Dyma gyfres newydd gan golofnydd Lingo360, Pawlie Bryant, sy’n dysgu Cymraeg, yn gerddor, ac yn byw yng Nghaliffornia. Mae’n edrych ar hoff ganeuon rhai o wynebau adnabyddus y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Y tro yma, Al Lewis sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon…
Mae Al yn ganwr-gyfansoddwr, cerddor, ac artist recordio talentog a thoreithiog. Mae e wedi rhyddhau naw albwm a phump EP ers 2009. Ar ôl i fi ddechrau dysgu Cymraeg yn 2022, ro’n i’n gwrando ar ei albymau Sawl Ffordd Allan (2009), Heulwen o Hiraeth (2014), a Pethau Bach Aur (2018). Yna, des i ar draws Battles (2013), sydd yn barod yn un o fy ffefrynnau! Rhyddhaodd Al yr albwm Ghost (2016) gyda’r artist Americanaidd Alva Leigh, a’i albwm unigol diweddaraf – Fifteen Years – ym mis Ionawr eleni.
Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?
Mae fy merch yn hoff iawn o wrando ar Siwgr gan Eden ar hyn o bryd, felly mae gweld hi’n bloeddio canu yn ‘neud finne’n hapus fyd!
Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?
Sam Cooke, A Change is Gonna Come – oherwydd neges angerddol y gân, a’r ffordd ma Sam yn ei ganu.
Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?
You Make My Dreams Come True gan Hall & Oates.
Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?
The Best of James Taylor – dyma oedd traciau sain fy mhlentyndod, tripiau car efo Mam lawr o ogledd Cymru i Gaerdydd.
Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?
God Only Knows gan The Beach Boys — perffeithrwydd.
www.allewismusic.com