Mae’r misoedd oerach yn gallu bod yn amser anodd i fywyd gwyllt. Mae bwyd yn brin ac mae’r creaduriaid sy’n aros yma dros y gaeaf angen cysgod rhag yr oerfel. Dyma rai awgrymiadau syml ar gyfer cynnal eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt dros y misoedd nesaf… dydy rhai ddim angen ymdrech o gwbl!
Pentwr o bren
Wrth i chi ddechrau tocio coed a llwyni yn eich gardd, peidiwch â thaflu’r gweddillion. Defnyddiwch nhw i wneud pentwr pren neu domen gynefin ar gyfer bywyd gwyllt.
Bydd hyn yn helpu ein rhywogaethau ‘cysglyd’, fel, draenogod, madfallod dŵr, rhai chwilod a digon o bryfed eraill, sy’n chwilio am le i fod yn glyd ac i gysgu’n ddiogel dros y gaeaf.
Plannu coeden
Mae rŵan yn amser gwych i blannu coeden. Mae’r pridd yn llaith a dal yn gynnes, ac felly mae digon o amser i ddatblygu gwreiddiau dwfn. Plannwch goed brodorol os oes dewis.
Mae creaduriaid Cymru wedi esblygu i ddibynnu ar goed brodorol.
Yn y rhifyn diwethaf o Lingo Newydd wnes i glodfori perllannau. Wnes i sôn sut mae coed ffrwythau blodeuol yn gallu creu ecosystemau cyfan. Un rheswm am hyn ydy eu bod nhw’n heneiddio’n gyflym ac yn creu pren marw sy’n pydru, sy’n lloches a ffynhonnell bwyd i bryfetach. Os oes gennych chi lwyni sy’n ffrwytho, gadewch y ffrwythau sy’n syrthio ar y llawr. Byddwch chi’n synnu faint fydd yn cael ei fwyta gan bryfed, adar a mamaliaid sy’n ymweld â’ch gardd.
Plannu bylbiau blodeuo’r gwanwyn
Yn ogystal â phlannu coed, beth am blannu rhai bylbiau sy’n blodeuo yn y gwanwyn? Dewiswch rai sy’n dda i bryfed beillio fel clychau’r gog a rhowch fwrlwm yn eich gardd yn gynnar yn y gwanwyn! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis rhywogaethau brodorol – peidiwch â phrynu’r bylbiau ‘arferol’ sydd i’w gweld yn y siopau ac archfarchnadoedd. Peidiwch byth â chymryd bylbiau o’r gwyllt.
Cyflenwad o ddŵr
Mae’r hydref a’r gaeaf yn amser gwych i gyflwyno dŵr i’ch gardd. Mae amffibiaid fel madfallod, brogaod a llyffantod yn defnyddio dŵr fel lloches a mannau magu pan fydd y gwanwyn yn cyrraedd. Mae gloÿnnod byw yn cael mwynau a halwynau gwerthfawr o ddŵr sydd ychydig yn fwdlyd, ac mae adar yn defnyddio dŵr i ymdrochi a chael gwared ar barasitiaid. Mae’n bwysig ychwanegu at y dŵr yn ystod misoedd oer y gaeaf. Mae’n gallu bod yn anodd i fywyd gwyllt ddod o hyd i ddŵr sydd ddim wedi rhewi. Gwnewch yn siŵr bod y dŵr yn fas gydag ymylon graddol a gwead garw. Bydd hyn yn golygu y gall unrhyw beth sy’n dringo i mewn fynd allan eto.
Cofiwch am yr adar
Mae adar yr ardd yn fendith i ni i gyd eu gwylio trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn y gaeaf. Helpwch yr adar sy’n ymweld â’ch gardd drwy roi blychau adar iddyn nhw glwydo ynddyn nhw dros y gaeaf, ac i fagu cywion yn y gwanwyn.
Mi welwch chi adar yn eich borderi dros y gaeaf. Maen nhw’n edrych am bryfetach i’w bwyta. Peidiwch â bod yn rhy gyflym i dacluso dail yr hydref! Gadewch nhw yn eich borderi i bydru a maethloni’r pridd.
Dydy hi ddim bob amser yn hawdd dod o hyd i fwyd yn y gaeaf, felly bydd unrhyw un o’r syniadau yma yn bendant yn cael ei werthfawrogi gan fywyd gwyllt yn yr ardd!