Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd! Dw i ddim yn mwynhau’r gaeaf o gwbl – llawer gwell gen i’r gwanwyn a’r haf.  Un o’r pethau dw i’n mwynhau fwyaf pan mae’n cynhesu yw’r posibilrwydd o eistedd tu allan efo llyfr da. Be sy’n well na hynny?

Ar ddiwrnod braf a chynnes, dw i wrth fy modd yn mynd am dro efo llyfr a fflasg fach o goffi neu siocled poeth. Dyma rywbeth dw i’n edrych ymlaen at wneud bob gwanwyn.