Dach chi’n hoffi ysgrifennu creadigol? Dach chi’n mwynhau darllen storïau? Mae’r Clwb Cardiau Post Cymraeg yn cynnal cystadleuaeth i ddathlu Diwrnod y Llyfr (Mawrth 2). Mae angen ysgrifennu stori fer, hyd at 100 gair, ar gerdyn post. Cafodd y Clwb Cardiau Post Cymraeg ei sefydlu gan Nia Llywelyn ac Aled Roberts ym mis Hydref 2019. Mae Cetra Coverdale Pearson wedi dysgu Cymraeg ac yn aelod o’r clwb. Yma mae hi’n dweud mwy wrth Lingo360…

O le daeth y syniad ar gyfer y clwb?

Daeth y syniad gwreiddiol achos bod Aled Roberts yn byw yng Nghymru a Steffan Cravos, ffrind Aled, yn byw yn yr Almaen. Roedden nhw’n hoffi anfon cardiau post i’w gilydd.

Beth ydy pwrpas y Clwb Cardiau Post Cymraeg?

Nod y clwb yw cysylltu siaradwyr Cymraeg lle bynnag maen nhw’n byw trwy anfon cardiau post at ei gilydd yn y Gymraeg. Mae hefyd yn gyfle i ddysgwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen ac ysgrifennu. Mae’n helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig â Chymru fel cenedl lle bynnag maen nhw’n byw.

Hyd yn hyn mae dros 400 o aelodau yn y clwb dros y byd o bob oedran yn cynnwys aelodau yng Nghymru, Lloegr, Ewrop, De a Gogledd America ac mor bell ag Awstralia a Siapan.

Pam wnaethoch chi ymuno â’r clwb?

Wnes i ymuno gyda’r clwb pan o’n i newydd ddechrau dysgu Cymraeg. O’n i’n medru siarad ond roedd darllen ac ysgrifennu yn fater hollol wahanol! Y clwb a wnaeth i mi ddechrau darllen ac ysgrifennu. Diolch i’r clwb, dw i wedi datblygu fy sgiliau a rŵan dw i’n ddarllenwr brwd ac yn medru ysgrifennu straeon byrion.

Ydy’r clwb wedi cynnal cystadlaethau o’r blaen?

Mae’r clwb wedi trefnu cystadlaethau o’r blaen i arlunio cardiau post, fel cardiau Nadolig ac i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Ond dyma’r tro cyntaf i ni greu cystadleuaeth i ddathlu Diwrnod y Llyfr. Wnaethon ni holi’r aelodau yn ddiweddar. Mae canlyniadau’r holiadur yn dangos bod y rhan fwyaf o aelodau (tua 80%) yn cytuno bod y clwb yn eu helpu nhw i ymarfer a gwella eu sgiliau darllen ac ysgrifennu. Rydyn ni wedi cydweithio efo’r Cyngor Llyfrau Cymraeg ar y gystadleuaeth yma. Rydyn ni’n gobeithio annog mwy o bobol i fwynhau darllen llyfrau Cymraeg neu i ymestyn eu sgiliau i roi cynnig ar ddarllen llyfrau Cymraeg.

Beth sydd angen i bobl ei wneud i gymryd rhan yn y gystadleuaeth i ddathlu Diwrnod y Llyfr?

Er mwyn cystadlu, mae angen ysgrifennu stori fer, hyd at 100 gair, ar gerdyn post, hyd at faint A5. Gallwch ddefnyddio unrhyw gyfrwng – digidol, ffotograffiaeth, aml-gyfrwng, collage, peintio, lluniadu – unrhyw beth hoffech chi! Gallwch gyflwyno mwy nag un cais, yn electronig neu eu hanfon yn y post. Y dyddiad cau ydy 18 Chwefror a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth.

Beth ydy’r wobr?

Mae’r Cyngor Llyfrau Cymraeg wedi bod yn hael iawn a’r wobr yw llyfrau i’r enillwyr.

Anfonwch eich cais/ceisiadau yn y post at Garth Newydd, 19 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan SA48 7AA neu ar e-bost cardiaupost@gmail.com yn cynnwys eich enw a’ch rhif aelod. Y dyddiad cau yw 18 Chwefror.