Mae’r misoedd nesaf yn rhai cyffrous iawn yn y byd llenyddol. Mae’n ‘gyfnod gwobrau’ lle mi fyddan ni’n gweld sawl llyfr yn cael sylw arbennig.  Wythnos yma, er enghraifft, mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi’r enillydd ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, a’r Indie Book Awards wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer 2023. Mae’r Booker Prize hefyd wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer eu gwobrau rhyngwladol.

Rhestr fer arall sydd bob tro yn ffefryn personol i mi yw’r Women’s Prize for Fiction. Bob blwyddyn, dwi’n deutha fy hun mai dyma’r flwyddyn lle mi fydda i’n llwyddo i ddarllen popeth ar y rhestr hir. Er fy mod i wedi mwynhau darllen ambell deitl sydd ar y rhestr hir eleni, dwi dal yn annhebygol o ddarllen y cwbl lot erbyn y cyhoeddiad mawr yn nes ymlaen eleni. Ond fel mae’r dywediad Eidaleg yn mynd: “cosi cosa” – neu “s’dim ots” – bydd y rhestr darllen yn parhau i dyfu beth bynnag!

Yn agosach at adra, mae yna restr fer fydda i’n awyddus iawn i ddarllen i gyd: rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, wrth gwrs! Dwi methu disgwyl i weld pa lyfrau sydd am gyrraedd y rhestr fer eleni ac yn cyfri lawr y dyddiad tan mae’n cael ei datgelu ar 21 Mai ar raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru.

A dyddiad pwysig arall i’ch dyddiadur llenyddol yw dydd Iau 1 Mehefin lle bydd enillydd y gwobrau mawreddog Tir na n-Og yn cael eu cyhoeddi yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2023. Mae’r rhestr eleni, fel bob tro, yn dathlu llyfrau arbennig iawn sydd efo themâu amrywiol, amserol a diddorol dros ben.

Ers cyhoeddiad y rhestr fer, mae ysgolion, siopau, a phobol ar draws y wlad wedi bod yn ymuno â dathliadau gwahanol fel Helfa Drysor, Cynllun Cysgodi a Chystadleuaeth Siopau. Dwi wedi bod wrth fy modd yn gweld lluniau o’r arddangosfeydd arbennig mewn siopau ar hyd y wlad.

Un o’r pethau mwyaf canolog i’r gwobrau arbennig hyn yw dathlu darllen er pleser – rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon. Felly, neidiais ar y cyfle i sôn ‘chydig bach mwy am restr fer Tir na n-Og ar raglen Prynhawn Da yn ddiweddar. Am brofiad hyfryd, a braint wirioneddol i lyfrbryf fel fi!

Yn sicr, dwi wrth fy modd efo’r cyfnod gwobrau yma ac, mewn ffordd, mae gan y gwahanol wobrau i gyd rhywbeth pwysig yn gyffredinpwysigrwydd darllen er pleser. A dyma rywbeth y gallwn ni i gyd elwa ohono – plant ac oedolion. Felly, dros y cyfnod gwobrau yma, beth am ymweld â’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol? Efallai bod eich hoff lyfr nesaf yn disgwyl amdanoch chi!