Mae pôl piniwn newydd gan YouGov i WalesOnline yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr Cymreig ddiflannu, bron, mewn etholiad cyffredinol.

Cafodd y pôl ei gyhoeddi cyn Dydd Gŵyl Dewi.

Byddai’r Ceidwadwyr yn ennill 19% o’r bleidlais yn unig, yn ôl y pôl.

Mae cyfran Llafur wedi codi o 41% yn 2019 i 53% nawr.

Cafodd 1,083 o bobol dros 16 oed yng Nghymru eu holi rhwng Chwefror 17-23.

Dim ond 7% o bobol 25 i 49 oed sy’n dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr.

Mae sawl sgandal wedi bod yn y Blaid Geidwadol ac maen nhw wedi cael tri Phrif Weinidog ers 2019.

Mae canlyniad y pôl hwn yn debyg i 2001 – doedd y Ceidwadwyr ddim wedi ennill sedd yng Nghymru.

Yn 2019, roedden nhw wedi ennill 14 sedd a 36.1% o’r bleidlais.

Mae 19% o’r bobol oedd wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn 2019 nawr yn cefnogi Llafur a 12% yn cefnogi Reform.

Mae 28% o’r bobol oedd yn cefnogi Plaid Cymru yn 2019 nawr yn cefnogi Llafur.

Mae llawer o bobol yng Nghaerdydd a’r Cymoedd yn cefnogi Llafur (62%).

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r Ceidwadwyr ennill dwy sedd, yn etholaethau Brycheiniog a Maesyfed a Sir Drefaldwyn.

Dyma’r canlyniadau sy’n cael eu darogan:

Llafur: 53%

Ceidwadwyr: 19%

Plaid Cymru: 12%

Reform UK: 8%

Democratiaid Rhyddfrydol: 4%

Y Blaid Werdd: 3%

Eraill: 1%