Mae pob adeg o’r flwyddyn yn dod â chyfleoedd darllen arbennig i bobol sy’n hoff iawn o lyfrau. Yn yr haf neu’r gwanwyn, does dim byd gwell na chwmni llyfr wrth eistedd ar y traeth neu mewn sbot bach braf lle mae’r haul yn disgleirio. Neu efallai wrth ymyl y tân i gadw’n gynnes pan mae’r tywydd yn oeri yn ystod misoedd yr hydref. Ac, wrth gwrs, mae danteithion i gael sy’n cyd-fynd yn berffaith: fel siocled poeth neu win coch ar hyn o bryd – dyma fy newisiadau i, beth bynnag!
A gan fod pob tymor yn teimlo ychydig bach fel troi tudalen neu ddechrau pennod newydd, dyma restr fach o lyfrau dw i’n argymell eu darllen dros yr hydref.
Dach chi’n hoffi straeon arswyd? Beth am i ni ddechrau efo nofel gyffrous sy’n berffaith at gyfer yr hydref a Chalan Gaeaf? “Mae’r storm yn codi. Mae’r môr yn tywyllu. Ac mae’r chwedlau’n dod yn fyw…” Roedd y dyfyniad yma ar gefn y clawr yn fwy na digon i ddenu fy sylw at y llyfr gwych yma, sef Cysgod y Mabinogi gan Peredur Glyn.
Roedd ei gyfrol gyntaf, Pumed Gainc y Mabinogi yn werth ei ddarllen – yn enwedig ar hyn o bryd. Mae dogfen gynorthwyo ar gael i ddarllenwyr y llyfr yma a Cysgod y Mabinogi i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg: [rebrand.ly/CysgodyMabinogi].
Ffantasi a hanesyddol
Os dach chi’n mwynhau llyfrau ffantasi neu hanesyddol, dw i’n eich annog i ddarllen Madws gan Sioned Wyn Roberts. Wedi’i gosod yn 1752 adeg y newid o’r calendar Iwlaidd i’r calendr Gregoraidd, mae’n dilyn hanes Martha, merch y potecari, sy’n cael ei hanfon i Annwn gan Madws. Madws yw’r prif lais sy’n adrodd y stori i ni.
Dw i ddim fel arfer yn dewis llyfrau ffantasi ond do’n i ddim yn gallu gadael y llyfr ar y silff ar ôl gweld y dyluniad hardd. Dw i’n gwybod na ddylwn i feirniadu llyfr wrth ei glawr ond mae’r clawr yr un mor wych â’r stori!
Drws Anna gan Dafydd Apolloni – dyma i chi lyfr sy’n procio’r meddwl ac yn cadw’ch diddordeb tan y frawddeg olaf. Mae’n llawn disgrifiadau a myfyrdodau sydd wedi cael eu crefftio gan yr awdur mewn ffordd hollol ryfeddol a phrydferth. Mor atmosfferig, ac mor addas i’r adeg yma o’r flwyddyn. Mae’n wledd o lyfr – ro’n i’n glynu at bob brawddeg!
Mae Hi-Hon yn gasgliad o farddoniaeth, rhyddiaith ac ysgrifau amrywiol. Mae’n cynnwys rhywbeth at ddant pawb. Mae wedi’i olygu gan Catrin Beard ac Esyllt Lewis. Yn ogystal â’r darnau difyr gan bob un sydd wedi cyfrannu, mae hefyd darluniadau arbennig gan Seren Morgan Jones i ddathlu “gogoniant y corff benywaidd yn hyderus heb ymddiheuro nac esbonio…sy’n edrych yn syth i enaid y gwylwyr” yn ôl y golygyddion. Oes angen deud mwy? Darllenwch, sbïwch a mwynhewch!
Ac os nad ydy’r llyfrau yn plesio – er cymaint dw i’n gobeithio eich bod yn mwynhau – dw i’n falch bod gennych chi Lingo Newydd i gadw cwmni i chi’r hydref hwn!