Mae fy nerfau i dal yn rhacs ers nos Lun, ar ôl gem gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar. A dw i’n siŵr dw i ddim yr unig un chwaith! Yr eiliad gwelais i dîm Cymru yn cerdded allan, fflag Cymru a’r Wal Goch, roeddwn i mor emosiynol – heb sôn am glywed ein hanthem anhygoel!

Roeddwn i’n dysgu dosbarth Cymraeg nos Lun, a wnaethon ni wylio Gareth Bale yn sgorio efo’n gilydd. Unwaith eto, roeddwn i’n trio peidio mynd yn rhy emosiynol ond wnes i ddim llwyddo. Fel pawb ar draws Cymru, dw i mor, mor falch o’n tîm, a dw i wir yn teimlo fel ein bod ni wedi ennill yn barod.

Oherwydd fy mod i’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth a chasglu recordiau, dw i’n licio dechrau bob gwers Gymraeg efo cân. Mae’n ffordd o gyflwyno fy nosbarth i steil a genres gwahanol o gerddoriaeth Cymraeg. Dw i hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig i’w cyflwyno nhw i gerddoriaeth oherwydd y rôl fawr a phwysig mae’n chwarae yn ein diwylliant ni.

Mae hyn yn amlwg wrth gwrs efo ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan, yn enwedig dros y misoedd diwethaf. Dyma’r gân ddewisais chwarae iddyn nhw wythnos diwethaf, ond y fersiwn arbennig ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae wedi bod yn ddiddorol siarad efo pawb yn y dosbarth ar ôl iddyn nhw wrando ar y cân i weld beth maen nhw’n meddwl ohoni. Ges i ymateb da i’r gân a’r fideo wythnos yma sef Calon y Ddraig gan Dom James, Lloyd & dontheprod. Dewisais hon eto oherwydd Cwpan y Byd, ond hefyd oherwydd fy mod i wrth fy modd efo hi.

Wythnos nesaf, mi fydda i’n chwarae cân arall sydd wedi cael ei chwarae drosodd a throsodd yn tŷ ni ers iddi gael ei rhyddhau: Ennill yn Barod gan Ani Glas. Dw i wrth fy modd efo’i cherddoriaeth hi, ac yn caru ei sengl newydd. Dw i’n gobeithio bod fy nosbarth yn cytuno wythnos nesaf!

Wrth feddwl am ganeuon pwysig i’n diwylliant a Chwpan y Byd, penderfynais greu rhestr caneuon i’r dosbarth, ac i fi fy hun hefyd, i ddathlu Tîm Cymru. Felly dyma bump o fy hoff ganeuon sy’n gysylltiedig â phêl-droed. Dw i’n gobeithio eu bod nhw’n gwneud i chi wenu (a dawnsio!), ac yn helpu efo’ch dathliadau:

Rhif 1: Ennill yn Barod gan Ani Glas

Rhif 2: Calon y Ddraig gan Dom James, Lloyd & dontheprod

Rhif 3: Bricsen Arall gan Los Blancos

Rhif 4: O HYD gan Sage Todz

A Rhif 5: Yma o Hyd Cwpan y Byd (wrth gwrs, be arall?!)

C’mon Cymru!