i’n cofio Mam-gu yn sôn am ei Mam-gu hi (hi wnaeth wnïo’r sampler sydd gyda fi nawr). Yn anffodus, does dim llun ohoni hi yng nghasgliad y teulu, ond mae’n hyfryd bod rhywbeth mor bersonol wedi para. Mae’r sampler nawr mewn ffrâm ac yn cael lle amlwg yn fy nhŷ i.