Mae Jack Quick yn actor. Mae’n dod o bentref Glyn-nedd yn wreiddiol. Mae Jack yn cyflwyno’r rhaglen i blant Stwnsh Sadwrn. Mae e hefyd yn chwarae rhan Rhys Llywelyn yn Pobol y Cwm…
Darllenwch y darnau melyn os dych chi’n dechrau dysgu.
Darllenwch y darnau gwyrdd os dych chi’n fwy profiadol.
Darllenwch y cyfan os dych chi’n brofiadol iawn.
Jack, beth ydy…
…dy hoff ffilm?
Dw i’n hoff iawn o’r ffilm Good Will Hunting.
…dy hoff lyfr?
The Grinch gan Dr Seuss, achos dw i’n darllen i Jesi fy merch yn aml….
dy hoff fwyd?
Basai rhaid i fi ddweud cinio dydd Sul.
…dy hoff adeg o’r flwyddyn?
Nadolig achos dw i’n joio bod o gwmpas teulu a ffrindiau.
…dy hoff ffordd o ymlacio?
Wrth ochr pwll nofio ar wyliau yn rhywle cynnes.
…dy hoff ffordd o gadw’n heini?
Mynd i’r gym… pan dw i’n teimlo fel mynd!
…dy hoff gerddoriaeth?
Stereophonics!
…dy hoff stori ar Pobol y Cwm?
Anodd dewis un, achos dw i wedi bod yn lwcus gyda’r straeon dw i wedi’u cael.
Ond dw i’n mwynhau unrhyw olygfa pan mae lot o gast gyda ni achos ’dyn ni wastad yn joio!
…dy hoff le i fynd ar wyliau?
Majorca neu garafán yn Saundersfoot, Sir Benfro.
…dy hoff ddywediad Cymraeg?
Mae chwarae’n troi’n chwerw.
Geiriau
rhan
part
yn aml
often
golygfa
scene
chwarae'n troi'n chwerw
play turns bitter (i.e. good times go to bad)
Dyma Jack Quick
Actor ydy Jack.
Mae o’n dod o bentref Glyn-nedd yn wreiddiol.
Dechreuodd Jack actio yn y theatr.
Nawr, mae Jack yn cyflwyno Stwnsh Sadwrn.
Rhaglen i blant ydy Stwnsh Sadwrn.
Mae o hefyd yn actio yn Pobol y Cwm.
Mae’n chwarae rhan Rhys Llywelyn.
Mae gynno fo ferch fach, Jesi.
Geiriau
cyflwyno
to present
Mae gynno fo... = Mae... gyda fe
He has...
Pobol y Cwm yn 50 oed!
Opera sebon ydy Pobol y Cwm.
Mae’n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ym mis Hydref.
I ddathlu’r pen-blwydd bydd set Pobol y Cwm ar agor i’r cyhoedd.
Bydd pobl yn gallu gweld set pentref dychmygol Cwmderi.
Bydd rhai o actorion yr opera sebon yn arwain y teithiau. Maen nhw’n cynnwys Jonathan Nefydd (Colin), Sera Cracroft (Eileen) a Dyfan Rees (Iolo). Bydd cyfle i bobl ofyn cwestiynau wrth edrych o gwmpas y setiau.
Bydd y teithiau yn ddwyieithog.
Mae Pobol y Cwm yn cael ei ffilmio yng nghanolfan Stiwdios BBC Cymru ym Mae Caerdydd.
Bydd y teithiau’n cael eu cynnal ar y dyddiadau yma:
Cafodd y bennod gyntaf ei darlledu ar Hydref 16, 1974 am 7.10pm.
Y llinell agoriadol oedd: “Bore da, Maggie Mathias” gan Harri Parri. Yr actor Charles Williams oedd yn actio cymeriad Harri Parri.
Symudodd y stryd fawr i stiwdio’r BBC yn Llandaf yn 1996.
Mae’r set bresennol wedi bod ym Mae Caerdydd ers 2011.
Dechreuodd rhai o sêr mawr Cymru eu gyrfa yn actio yn Pobol y Cwm fel yr actor Hollywood Ioan Gruffudd, seren y West End a’r sgrin fach Iwan Rheon, a’r seren ffilm a theledu Alexandra Roach.
Mae Pobol y Cwm yn cael ei darlledu rhwng nos Fawrth a nos Iau am 8 o’r gloch. Mae rhifyn omnibws bob dydd Sul am 6.10pm, gydag isdeitlau Saesneg.
Bydd S4C yn darlledu nifer o raglenni arbennig i ddathlu’r pen-blwydd. Mae’n cynnwys rhaglen ben-blwydd nos Fercher, Hydref 16 am 8pm ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.