Mae Irram Irshad yn fferyllydd yng Nghaerdydd sydd wedi dysgu Cymraeg. Y tro yma, mae hi’n siarad am beryglon colesterol uchel a sut i’w reoli…
Mae mis Hydref yn Fis Colesterol Cenedlaethol 2024. Pwrpas y mis yma ydy codi ymwybyddiaeth am beryglon colesterol uchel. Dylai pawb dros 40 oed gael prawf colesterol. Dych chi’n gallu cael prawf yn eich meddygfa leol.
Mae o leiaf 7.5 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn cymryd meddyginiaeth i helpu i ostwng lefelau colesterol. Ond pam mae hynny’n bwysig? Gall colesterol uchel arwain at broblemau iechyd fel trawiad ar y galon neu strôc. Mae pobl sydd â diabetes mewn mwy o berygl o’r pethau hyn, felly mae’n bwysig rheoli lefel eu colesterol hefyd.
Beth ydy colesterol?
Mae colesterol yn stwff brasterog yn y gwaed. Mae’n cael ei gynhyrchu’n naturiol yn yr iau. Mae colesterol yng ngwaed pawb. Dyn ni angen cadw colesterol yn iach achos mae pob cell yn ein corff yn ei ddefnyddio. Mae ychydig o’r colesterol yn dod o’r bwyd dyn ni’n bwyta.
Nid pawb sydd efo colesterol uchel oherwydd eu diet. Mae pobl sydd â hanes teuluol a risg uwch o glefyd y galon a strôc. Mae mynd yn hŷn hefyd yn ychwanegu at y broblem. Mae dynion yn fwy tebygol o fod â cholesterol uchel na menywod. Allwn ni ddim newid ein hanes teuluol, na mynd yn hŷn, ond ‘dyn ni’n gallu rheoli ffactorau risg fel colesterol uchel trwy ddiet, colli pwysau, ac ati.
Beth ydy colesterol uchel?
Mae colesterol yn uchel pan mae gormod o golesterol yn y gwaed. Mae hyn yn gallu arwain at drawiad ar y galon a strôc.
Beth yw’r gwahanol fathau o golesterol?
Mae dau fath o golesterol, un da ac un drwg. Os oes gormod o golesterol ‘drwg’ mae’n gallu achosi problemau iechyd.
Mae HDL yn golesterol ’da’ ac mae’r corff ei angen i wneud ei waith.
Colesterol non-HDL yw’r colesterol ‘drwg’. Mae colesterol ‘drwg’ yn cael ei alw’n golesterol ‘LDL’.
Os yw cyfanswm eich colesterol yn uchel, mae’n gallu golygu bod gennych lawer o golesterol drwg (non-HDL) yn eich gwaed. Mae lefel uchel o golesterol da yn gallu helpu i reoli’r colesterol drwg a chael gwared arno o’r corff.
Pan fyddwch chi’n mynd am brawf gwaed colesterol byddan nhw’n mesur lefelau’r colesterol da (HDL), y colesterol drwg (non-HDL) a’r triglyseridau yn eich gwaed, a chyfanswm y colesterol.
Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y canlyniadau ac ysgrifennwch y rhif i lawr. Dewch i adnabod eich rhifau!
Sut i reoli colesterol heb feddyginiaeth:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- Bwyta llai o fwyd brasterog.
- Bwyta mwy o:
- bysgod olewog (fel eog, mecryll a sardinau)
- reis brown, bara grawn cyflawn, pasta gwenith cyflawn
- ffrwythau a llysiau
- cnau a hadau.
Bwyta llai o:
- pasteiod cig, cig brasterog, selsig
- menyn, saim, ghee
- hufen a chaws caled
- cacennau a bisgedi
- bwyd sy’n cynnwys olew cnau coco neu olew palmwydd.
Ymarfer corff – ceisiwch wneud 2.5 awr yr wythnos. Dechreuwch gyda cherdded (yn ddigon cyflym i wneud i’ch calon guro’n gyflymach), nofio a beicio.
Plîs, plîs, plîs stopiwch ysmygu! Ewch i’ch fferyllfa leol a chofrestru ar eu rhaglen rhoi’r gorau i ysmygu lle gallwch gael Therapi Disodli Nicotin – am ddim! Gwnewch er mwyn eich iechyd, a meddyliwch am yr arian y byddwch chi’n ei arbed – gallwch chi fynd ar wyliau!
Yfed llai o alcohol – 14 uned yr wythnos yw’r uchafswm – a, na, dydy hynny ddim yn golygu yfed pob uned mewn un tro ar y penwythnos! Dwy uned y dydd. Dyna ddau wydraid safonol o win neu un peint o gwrw’r dydd.
Os dyw’r lefelau colesterol ddim yn gostwng ar ôl 6-12 mis, dyn ni wedyn yn ystyried meddyginiaeth.
Meddyginiaethau ar gyfer colesterol uchel
Statinau yw’r meddyginiaethau mwyaf cyffredin ar gyfer lleihau colesterol. Dych chi’n cymryd un dabled y dydd. Mae’n ddiogel i’r rhan fwyaf o bobl, er y gall achosi poen yn y cyhyrau mewn llai na 10% o gleifion. Cofiwch, nid papur meddygol yw’r Daily Mail!
Os nad yw colesterol yn gostwng yn ddigonol gyda statinau, dych chi’n gallu cymryd meddyginiaethau eraill. Ezetimibe fel arfer yw’r un arall.
Mae cymryd camau bach i wella’ch ffordd o fyw yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i’ch lefelau colesterol a’ch iechyd. Cofiwch fwyta’n iachach, ymarfer mwy, yfed llai o alcohol a rhoi’r gorau i ysmygu. Mae rhywbeth yn yr hen ddywediad: “Mae afal y dydd yn cadw’r meddyg (a’r fferyllydd) i ffwrdd!”