Pryd wnaethoch chi ddechrau’r busnes Moch Coch?
Wnaethon ni symud i’r fferm yma yn Nhalog yn 2019. Ar ôl gweithio am 15 mlynedd fel aciwbigwr roeddwn i eisiau treulio mwy o amser yn dilyn fy niddordebau mewn ffermio.
’Dyn ni wedi sefydlu fferm bioamrywiaeth ac wedi dechrau cadw lloi a defaid nawr hefyd.
Dechreuon ni Moch Coch yn 2021 a nawr ’dyn ni’n gwerthu ein cig mewn marchnadoedd a siopau bwyd ar draws Cymru.
Wnaethon ni adeiladu uned arbennig ar y fferm i baratoi’r cig a gwneud charcuterie. Doedden ni ddim wedi gweld chorizo maes yn y siopau ac roedd hyn yn rhywbeth roedden ni eisiau ei weld, ei brynu a’i fwyta.
’Dyn ni wedi ennill nifer o wobrau am ein cig. Mae chorizo Moch Coch wedi ennill tair seren gan y Great Taste Awards, y Coppa wedi ennill un seren, a’r cig eidion Cymreig wedi’i awyrsychu wedi ennill un seren hefyd. Ym mis Medi eleni gaethon ni ein henwebu ar gyfer gwobr Golden Fork.
Beth sy’n gwneud Moch Coch yn wahanol?
’Dyn ni’n magu ein moch yn yr awyr agored ar ein fferm – ’dyn ni’n angerddol am hyn.
Mae’n bwysig iawn i ni bod gan ein hanifeiliaid y rhyddid i grwydro ac archwilio a gwneud fel maen nhw eisiau.
’Dyn ni’n cadw moch Tamworth. Mae côt goch hardd gyda nhw. Maen nhw’n addas iawn ar gyfer eu cadw nhw yn yr awyr agored. Mae Tamworths yn tyfu’n araf iawn ac yn byw ar ddeiet naturiol. Mae hyn yn rhoi blas anhygoel i’r cig dych chi ddim yn ei gael yn y rhan fwyaf o borc heddiw.
’Dyn ni’n cynhyrchu prosciutto, coppa a chig eidion gyda chynhwysion syml a naturiol iawn – halen mor, sbeisys ffres ac weithiau ychydig o win!