Dych chi wedi bod i Amgueddfa Werin Cymru? Mae tua 50 o adeiladau hanesyddol yn Sain Ffagan mewn gerddi hyfryd. Mae mwy na 500,000 o bobl yn dod i’r amgueddfa bob blwyddyn. Mae’n cymryd dipyn o waith i edrych ar ôl y safle.

Mae’r gyfres Sain Ffagan ar S4C wedi bod yn edrych ar y gwaith yma o gynnal a chadw’r hen adeiladau, y gerddi, a’r arddangosfeydd.

Mae wedi rhoi cyfle i ddod i adnabod rhai o’r bobl sy’n gweithio yno. Mae llawer o’r staff yn dysgu Cymraeg. Mae Lingo360 wedi bod yn siarad gyda rhai ohonyn nhw.

Y tro yma Matthew Roberts sy’n ateb ein cwestiynau. Mae o’n gweithio fel saer maen yn yr Uned Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan.

Matthew, o ble dych chi’n dod?

Dw i’n byw ym Maesteg, ond dw i’n dod o Gaerau yn wreiddiol. Mae’n bentref bach ym mhen uchaf y cwm.

Beth ydy’ch gwaith yn Sain Ffagan? Ers pryd dych chi wedi gweithio yn yr amgueddfa?

Dechreuais i yn Sain Ffagan yn 2012 gyda chynllun bwrsari. Wnes i adael tuag at ddiwedd 2013. Des i nôl ym mis Awst 2014 i ddechrau prentisiaeth fel saer maen. Dw i wedi bod yn gweithio llawn amser fel saer maen ers 2017.

Beth dych chi’n mwynhau am y gwaith?

Rydw i’n joio gweithio yn Sain Ffagan achos dw i’n teimlo’n lwcus iawn i fod yn rhan o’r tîm sydd yn gofalu am yr adeiladau hanesyddol. Mae’n lle pwysig iawn i bobl Cymru. Mae bob diwrnod yn wahanol.

Ers pryd dych chi wedi bod yn dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd. Pan o’n i’n dechrau dysgu, darllenais i lyfrau plant Cymraeg. Wedyn dechreuais i ddefnyddio ‘Say Something in Welsh’ a gwylio eitha’ lot o deledu ar S4C, chwaraeon a Pobol y Cwm gydag isdeitlau. Dw i’n hapus wnes i ddechrau dysgu’r iaith gan fy mod i wastad wedi teimlo fel bod rhan ohono’i ar goll.

Beth sydd mor arbennig am Sain Ffagan?

Dw i’n lwcus Iawn i gael swydd yn Sain Ffagan. Mae fe’n lle arbennig ac mae cymaint o bobl yn ei garu. Mae’n unigryw.

Sain Ffagan, nos Fercher, 8.25pm, S4C

Ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer