Mae un o fy hoff gyfresi ar S4C yn dychwelyd i’n sgriniau ni y mis yma, sef Iaith ar Daith.
I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r gyfres, mae Iaith ar Daith yn rhoi cyfle i selebs Cymru drochi eu hunain yn y Gymraeg dros gyfnod o sawl diwrnod. Mae pob pennod yn dechrau gyda thipyn o gefndir am y rhai sy’n cymryd rhan a’u rhesymau dros ddysgu Cymraeg. Maen nhw’n cael eu paru gyda siaradwr Cymraeg rhugl. Fel arfer, mae ganddyn nhw lawer yn gyffredin – er enghraifft bydd pêl-droediwr yn cael ei baru gyda sylwebydd pêl-droed, ac yn y blaen. Mae hyn yn bwysig am eu bod yn rhannu’r un diddordebau ac yn gallu gwneud gweithgareddau gyda’i gilydd.
Y ddwy bennod dw i wedi mwynhau ydy un gyda’r digrifwr Igancio Lopez ac un gyda’r canwr Ian ‘H’ Watkins (o’r band Steps).
Mae Igancio Lopez yn hanner Sbaenwr a hanner Cymro. Cafodd ei eni ym Mallorca a’i fagu ym Mhontardawe. Mae o’n cael ei baru gyda’r digrifwr a’r cyflwynydd teledu a radio, Tudur Owen.
Mae Igancio yn siarad Sbaeneg yn ogystal â Saesneg, ac mae’n dweud bod hyn yn helpu gyda’i ynganu. Ond, gan ei fod yn hanu o dde Cymru, mae’n poeni am orfod siarad Cymraeg “ymysg y Gogs”!
Mae Tudur Owen yn mynd ag Ignacio ar daith o gwmpas gogledd Cymru, gan ymweld â’r Felinheli, Caernarfon, Harlech a Phorthmadog.
Yn ystod eu taith, mae Tudur yn ymuno ag Igancio wrth iddo gael profiad yn gweithio ar Reilffordd Ucheldir Cymru. Ond beth dydy Ignacio ddim yn gwybod ydy bod yn rhaid iddo gyflwyno sioe gomedi ar ben ei hun yn Gymraeg! Mae’n fedydd tân heb os, ond bydd rhaid i chi wylio i weld ei berfformiad. Fel dych chi’n gallu dychmygu, mae digon o chwerthin a thynnu coes!
Yn y bennod arall, y canwr-gyfansoddwr a chyflwynydd Bronwen Lewis sy’n helpu’r canwr Ian ‘H’ Watkins ar ei daith i ddysgu Cymraeg. Mae digon o chwerthin gyda’r ddau ganwr yma hefyd. Mae H yn dod o’r Rhondda yn wreiddiol ac yn berson aml-dalentog. Yn ogystal â chanu a sglefrio iâ (roedd o wedi cymryd rhan yn y gyfres deledu Dancing on Ice yn 2020) oeddech chi’n gwybod ei fod yn arlunydd medrus iawn hefyd?
Yn y bennod yma o Iaith ar Daith, mae H yn mynd ar daith o gwmpas de Cymru gyda Bronwen. Maen nhw’n ymweld â hen ysgol Bronwen, yn cwrdd ag arlunydd yn Aberhonddu, yn rhôl-sglefrio yn Aberdâr, ac yn gwisgo i fyny mewn drag yng Nghaerdydd! ’Dyn ni’n cael cip ar arddangosfa gelf H yng Nghaerdydd hefyd. Ar ddiwedd y rhaglen, mae H yn perfformio cân yn y Gymraeg o flaen llawer o’i ffrindiau a theulu. Dw i’n gobeithio y byddwn ni’n clywed H yn canu yn Gymraeg eto yn y dyfodol.
Mae hon yn gyfres bwysig i ddysgwyr a siaradwyr rhugl fel ei gilydd. I siaradwyr rhugl, mae’n gyfle i ddeall pa mor heriol ydy dysgu iaith newydd a pha mor bwysig ydy cynnig cefnogaeth. Fel dysgwr, mae’n braf gweld pobl adnabyddus yn ein sgidiau ni! Mae’n hwyl i weld dysgwyr mewn gwahanol gyd-destunau ac mae’n ysbrydoledig eu gweld yn datblygu hefyd. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, ond mae hyn yn un o wersi pwysicaf y gyfres yn fy marn i – does neb yn disgwyl perffeithrwydd, felly defnyddiwch eich Cymraeg a chael hwyl ar hyd y ffordd!
Mae’r bennod o Iaith ar Daith gyda Ignacio Lopez a Tudur Owen ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Bydd y bennod gyda Ian ‘H’ Watkins a Bronwen Lewis ar S4C ar nos Sul, 6 Hydref am 8pm.
Bydd Paul Rhys a Dyfan Dwyfor ar 13 Hydref, a Jess Fishlock a Catrin Heledd ar 20 Hydref.