Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n siarad am y bylchau mewn enwau lleoedd ar fapiau a sut mae’n mynd ati i geisio eu llenwi…
Os edrychwch chi ar fap, fe welwch gannoedd o enwau lleoedd wedi’u hysgrifennu, ond fe welwch ardaloedd gwag hefyd. Mae hynny’n gwneud synnwyr; wedi’r cwbl, petai enw pob dim yn ymddangos ar y map byddai hi bron yn amhosibl ei ddefnyddio fo i ffeindio’ch ffordd o gwmpas. Hefyd, os nad ydych chi’n geek enwau (fel fi), dydych chi ddim o reidrwydd eisiau gwybod enw pob cae, craig neu faen dych chi’n pasio.
Dydy’r bylchau hyn ddim ond yn bodoli ar y mapiau, gwaetha’r modd, ond yn ein dealltwriaeth gyfan o enwau lleoedd. Rhan fawr o’m gwaith fel Swyddog Enwau Lleoedd yw ceisio llenwi’r bylchau hyn. Cymerwn ni enwau caeau fel enghraifft. Yn yr 1840au cafodd pob plwyf yng Nghymru ei fapio, er mwyn gweld faint o dir a oedd gan bawb, ac felly faint o dreth a oedd yn ddyledus ar bawb i gynnal yr eglwys wladol, sef y Degwm.
Cafodd y mapiau eu creu, ynghyd ag allweddi a oedd yn rhestru maint y caeau, pwy oedd piau nhw, beth oedd eu gwerth i’r Degwm, ac yn aml iawn, beth oedd eu henwau. Cafodd bron i 500,000 o enwau caeau eu recordio, sy’n swnio fel lot, ond mewn gwirionedd mae hynny’n llawer llai na’r nifer o gaeau sydd yng Nghymru. Mae bylchau sylweddol ar ôl, yn enwedig ym Morgannwg a Môn.
Yr unig ffordd i lenwi’r bylchau hynny yw mynd allan a chasglu enwau yn y gymuned, oherwydd yn aml iawn yr unig berson sy’n gwybod yr enwau yw’r ffermwr ei hun. Mae’n swnio fel job enfawr, dydy? Diolch byth mae sawl ffordd o fynd ati i gasglu enwau o’r fath.
Weithiau mae pobl yn cysylltu’n uniongyrchol. Mis diwethaf, er enghraifft, anfonodd ffermwr o Fagwyr-Uchaf, yng Ngwm Clydach enwau ei gaeau aton ni. Mae Cae’r efail, Cae cwm, Cae Uwchben y tŷ, Cae tyle bach a Cae ysgubor bellach yn ein Rhestr. Weithiau dyn ni’n casglu nhw mewn gweithdai cofnodi enwau. Os wnaethoch chi ddarllen fy ngholofn ym mis Gorffennaf fe welwch fy mod yn sôn am weithdai yn Eryri.
Rydym ni wedi casglu dros fil o enwau lleoedd hyd yn hyn, gyda 323 ohonyn nhw’n enwau caeau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn dod o Nant Gwynant, un o’r llefydd lle na chafodd enwau caeau eu recordio gan y Degwm.
Daeth yr enwau o nifer o ffynonellau. Mae rhai yn enwau cyfredol mae’r trigolion lleol yn eu defnyddio heddiw, rhai eraill o gatalogau sêl o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ugeinfed ganrif, rhai eraill o fapiau hanesyddol.
Gan mai dim ond fi sy’n gweithio’n llawn amser ar y prosiect enwau lleoedd, mae’n cymryd llawer o’r baich oddi ar fy ysgwyddau i os dw i’n gallu dod o hyd i waith sydd eisoes wedi cael ei wneud yn y maes.
Cafodd prosiect cofnodi enwau caeau yn Sir Benfro ei gynnal gan y Fenter Iaith leol yn 2017 er enghraifft, ac ar ôl iddyn nhw rannu eu data gyda ni, cafodd y 1700 enw roedden nhw wedi cofnodi eu hychwanegu at y Rhestr. Mae prosiect enwau caeau arall ar y gweill yn y sir, yn ardal Tyddewi, felly dw i’n aros yn eiddgar am gael cip ar beth fyddan nhw’n darganfod.
Yn ogystal â hyn, cefais anrheg gan Gymdeithas Hanes Lleol Llandyrnog yn Sir Ddinbych yn ddiweddar – cryno-ddisg yn llawn enwau caeau o’r ardal. Efallai bydda’i yn gallu llenwi hyd yn oed mwy o fylchau!