Russ, o le dach chi’n dod yn wreiddiol a pryd wnaethoch chi symud i Gymru?
Ges i fy magu yn Newcastle upon Tyne. Yn y 1970au hwyr wnes i symud i weithio ar fferm yng Nghwm Pennant yng Ngwynedd.
Lle dach chi’n byw rŵan?
Dw i’n byw yn Nhremadog yng Ngwynedd rŵan.
Lle wnaethoch chi astudio?
Wnes i dreulio cyfnod byr yn y Coleg Celf yn Newcastle upon Tyne cyn troi fy llaw at lawer o bethau eraill.
Pryd wnaethoch chi ddechrau gwneud gwaith celf o ddifri a beth oedd eich gwaith cyn hynny?
Ar ôl symud i Gymru, wnes i ddechrau codi waliau cerrig sychion. Dros y blynyddoedd mae hyn wedi arwain at weithio ar ffermydd ar draws gogledd Cymru. Wedyn, yn hollol annisgwyl, wnes i hyfforddi i fod yn feddyg coed.
Mae’r gwaith yma o drin coed wedi mynd â fi ar draws Pen Llŷn, Ynys Môn, Gwynedd a rhannau o Gonwy.
Crawiau
Ond beth sydd gan hyn i wneud efo celf? Wel, ar ôl gweithio am 35 mlynedd yn y dirwedd, wnes i ddysgu lot. Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael mynediad i rannau o Gymru lle does dim llawer o bobl yn eu gweld. Dw i wedi bod i rannau pellaf llawer o gaeau, ffermydd, lonydd bach cul diarffordd, a chael bod yn rhan o fywydau pobl. Dw i wedi dod i adnabod y tywydd, y tymhorau, y golau, y coed, sut mae cerrig yn edrych ac yn teimlo, y caeau a’r tir.
Ro’n i wedi mynd yn rhy hen i wneud y gwaith corfforol, felly wnes i droi nôl at fy ngwaith celf.
cneifio