Mae’n fore braf a dw i’n chwilio am rywle i fynd i grwydro. Dw i’n sefyll yn fy ngardd yn Rhosgadfan ac yn edrych draw am Ynys Môn. Dw i’n gweld reit dros yr ynys, at Fynydd Tŵr yng Nghaergybi. Dw i’n gweld fferi fawr yn croesi am Iwerddon a dw i’n penderfynu mynd i Gaergybi. Er mod i’n gweld Caergybi o’r ardd mae’n cymryd 50 munud i mi yrru yno, ond mae’n hawdd gyrru ar y ffordd ar draws yr Ynys.
I’r rhan fwyaf o bobl, dim ond porthladd i gyrraedd Iwerddon ydy Caergybi, ond mae llawer mwy na hynny i’r dref. Hon ydy tref fwyaf yr ynys ac mae siopau, bwytai, sinema a theatr yno.
Mae’r dref yma ers 450 OC felly mae llawer o hanes yma hefyd. Roedd Caer Rufeinig yma unwaith, a chafodd Eglwys Cybi ei sefydlu yn 550 OC.
Mae dau barc gwledig – Parc Arfordirol Penrhos a Pharc Gwledig Morglawdd Caergybi ac, wrth gwrs, Mynydd Tŵr. Dydy o ddim yn fynydd uchel iawn, ddim i ferch o Eryri fel fi. Hwn ydy mynydd ucha’r ynys ac mae o’n cyrraedd 220 metr.
Goleudy
Mae dau o’r pum goleudy sydd ar Ynys Môn yng Nghaergybi – Goleudy Ynys Lawd ydy un ohonyn nhw. Dw i wedi bod yno droeon. Mae’r olygfa yn drawiadol a’r adar yn werth eu gweld. Ond heddiw dw i’n penderfynu mynd i gerdded ar hyd Morglawdd Caergybi at yr ail oleudy, ar ben draw’r morglawdd. Dw i’n parcio wrth ymyl Parc y Morglawdd, ac yn gweld yr holl gychod bach sydd yn dawnsio ar y tonnau yn yr harbwr.
Ar ôl cerdded am ryw ddeg munud dw i’n pasio adfeilion hen adeilad mawr. Roedd yn arfer bod yn grand iawn yn ei amser dw i’n siŵr, a dw i’n trio cofio – be oedd o? Dw i’n cofio mai Soldier’s Point House ydy ei enw ac roedd o’n westy ar un adeg. Mae’n biti ei weld o’n chwalu’n araf fel hyn.
Dw i’n cyrraedd y morglawdd. Mae’r goleudy ar ei ben i weld yn bell i ffwrdd, ac mae o – 1.7 milltir i ffwrdd! Hwn yw’r morglawdd hiraf yn Ewrop. Mae’r gwynt yn blasu o halen y môr a dw i’n mwynhau cerdded yn edrych ar y cychod o bob maint – yn yr harbwr ac ar y môr.
Dw i’n dweud helo wrth y llond llaw o bobl sydd yn mynd heibio i mi – yn cerdded, rhedeg neu ar gefn beic. Dydy’r pysgotwyr ddim yn cymryd sylw ohona i. Mae llawer o bysgotwyr yma, rhai ar ben eu hunain a rhai mewn grwpiau bach. Dw i’n synnu ar yr holl offer sydd ganddyn nhw – rhai efo pebyll bach i gysgodi ynddyn nhw.
Bragdy Cybi
Dw i’n clywed sŵn mawr ac mae dau jetski yn dod i’r golwg, yn rasio’n wyllt, a prin yn cyffwrdd y dŵr. Mae’r pysgotwyr yn codi eu pennau ac yn edrych yn flin arnyn nhw.
Wrth i mi nesáu at y goleudy dw i’n gweld y fferi fawr yn cyrraedd o Iwerddon, yn llawn lorïau dw i’n siŵr – lorïau’n llawn o bob mathau o gynnyrch.
Mae’r daith yn ôl o’r goleudy yn teimlo’n fyrrach na’r daith yna. Dw i wedi cerdded yn gyflym ac yn teimlo’n sychedig ond dw i’n gwybod lle i fynd am ddiod.
Ym Mharc Busnes Cybi yn ystafell tap bragdy bach Bragdy Cybi dw i’n cael croeso mawr gan Dan y perchennog. Dw i’n cael hanner o’u cwrw crefft Môr-ish sy’n cynnwys gwymon. Mae’n mynd i lawr yn dda. Diwedd perffaith i brynhawn Sadwrn difyr.