Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Dyma’r ail dasg ar gyfer lefel Uwch. Dyma oedd y dasg gyntaf.

Beth am ddod draw i Babell y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ddydd Sadwrn, 12 Awst am 11yb i gael hwyl gyda geiriau yng nghwmni Pegi Talfryn? Welwn ni chi yno!

Mwynhewch!


Cerdd Pan Dw i’n dod adre

Pan dw i’n dod adre

Dw i’n rhoi fy mag ar y bwrdd

ac yn y bag

dw i’n cadw atgofion y dydd

atgofion am y gwaith

am y daith

am bob un waith

mae’r bòs yn lladd pob gobaith.

Dw i’n rhoi fy esgidiau wrth y drws

A chodi fy nghwpan

i’w llenwi gyda bwriad

i fynd am dro

ymlacio heno

ac adfywio

tan heno

pan fydd heddiw yn dod i ben.


Beth dach chi’n ei gadw/godi pan dach chi’n dod adre, neu pan dach chi’n mynd i’r gwely, neu pan mae’r penwythnos yn dod?  Does dim rhaid odli.

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.

Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.