Dach chi newydd ddechrau dysgu Cymraeg? Os dach chi, croeso mawr i Lingo Newydd! Dach chi yn y lle iawn.

Mi fydd Lingo Newydd yn ffrind da i chi ar eich taith i ddysgu Cymraeg.

Un arall sydd wedi dechrau ar daith iaith ydy Ian ‘H’  Watkins. Dach chi’n cofio ‘H’ o’r band Steps? Mae ‘H’ yn ganwr ond oeddech chi’n gwybod ei fod o’n arlunydd da iawn hefyd? Mae ‘H’ yn cymryd rhan yn y gyfres newydd o Iaith ar Daith ar S4C.

Y canwr-gyfansoddwr a chyflwynydd Bronwen Lewis sy’n helpu ‘H’ ar ei daith i ddysgu Cymraeg. Mae digon o hwyl gyda’r ddau yma! Mae Mark Pers wedi ysgrifennu adolygiad o’r gyfres ar dudalen 16.

Dechreuodd yr artist Russ Chester ddysgu Cymraeg yn 2018. Mae o’n byw yn Nhremadog yng Ngwynedd. Mae o’n dweud bod dysgu’r iaith wedi ei helpu i ddeall ystyr yr enwau ar y golygfeydd mae o’n paentio. Gallwch chi wedi ei waith a darllen mwy amdano fo ar dudalen 8.

Dach chi’n hoffi charcuterie?  Mae Bethan Morgan a’i phartner Rhun yn rhedeg cwmni cig a salami Moch Coch. Mae’r fferm ym mhentref Talog, Caerfyrddin. Mae Bethan yn defnyddio homeopathi ar ei fferm i drin yr anifeiliaid sy’n byw yn yr awyr agored. Dach chi’n gallu darllen ei stori ar dudalen 12.

Dach chi’n gwylio Pobol y Cwm? Mae’r gyfres sebon yn 50 oed ym mis Hydref. I ddathlu ei phen-blwydd, bydd cyfle i chi fynd o gwmpas set pentref dychmygol Cwmderi. Mae hanes y gyfres sebon ar dudalen 6 ac mae’r actor Jack Quick yn dweud beth mae o’n hoffi. Mae o’n actio’r cymeriad Rhys Llywelyn yn Pobol y Cwm.

Mae Rhian Cadwaladr wedi bod yn crwydro Caergybi (tudalen 10) ac mae Francesca Sciarrillo yn dweud pa lyfrau mae hi wedi mwynhau ar dudalen 14.

Cofiwch hefyd am stori gyfres Pegi Talfryn, Y Gacen Gri, ar dudalen 15.

Mae digon i’ch helpu chi ar eich taith iaith dros yr Hydref – mwynhewch!