Mae Irram Irshad yn fferyllydd o Gaerdydd sy’n caru hanes. Y tro yma mae hi wedi bod yn mynd i lefydd sydd â chysylltiad gyda’r bardd Dylan Thomas er mwyn dysgu mwy amdano…


Mae Dylan Thomas yn cael ei ystyried yn fardd enwocaf Cymru. Doedd dim diddordeb gyda fi yn ei waith pan ro’n i’n ifanc, ond nawr dw i’n hŷn ac, o bosib, yn ddoethach, dw i’n gwerthfawrogi ei farddoniaeth a’i straeon. Felly, yn ystod y flwyddyn hon, dw i wedi bod yn ymweld â llefydd ble dw i wedi gallu dysgu mwy amdano.

Y Boathouse yn Nhalacharn

Ym mis Mai, es i Dalacharn, ble roedd Dylan Thomas yn byw gyda’i deulu, sef ei wraig Caitlin a’u tri o blant – Llewelyn, Aeronwy a Colm.

Roedd wedi ymweld â Thalacharn am y tro cyntaf gyda’i ffrindiau. Roedd sawl bardd ac awdur yn byw yno. Pan ddychwelodd, roedd y teulu wedi byw mewn sawl tŷ gan gynnwys Sea View – tŷ hyfryd, ond oedd yn rhy fawr a drud i Dylan. Nid oedd yn cynilo ei arian ac yn dibynnu ar ffrindiau fel Richard Hughes (y nofelydd) a Margaret Taylor (gwraig yr hanesydd AJP Taylor). Roedd Margaret Taylor wedi prynu’r Boathouse iddo fe.

Y golygfeydd o’r Boathouse

Pan welais i’r Boathouse, roedd yn ddiwrnod braf a heulog iawn, a’r môr yn disgleirio. Mae’r Boathouse yn fach, ond mae’r golygfeydd yn anhygoel. Roedd y golygfeydd yn ysbrydoli Dylan wrth iddo ysgrifennu. Ysgrifennodd e yn ei ‘sied ysgrifennu’ – roedd yn lle arbennig iawn, mae’n edrych fel bod Dylan am gerdded i mewn unrhyw funud.

Y Sied Ysgrifennu yn Nhalacharn

Cwmdonkin Drive

Ond ysgrifennodd Dylan y rhan fwyaf o’i waith pan oedd e’n ifanc, yn Abertawe. Felly, roedd rhaid i fi ymweld â 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe, hefyd.

Roedd teulu Dylan Thomas yn dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol.  Roedd ei rieni, David a Florence, wedi symud i Abertawe i fyw, ac roedden nhw’n byw mewn tŷ mawr. Athro Saesneg oedd David.

Cafodd Dylan ei eni yno yn 1914. Roedd chwaer hŷn gyda fe o’r enw Nancy.

Roedd David yn siomedig yn Dylan yn academaidd. Roedd Dylan yn hoffi darllen ac ysgrifennu, actio a chwarae criced, ond gadawodd yr ysgol (lle’r oedd ei dad yn dysgu) gyda dim ond un cymhwyster yn Saesneg.

Roedd e wedi bod yn olygydd cylchgrawn yr ysgol. Yn ôl ei fam, dywedodd Dylan y byddai’n sgwennu’n well na Keats! Doedd David a Florence ddim yn siarad Cymraeg gyda’u plant, ond ro’n nhw’n eu hanfon i gael gwersi llais yn Saesneg! Serch hynny, mae gwreiddiau Cymreig Dylan yn amlwg yn ei ysgrifennu.

Tra bod digon o eiddo Dylan yn dal yn y Boathouse, does dim byd oedd yn perthyn i’r teulu Thomas ar ôl yn y tŷ yn Abertawe. Ond roedd morwyn a oedd yn gweithio i’r teulu Thomas yn cofio’n union sut roedd y tŷ yn edrych. Roedd hi yn ei nawdegau. Cafodd y tŷ ei adfer gan Geoff Haden ac mae’n edrych fel yr oedd yn arfer gwneud pan oedd Dylan yn byw yno.

Cartref teulu Dylan Thomas yn Cwmdonkin Drive

Plac yng Nghornel y Beirdd

Ddim yn bell o Cwmdonkin Drive mae Canolfan Dylan Thomas, ble mae arddangosfa ddiddorol iawn am ei fywyd, gan gynnwys y drysau gwreiddiol o’r Sied Ysgrifennu!

Yn olaf, hoffwn i siarad am farwolaeth Dylan Thomas yn 39 oed yn Efrog Newydd. Am flynyddoedd, roedd pawb yn credu bod Dylan wedi marw oherwydd alcoholiaeth. Roedd yn gymeriad dadleuol ac roedd beirdd eraill wedi gwrthwynebu iddo gael plac coffa yng Nghornel y Beirdd yn Abaty Westminster.  Ond ar ei daith olaf i’r Unol Daleithiau yn 1953, cafodd Dylan niwmonia a chafodd orddos o forffin gan feddyg. Cafodd Dylan Thomas blac o’r diwedd yn Abaty Westminster yn 1982 ar ôl i gyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, ymuno â’r ymgyrch. Roedd e’n gefnogwr enfawr o waith Dylan Thomas.

Cafodd Dylan ei gladdu yn Nhalacharn, yn yr un flwyddyn y bu farw ei dad a’i chwaer.

Dw i’n argymell i unrhyw un sy’n mwynhau gwaith Dylan Thomas i ymweld â’r holl lefydd dw i wedi siarad amdanyn nhw yn yr erthygl hon – maen nhw’n ddiddorol iawn!

Ystafell wely fach Dylan Thomas yn Cwmdonkin Drive