Alba Barranco Garcia oedd enillydd cystadleuaeth stori fer Gŵyl Amdani y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Y thema oedd ‘Y Gwanwyn‘.

Yma, mae Lingo360 yn cyhoeddi‘r straeon oedd wedi dod yn ail a thrydydd.


2il – Elinor Cotton

8fed o Ionawr.

Dw i’n deffro i sŵn y cloc larwm.

“Pum munud arall,” dw i’n dweud. Mae hi’n rhy dywyll, dw i ddim isio codi.

1af o Fawrth

“Pum munud arall!” Dw i’n edrych ar y cloc larwm, ond dydy o ddim yn canu. Dw i’n gweld yr haul yn tywynnu. Dw i’n flin yn gyntaf, achos wnes i ddim cau’r llenni neithiwr. Yna dw i’n sylwi ar yr awyr euraidd. Dydy hi ddim yn gymylog neu’n bwrw glaw. Mae’r Gwanwyn yma! Mae’r adar yn canu a’r blodau’n blodeuo. Mae byd natur yn deffro – a finnau hefyd.


3ydd – Pablo Sanz Garcia

Roedd hiraeth arni hi.

Roedd hi eisiau mynd am dro gyda Tom, ond roedd y tywydd yn ofnadwy. Roedd hi’n caru’r gwanwyn, doedd hi ddim yn mwynhau’r gaeaf. Roedd y dyddiau yn ddu. Roedd y tŷ yn oer. Roedd y gwres yn rhy ddrud.

Ffoniodd Tom hi.

Oedd hi eisiau mynd i heicio gyda fe ddydd Sadwrn? Doedd hi ddim yn siŵr. “Pam ddydd Sadwrn?” Gofynnodd hi. “Mae newyddion ardderchog gyda fi! Mae’r gwanwyn yn dechrau yfory a bydd hi’n dwym ac yn heulog penwythnos yma”, dywedodd e.

“Bendigedig!” canodd ffôn Tom. Bydd yn wanwyn hapus iawn – gwenodd hi