Dych chi wedi bod i Amgueddfa Werin Cymru? Dych chi’n hoffi cerdded o gwmpas y gerddi ac edrych ar yr hen adeiladau? Mae tua 50 o adeiladau hanesyddol yn Sain Ffagan. Maen nhw mewn gerddi hyfryd sydd dros 18 erw.

Mae’r amgueddfa yn denu mwy na 500,000 o bobl bob blwyddyn. Mae’n cymryd dipyn o waith i edrych ar ôl yr hen adeiladau, y gerddi, a’r arddangosfeydd.

Mae’r gyfres Sain Ffagan ar S4C wedi bod yn edrych ar y gwaith yma o gynnal a chadw’r amgueddfa. Mae wedi rhoi cyfle i ddod i adnabod rhai o’r bobl sy’n gweithio yno. Mae llawer o’r staff yn dysgu Cymraeg. Mae Lingo360 wedi bod yn siarad gyda rhai ohonyn nhw.

Y tro yma Luciana Skidmore sy’n ateb ein cwestiynau. Mae hi’n gweithio yng ngerddi Sain Ffagan.

Luciana, o ble dych chi’n dod?

Dw i’n dod o Frasil yn wreiddiol. Dw i’n byw yng Nghaerdydd ers deuddeg mlynedd. Dw i’n dwlu ar fyw yng Nghymru.

Beth ydy’ch gwaith yn Sain Ffagan? Ers pryd dych chi wedi gweithio yn yr amgueddfa?

 Dechreuais i yn Sain Ffagan fel gwirfoddolwr yn yr ardd yn 2018. Mwynheais i weithio yn y gerddi felly wnes i benderfynu newid gyrfa. Dechreuais i weithio fel garddwr dan hyfforddiant yn 2019. Nawr dw i’n gweithio fel Cadwraethwr Gardd.

Luciana Skidmore

Beth dych chi’n mwynhau am y gwaith?

Dw i wrth fy modd yn yr ardd! Dw i’n dwlu ar weithio gyda natur. Dw i’n mwynhau dysgu am blanhigion, hanes a’r iaith Gymraeg. Dw i’n ddiolchgar i gael cyfle i ddysgu pethau newydd bob dydd.  Dw i’n hoff iawn o siarad gydag ymwelwyr yn Sain Ffagan.

Ers pryd dych chi wedi bod yn dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Dw i’n dysgu Lefel Sylfaen ar-lein ar hyn o bryd. Dw i’n ymarfer Cymraeg bob dydd. Dw i’n hoffi darllen cylchgronau a llyfrau Cymraeg, defnyddio Duolingo, siarad Cymraeg gyda phobl yn y gwaith a gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu. Dw i’n meddwl bod dysgu iaith newydd yn agor dimensiwn diwylliannol newydd, felly dych chi’n gallu mwynhau celf, llyfrau, ffilmiau,  cerddoriaeth a thraddodiadau newydd.

Beth sydd mor arbennig am Sain Ffagan?

Dw i’n lwcus iawn i fod yn yr amgueddfa. Sain Ffagan yw’r lle mwya’ prydferth a hudolus yng Nghymru! Mae’n arbennig achos mae Sain Ffagan yn perthyn i bawb.

Mae’r gyfres Sain Ffagan ar S4C Nos Fercher, 26 Ebrill, 8.25yh