Alba Barranco Garcia yw enillydd cystadleuaeth stori fer Gŵyl Amdani y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Y thema oedd ‘Y Gwanwyn‘.

Dyma’r stori…


Y Gwanwyn gan Alba Barranco Garcia

Heddiw yw’r diwrnod. Dw i wedi clywed straeon drwy’r fferm, mae pawb yn siarad amdano. Dw i’n nerfus, dw i ddim yn gwybod os ydw i am allu rhedeg.

Mae dyn yn dod, mae e’n agor y drws mawr. Dw i’n trio aros yn agos i mam. Mae pob dafad yn mynd allan i’r cae.

Mae’r glaswellt yn wyrdd a dw i’n gweld y daffodils melyn.  Dw i’n gwrando ar yr adar yn canu a dw i’n dawnsio gyda fy ffrindiau.  Mae hi’n heulog, ac mae’r awyr yn las.

– “Mam, beth yw hyn?”

– “Cariad, mae hi’n wanwyn!”