Y tro yma, Yws Gwynedd sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon.
Mae Yws yn gerddor, canwr-gyfansoddwr, pennaeth cwmni recordiau Côsh, ac wedi bod yn rhan bwysig o’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru ers mwy na 25 mlynedd. Dechreuodd ei fand Yws Gwynedd yn 2014. Ers hynny, maen nhw wedi rhyddhau tri albwm: Codi /\ Cysgu (2014), Anrheoli (2017) – a’u halbwm newydd, Tra Dwi’n Cysgu, fis diwetha’ (Tachwedd 2024). Mae Yws wedi gwneud nifer o fideos miwsig difyr, gan gynnwys fideo arbennig ar gyfer y sengl Bae, eleni.
Fel sylfaenydd y label Côsh, mae Yws yn angerddol am ddatblygu talent gerddorol Gymraeg newydd. Mae mwy nag 20 o artistiaid ar y label erbyn hyn. Eleni, cafodd Yws ei ddewis i fod yn hyfforddwr (ochr yn ochr â Syr Bryn Terfel, Aleighcia Scott, a Bronwen Lewis) yn y gyfres newydd ar S4C, Y Llais. Bydd yn cael ei chyflwyno gan Siân Eleri ac yn dechrau yn 2025.
Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?
Dw i’n tueddu i roi petha’ upbeat ymlaen pan dw i angen teimlo’n hapus. Mae Vampire Weekend yn enghraifft dda o fand sy’n gallu bod yn chwareus efo cerddoriaeth raenus sydd hefyd yn ‘neud i chdi isio dawnsio.
Maen nhw’n un o’r bandiau sydd wedi fy ysbrydoli lot dros y degawd diwetha’ hefyd.
Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?
Mae ‘na ambell gân sy wedi dod â deigryn i’r llygad dros y blynyddoedd. Mae artistiaid efo lleisiau pwerus sy’n gallu adrodd stori’n effeithiol fel Alys Williams wastad yn dod ag emosiwn i ganeuon.
Dw i’n cofio un adeg yn benodol pan fues i’n crio’n gwrando ar gân, yn cychwyn y 2000au pan wnes i ffeindio albym Grace gan Jeff Buckley. Mae ‘na gân o’r enw Lover, You Should’ve Come Over, ac wedi dysgu am hanes y canwr roedd honna’n foment emosiynol iawn.
Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?
Fel o’n i’n sôn, dw i’n caru stwff Vampire Weekend, ond mae gen i un cof o ddawnsio mewn gig fwy na wnes i erioed o’r blaen – ac yn gig Anweledig oedd hynny, yn Eisteddfod Dinbych yn 2001. Roedd egni’r band yn fyw yn hollol anhygoel.
Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?
Bob Dylan – Modern Times. Mae ‘na domen o ganeuon gwych arni, ac mae’n un o’r rhai yna dw i’n dychwelyd ati dro ar ôl tro er bo’ fi wedi gwrando arni ganwaith.
Bob Dylan ydi fy hoff artist erioed. Mae wedi recordio gymaint o ganeuon ac albyms mae wastad cyfle i glywed rhywbeth ti heb glywed o’r blaen ganddo. Tydi fy ngherddoriaeth i ddim byd tebyg i un Bob yn anffodus, ond fuaswn i’n hoffi meddwl y buaswn i’n gallu cyfansoddi tan dw i’n 80 fel y mae o wedi ei wneud.
Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?
Dim gan Topper. Cân syml yn ei hanfod ond yn un efo neges bwysig wedi’i chyfleu ar ffurf hyfryd gan lais Dyfrig [Evans] yn llawn angerdd yn bloeddio hi.
Pan mae caneuon fel hyn yn cael eu sgwennu rwyt ti’n sylwi fod ddim angen bod yn rhy glyfar wrth sgwennu, mae execution yn llawer pwysicach mewn canu pop.