Dach chi’n hoffi cerdded? Dach chi’n hoffi dod i adnabod llefydd newydd yng Nghymru? Beth am fynd ar daith tywys a chael y cyfle i ymarfer eich Cymraeg yr un pryd? Mae’r teithiau Ar Droed yn cael eu trefnu gan y Mentrau iaith a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Daniela Schlick ydy Cydlynydd Prosiectau Mentrau Iaith Cymru. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360

 Daniela, fedrwch chi ddweud mwy am y teithiau tywys?

Roedd y teithiau tywys Ar Droed wedi dechrau llynedd. Roedd pedair taith natur wedi’u harwain gan Iolo Williams mewn pedwar lleoliad ar bedwar dyddiad. Roedd teithiau hefyd gydag arweinwyr lleol ar yr un dyddiadau mewn lleoliadau gwahanol ar draws Cymru. Roedd y teithiau yn llwyddiant mawr.

Ar ôl cael adborth a chlywed am ddiddordebau’r rhai oedd wedi bod ar y teithiau wnaethon ni benderfynu cynnal dwy gyfres o deithiau tywys eleni.  Fe fyddan nhw mewn pedwar adeilad arwyddocaol a phedair gardd.

Beth ydy’r syniad y tu ôl i’r teithiau tywys?

Y nod ydy rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau siarad yr iaith mewn awyrgylch hamddenol. Mae hefyd yn gyfle i ddod i nabod lleoedd yng Nghymru a dysgu geiriau arbennig. Hefyd, mae Cymry Cymraeg yn gallu ymuno er mwyn dangos bod modd cael sgyrsiau naturiol yn y Gymraeg rhwng dysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf.

Ry’n ni’n bwriadu parhau gyda’r teithiau tywys yn y flwyddyn nesaf. Dan ni heb benderfynu ar y themâu eto. Roedd llenyddiaeth/barddoniaeth a cherddoriaeth yn uchel iawn ar restr y dysgwyr hefyd. O bosib bydd teithiau gyda’r themâu yma yn y dyfodol.

Pryd mae’r teithiau’n cychwyn eleni a lle dach chi’n mynd?

Does dim teithiau Ar Droed ym mis Ionawr. Mae’r daith gyntaf yn digwydd ar 22 Chwefror yn y Senedd-dy ym Machynlleth. Bydd Arfon Hughes yn rhoi taith dywys yn y Senedd-dy ac yn sôn am hanes Owain Glyndŵr o gwmpas y Senedd a’r ardal.

Wedyn bydd lluniaeth ysgafn a phanad ar gael yng nghaffi Alys. Bydd adloniant cerddorol gan Rhian Bebb ar y delyn deires. Mae’r teithiau ar gyfer dysgwyr yn arbennig (ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi yn ddelfrydol, ond mae’n iawn i ddysgwyr hyderus ar lefel Sylfaen hefyd). Mae croeso i siaradwyr iaith gyntaf hefyd gan ein bod ni eisiau iddyn nhw gymdeithasu’n naturiol.

Mae’r teithiau eraill yn cynnwys Castell Henllys, Crymych ym mis Mawrth, y Cae Ras, Wrecsam; Portmeirion yng Ngwynedd ym mis Ebrill; Gardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin ym mis Mai, Gardd Berlysiau’r Bont-faen ym Mehefin, a Pont y Tŵr yn Sir Ddinbych (gardd Sioned ac Iwan Edwards) ar 28 Mehefin.

Mi fedrwch chi gofrestru trwy gysylltu ag ardroed@mentrauiaith.cymru.

Poster Senedd-dy Owain Glyndwr