Wythnos yma, mae cariadon a ffrindiau ar draws Cymru wedi bod yn dathlu diwrnod arbennig iawn: Dydd Santes Dwynwen. Fel arfer, dw i’n eithaf trefnus ac yn dewis cerdyn ac anrheg fach i fy nghariad, Harri. Blwyddyn yma, roeddwn i wedi anghofio am Ddydd Santes Dwynwen yn llwyr! Cariad drwg iawn, dw i’n gwybod.

Ond nid fi oedd yr unig un oedd wedi anghofio eleni. Felly, yn lle cerdyn neu anrheg, penderfynon ni ddathlu trwy gael pryd o fwyd arbennig yn lle. I mi, mae coginio rhywbeth a rhannu bwrdd efo pobol ti’n eu caru yn un o’r ffyrdd gorau o ddangos i rywun faint maen nhw’n meddwl i ti.

Mae bwyd yn bwysig iawn i Eidalwyr ac, fel Eidales, dw i wrth fy modd yn coginio i ffrindiau a theulu. Mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig yn niwylliant Cymru hefyd.

Dw i’n tueddu i gadw at yr un ryseitiau drosodd a throsodd, oherwydd eu bod nhw’n ffefrynnau i fi, neu’n arbennig i’r teulu. Diolch byth, mae fy nghariad yn licio bwyd Eidalaidd a ryseitiau traddodiadol fy nheulu. Ac yn lwcus i mi, mae gan ei deulu o ryseitiau arbennig hefyd ar gyfer bwyd Cymreig fel cinio dydd Sul traddodiadol, lobsgóws, a theisennau cri.

Yn garedig iawn, wnaeth rhieni Harri roi llyfr coginio i fi fel anrheg Nadolig. Mae’n llawn dop o ryseitiau Cymraeg. Felly eleni, dw i am drio coginio mwy o fwyd traddodiadol Cymreig.

Wnaethon ni benderfynu aros tan y penwythnos i ddathlu Santes Dwynwen a choginio efo’n gilydd. Y bwyd dw i’n credu sy’n rhamantus yw’r prydau sy’n dod ag atgofion melys yn ôl – dêt cyntaf, efallai. Neu bryd o fwyd sy’n gwneud i rywun deimlo’n hapus.

Mae yna un rysáit arbennig dw i wedi ei gwneud ar sawl achlysur oherwydd ei bod hi’n plesio pawb.

Mae’r rysáit yma yn dod ag atgofion braf yn ôl, a dyna be’ sy’n ei gwneud yn rhamantus i fi. Y tro cyntaf i mi goginio’r pryd yma, wnaeth y ddau ohonon ni joio cymaint â chytuno i gadw’r rysáit fel trît i’w gael bob hyn a hyn.

A dyma’r rysáit: Pollo Toscanacyw iâr mewn saws tomato – efo patate fritte (sglods Eidalaidd!) a verdure sef llysiau – sbigoglys, cêl a thomatos dw i’n eu dewis fel arfer. Ychydig o lemwn a chaws Parmesan ar y top a dyna ni! Felly, rysáit syml a chyflym iawn: perffaith i gariadon neu barti o ffrindiau a theulu.

I’w wneud yn bryd tri chwrs mi fyswn i’n argymell madarch sydd wedi’u ffrio mewn olew olewydd efo garlleg a tsili i ddechrau, a tiramisu i orffen (be’ arall!). A pheidiwch ag anghofio gwydryn bach o limoncello i orffen…Salute i Santes Dwynwen – Iechyd Da!