Mae Lingo+, cartref straeon cylchgrawn dysgwyr Lingo Newydd ar-lein, wedi cael ei lansio.

Cafodd ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn Llanymddyfri heddiw (dydd Iau, Mehefin 1).

Roedd Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd a Lingo360, a Francesca Sciarrillo, colofnydd Lingo360, ar y panel.

 

Dechreuodd Francesca, sy’n dod o’r Wyddgrug, ddysgu Cymraeg ychydig dros ddegawd yn ôl, ac mae hi’n dweud bod y cylchgrawn a’r wefan wedi ei helpu.

“Mae llwyth o ffyrdd i ymgolli eich hunan yn yr iaith, gan gynnwys pethau fel hyn – Lingo Newydd sydd ar gael i helpu darllen, siarad, gwrando.

“Mi fyswn i’n dweud adnoddau fel Lingo, a llyfrau Cymraeg sydd wedi’u hanelu at siaradwyr newydd fel y gyfres Amdani.”